Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Diwylliant enillydd 2023

Stiwdio greadigol Gymreig yw UNIFY a gyd-sylfaenwyd gan yr artistiaid gweledol Yusuf Ismail a Shawqi Hasson. Mae UNIFY yn gyfrifol am rai o’r prosiectau celfyddydol a diwylliannol pwysicaf yn y ddinas, a’u nod yw gwneud y diwydiant creadigol yng Nghymru yn fwy cynhwysol a hygyrch.

Mae UNIFY yn defnyddio adeiladau yng Nghaerdydd ar gyfer eu murluniau sy’n hyrwyddo cynhwysiant yn y byd chwaraeon ac maent wedi datblygu mentrau addysgiadol i helpu pobl ifanc i fynegi eu hunain a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Mae gosodwaith celf arloesol y stiwdio sef "My City, My Shirt", sydd yn dangos trigolion Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol Caerdydd mewn crys Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, wedi agor drysau i nifer o brosiectau ar y cyd, gan gynnwys gwaith gyda brandiau chwaraeon Americanaidd fel Adidas a WWE.

Dyma’r tro cyntaf i nifer o bobl yng Nghymru weld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu yn y ddinas o’u hamgylch. Mae wedi dod yn gyfystyr â thirwedd newidiol y brifddinas, gan ddefnyddio’i hadeiladau fel cynfas ar gyfer cynlluniau cyfoes sy’n portreadu pobl Dduon Cymru.

Yn 2020, cyflwynodd UNIFY ei fenter addysgiadol gyntaf sef “Visionary”. Rhaglen yw hon wedi ei chynllunio i helpu pobl o gymunedau Du, Brown a lleiafrifol Caerdydd i fynegi eu hunain yn greadigol, a datblygu sgiliau a fydd o fantais iddynt, pa bynnag yrfa y byddant yn ei dewis.