Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Ysbryd y gymuned enillydd 2023

Sefydlwyd tudalen Facebook South Wales Sponsorship for Ukraine gan grŵp o wirfoddolwyr o bob rhan o dde Cymru wedi i Rwsia ymosod ar Wcráin ym mis Chwefror 2022.

Roedd y gwirfoddolwyr am gynorthwyo’r bobl oedd yn ffoi o Wcráin, a’r teuluoedd oedd am eu lletya, drwy gynnig cymorth i baru gwesteion o Wcráin â theuluoedd lletya. Roedd hon yn broses sensitif gan fod angen sicrhau bod pobl yn cael eu paru â theuluoedd addas. Ar ôl paru’n llwyddiannus, roedd y grŵp hefyd yn cynorthwyo teuluoedd oedd yn lletya, a phobl o Wcráin, gyda’r broses o gael fisa, a sicrhau cyllid ar gyfer hediadau i’r DU neu gostau llety eraill tra’r oeddynt yn aros nes byddai’r fisa yn cael ei roi mewn gwlad arall. Pan fyddai’r gwesteion o Wcráin  yn cyrraedd, byddai’r gwirfoddolwyr hefyd yn helpu i drefnu dillad a phethau ymolchi pe bai angen. Llwyddodd y grŵp i baru dros 1,000 o westeion o Wcráin â lletywyr.

Ochr yn ochr â’r gwaith paru bu rhai aelodau o’r grŵp Facebook hefyd yn cynghori Llywodraeth Cymru ar faterion yn ymwneud ag argyfwng ffoaduriaid Wcráin a pha gymorth y gellid ei ddarparu. Fe wnaethant hefyd gynhyrchu canllawiau i gynorthwyo a chynghori’r lletywyr ynghylch beth i’w ddisgwyl. Ymroddodd y gwirfoddolwyr lawer iawn o’u hamser personol i gefnogi pobl oedd wedi ffoi o Wcráin, a hynny ochr yn ochr ag ymrwymiadau teuluol a swyddi llawn amser. Mae eu cymorth wedi helpu llawer o bobl o Wcráin i ddod o hyd i ddiogelwch a noddfa yn ne Cymru.