Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Rhyngwladol

Mae Peter Carter Jones o Gastell-nedd a Phwyllgor Ymgyrch Cofeb Cymru yn Fflandrys wedi cael eu dewis fel teilyngwyr am eu gwaith diflino e sicrhau cofeb addas ar gyfer milwyr o dras Gymreig a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn dilyn ymweliad â Fflandrys, sylwodd Peter nad oedd unrhyw gofeb genedlaethol ar gyfer milwyr Cymreig a laddwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn yr ardal. Gwnaeth hyn ysbrydoli Peter i sefydlu ymgyrch i gywiro hyn a chodi arian ar gyfer cofeb newydd yn Fflandrys i gofio’r rhai a gollodd eu bywydau. Sefydlodd hefyd cysylltiadau â thref Langemark yn Fflandrys, a oedd yn awyddus i gefnogi’r prosiect.

Ffurfiodd bwyllgor i’w helpu yn ei ymgais i godi digon o arian ar gyfer y gofeb. Cododd yr ymgyrch, a barhaodd am dair blynedd, fwy na £100,000 gan gynnwys cyfraniad o £1,000 gan Grŵp Awduron Castell-nedd, a gyhoeddodd lyfr ‘Myfyrdodau ar Ryfel’, wedi ei gysegru i’r bardd a’r milwr Cymreig, Hedd Wyn. Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddigolledi unrhyw ddiffyg cyllid.

Cafodd y gofeb drawiadol, draig efydd a ddyluniwyd gan y cerflunydd o Sir Gaerfyrddin Lee Odishaw, wedi ei osod ar ben cromlech a’r Ardd Goffa Gymreig eu dadorchuddio mewn seremoni emosiynol ym mis Awst 2014, ym mhresenoldeb mwy na mil o bobl gan gynnwys gwesteion pwysig o Wlad Belg a Chymru.