Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Diwylliant

Gyda’i gilydd, mae Jonathan Powell a Daniel Staveley yn rhedeg Oriel a Stiwdios Elysium yn Abertawe. Wedi ei sefydlu yn 2007, crëwyd Elysium i gefnogi a hyrwyddo’r celfyddydau yn Abertawe a’r ardal ehangach, gyda phwyslais ar gydweithredu a chymuned.

Mae Oriel Elysium wedi defnyddio sawl un o adeiladau canol dinas Abertawe fel cartref ers cael ei sefydlu 16 mlynedd yn ôl. Ar hyn o bryd mae wedi ei lleoli mewn hen glwb nos ar Stryd Fawr Abertawe ac mae’n rhan ganolog o seilwaith celfyddydol ac adfywiad ardal o’r ddinas sydd o dan anfantais economaidd.

Fel gweledydd artistig, mae Jonathan yn gyfrifol am raglennu’r oriel, creu partneriaethau â grwpiau cymunedol a chydlynu gweithgareddau dysgu, tra bod Daniel yn rhedeg y stiwdios artistig sy’n cynnwys mwy na 90 o stiwdios dros 4 safle yng nghanol y ddinas, ac yn edrych ar ôl 100 o artistiaid.

Mae’r Oriel a’r Stiwdios yn cefnogi ecoleg o artistiaid sy’n ffynnu ar nifer o wahanol lefelau yn eu gyrfaoedd, o raddedigion i ymarferwyr byd-enwog.

Dros y blynyddoedd mae Elysium wedi dod yn rhan hanfodol o sîn gelfyddydol Abertawe a Chymru gyda’i rhaglen ddeinamig o ddigwyddiadau a gweithgareddau cymunedol a diwylliannol.

Mae gwaith ymgysylltu cadarn yr oriel yn cynnwys amrywiaeth eang o sefydliadau llawr gwlad, ac wedi rhoi cychwyn ar brosiectau rhyngwladol uchelgeisiol fel arddangosfa baentio y BEEP sy’n denu miloedd o ymwelwyr i Abertawe bob dwy flynedd.

Mae Elysium yn sefydliad a arweinir gan artistiaid ac mae wedi datblygu enw da am gefnogi artistiaid, cerddorion a pherfformwyr newydd o amrywiaeth eang iawn o gefndiroedd, gan hyrwyddo Abertawe a Chymru fel magwrfa o dalent artistig cyffrous. 

Er gwaetha’r rhwystrau, mae Elysium yn parhau i ffynnu a thyfu. Y rheswm pennaf am hyn yw ymrwymiad, gwaith caled a gweledigaeth Jonathan, Daniel a’r sîn gelfyddydol Gymraeg y maent yn ei chefnogi.