Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Dewrder

Roedd Owain Williams ar ei ffordd adref o'r ysgol pan ddigwyddodd ddamwain ddychrynllyd reit wrth ei ymyl – gwrthdrawiad rhwng fan a char. Cafodd Owain ei daro gan y fan a chwalodd wal yn rhannol ar ei ben. Fe wnaeth Victoria James, athrawes gyflenwi yn yr ysgol, ynghyd â dau arall sef Steven Wardman a Ross Wellington, gamu i'r adwy i ddarparu cymorth cyntaf ar ochr y ffordd, gan weithredu'n gyflym ac yn anhunanol. Heb os, fe wnaeth eu hymyrraeth hanfodol helpu i achub bywyd Owain. O ganlyniad i gael ei daro gan y fan a'r wal gwympo, dioddefodd Owain anafiadau difrifol a bygythiol i'w fywyd.

Yn y sefyllfa frawychus hon, nid yn unig y dangosodd y tri oedolyn ddewrder go iawn ond dangosodd Owain ei hun ddewrder hefyd wrth wynebu'r digwyddiadau trawmatig hyn mor ifanc. Mae wedi dangos gwroldeb a phenderfyniad anghredadwy wrth oresgyn ôl-effeithiau'r digwyddiad a'i anafiadau. Yn ogystal, mae'r digwyddiad wedi tynnu cymuned yr ysgol at ei gilydd wrth iddynt gydweithio i sicrhau bod yr ysgol yn lle hygyrch i Owain.