Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Chwaraeon enillydd 2023

Mae Olivia Breen yn 26 oed ac yn athletwraig baralympaidd sy’n rhedeg dros Gymru. Ei phrif gystadlaethau yw’r sbrint T38 a naid hir F38.

Dechreuodd ei gyrfa yn y byd athletaidd yn 2012 pan gafodd ddosbarthiad cenedlaethol mewn diwrnod talent UK Athletics i redeg fel athletwraig anabl T38. Ddiwedd mis Mehefin fe wnaeth gystadlu yn y Pencampwriaethau Ewropeaidd yn yr Iseldiroedd, a dychwelodd adref gyda dwy fedal efydd.

Yna, fe’i dewiswyd i gynrychioli Tîm GB yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012, lle bu’n cystadlu yn y cystadlaethau 100m, 200m a 4x100m.  Hi oedd y Paralympiad ieuengaf ond un yn y tîm.

Yn 2014, cynrychiolodd Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow, a daeth i’r pedwerydd safle.

Fe wnaeth hi gystadlu yn y ras 100m a’r naid hir yn y Gemau Paralympaidd yn Rio yn 2016.

Enillodd wobr aur yn naid hir F38, gyda naid orau ei bywyd o 4.81metr ym Mhencampwriaethau Athletau Para’r Byd yn Llundain yn 2017.Daeth yn bedwaredd yn ras 100 metr T38.

Yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2018 ar y Gold Coast, Awstralia, enillodd fedal Aur yn y naid hir ac fe neidiodd 4.86metr – ei naid orau, a record Gemau’r Gymanwlad. Enillodd fedal efydd hefyd yn y ras 100m T38.

Roedd yn aelod o Dîm GB yng ngemau Olympaidd Tokyo 2020, a ohiriwyd ac enillodd hi fedal efydd yng nghystadleuaeth y naid hir.

Yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham yn 2022, enillodd fedal aur yn y naid hir F38.