Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Gweithwyr hanfodol

Nia yw rheolwr Gwasanaeth Allgymorth Iechyd Meddwl Tŷ Canna, sy’n cefnogi cannoedd o unigolion ledled Caerdydd.

Mae ganddi dros 35 mlynedd o brofiad mewn gofal cymdeithasol, ac mae ei hymrwymiad wedi helpu pobl drwy adferiad i gyrraedd eu potensial.

Yn ystod pandemig COVID-19 sylweddolodd yr effaith yr oedd ynysigrwydd cymdeithasol yn ei chael, felly fe newidiodd ffocws y gwasanaethau hanfodol drwy eu darparu’n rhithwir. Fe wnaeth helpu i sefydlu a goruchwylio 40 o grwpiau cymorth ar-lein/wyneb yn wyneb, yn ogystal â chynnig cymorth LDHT+ drwy wasanaethau cwnsela.

Cynigwyd gwasanaethau i unigolion ac i deuluoedd.

Sicrhaodd Nia hefyd bod pobl yn gallu cael gafael ar nwyddau hanfodol, fel bwyd a meddyginiaeth, drwy eu casglu ei hun, a threfnodd gymorth i bobl fynychu apwyntiadau hanfodol, er enghraifft triniaethau canser.

Mae Nia wedi arwain nifer o fentrau drwy gyfnod COVID, fel ‘School in a Box’, mewn partneriaeth ag Admiral, oedd yn cynnig cymorth i deuluoedd a oedd yn addysgu gartref, cwnsela trawma a rhoi dyfeisiau TG i’r bobl mwyaf agored i niwed. Roedd gwirfoddolwyr â phrofiad bywyd yn gymorth allweddol drwy gydol y cyfnod a chawsont eu gwobrwyo i gydnabod hyn. Mae rhai o’r gwirfoddolwyr bellach yn gweithio fel Cymheiriaid yn y GIG ac mewn Gofal Cymdeithasol.

Symudodd Nia yn sydyn allan o’r cyfnod clo i ailagor 55 o sesiynau grŵp wyneb yn wyneb, darparu mentrau newydd mewn partneriaeth ag eraill, megis “Growing Green”, “Breathe Creative” a chymorth CREW a arweinir gan ddefnyddwyr i leihau ynysigrwydd cymdeithasol a chefnogi’r broses adfer.