Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Busnes

Mae Peter Radcliffe yn Gadeirydd Castalum Ltd, y Trallwng, ers dros 20 mlynedd. Mae Castalum yn gwmni castio a pheiriannu alwminiwm o fri rhyngwladol ac mae arweinyddiaeth Peter wedi bod yn allweddol i lwyddiant masnachol y busnes.

Maen nhw’n cyflenwi i lawer o wneuthurwyr cerbydau mwya’r byd - Volkswagen, BMW, Ford, Mercedes, Jaguar ac Aston Martin. Gyda dros 220 o staff, Castalum yw un o brif gyflogwyr y canolbarth ym maes gweithgynghyrchu. Mae Castalum yn adnabyddus am ei arloesedd; yn 2016, enillodd wobr Cwmni Ffederasiwn Metelau Cast y Flwyddyn. Dros y 5 mlynedd diwethaf, Mae’r cwmni wedi buddsoddi £4,000,000 i leihau ei allyriadau CO2. Mae Peter wedi sicrhau bod y cwmni nid yn unig yn darparu swyddi sy'n talu'n dda a rhaglen brentisiaethau, ond hefyd yn cefnogi mentrau cymunedol ac amgylcheddol fel y clwb beicio lleol a phwll dŵr i hybu bywyd gwyllt ar y safle. Mae Tesla bellach yn gwsmer hefyd.

Er i Peter ymddeol o'r busnes yn ddiweddar, mae'r cwmni'n parhau i fod yn ymrwymedig i'w hethos a'u hymdrechion cynaliadwyedd am fod hynny o fudd i'r cwmni, eu cwsmeriaid a'r gymuned leol. Mae ymdrechion amgylcheddol yn ehangu - yn ddiweddarach maent yn harneisio gwres prosesau i wresogi tanwydd ar bwll nofio yr ysgol leol.