Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Diwylliant enillydd 2016

Mae’r bardd, dramodydd ac awdur, Owen Sheers o'r Fenni. Enillodd deitl Llyfr y Flwyddyn Cymru yn 2005 gyda’i ryddiaith “The Dust Diaries”. Ysgrifennodd nofel yn 2007 o’r enw “Resistance” fel nofel hanesyddol amgen a gafodd ei addasu ar gyfer ffilm.

Yn 2011, ysgrifennodd Owen y sgript ar gyfer “The Passion”, cynhyrchiad 72 awr ym Mhort Talbot gan Theatr Genedlaethol Cymru, wedi ei gyfarwyddo gan Michael Sheen a ymddangosodd yn y ffilm hefyd. Enillodd Sheers deitl Llyfr y Flwyddyn Cymru unwaith eto yn 2013 gyda “Pink Mist”. Ysgrifennodd y ddrama “The Two Worlds of Charlie F” a gafodd ei berfformio gan filwyr iawn.

Yn 2014 perfformiwyd ei gerdd “Mametz Wood” gan Theatr Genedlaethol Cymru mewn coedwig hynafol ger Brynbuga. Cafodd ei ddisgrifio fel un o’r cynyrchiadau mwyaf arloesol i goffau canmlwyddiant ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn 2015 cyhoeddodd ei ail nofel “ I saw a Man” ac fe ymunodd Prifysgol Abertawe fel Athro mewn Creadigrwydd ble mae’n chwarae rhan allweddol o feithrin creadigrwydd ymysg staff, myfyrwyr a’r gymuned.