Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Dewrder

Wnaeth yr heddwas o Wrecsam, Cath Parry, ddim oedi am eiliad wrth fynd i'r afael â dyn peryglus gyda chyllell a aeth i mewn i siop tra roedd hi allan gyda'i mam-yng-nghyfraith yng Nghroesoswallt. Gan ddangos arwyddion o baranoia a phroblemau iechyd meddwl difrifol, roedd y dyn yn chwifio’r gyllell yn fygythiol ac yn gweiddi ar siopwyr eraill. Er fod ei ymddygiad yn ymosodol, yn anghyson ac yn dreisgar, ac er ei fod yn bygwth PC Parry, arhosodd hi yn ddigynnwrf a daliodd ati i siarad ag ef.

Llwyddodd i gyfyng’r dyn o fewn ciosg tybaco'r siop, i ffwrdd o'r siopwyr a'r staff eraill, ac fe'i cadwodd yno nes i'r Swyddogion Heddlu lleol gyrraedd. Ar ôl iddyn nhw gyrraedd, llwyddodd un o'r swyddogion a PC Parry i ddal y dyn i lawr nes iddo gael ei arestio. Roedd y swyddog, er nad oedd ar ddyletswydd, wedi gweithredu gyda dewrder a phroffesiynoldeb heb betrusodim mewn sefyllfa a allai fod yn beryglus gyda dyn anwadal ac arfog. Drwy ei gweithredoedd llwyddodd i gadw staff a siopwyr yn ddiogel ac yn atal y digwyddiad rhag gwaethygu ymhellach.