Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Dyngarol enillydd 2020

Mae Rachel Williams yn eiriolwr arweiniol yn yr ymgyrch yn erbyn cam-drin domestig Mae Rachel wedi goroesi 18 mlynedd o gam-drin domestig difrifol, a ddaeth i ben ar ôl i'r dyn a oedd yn ei cham-drin ei saethu hi ac wedyn ei grogi ei hun. Chwe wythnos wedyn grogodd ei mab 16 mlwydd oed ei hun o ganlyniad i ddioddef blynyddoedd o gam-drin ac wedi gweld ei fam yn cael ei saethu. Bu iddi oroeso o drwch blewyn, ac mae hi bellach yn ymgyrchu'n ddiflin i helpu goroeswyr eraill.

Mae hi ar flaen y gad wrth sicrhau bod y bil cam-drin domestig yn mynd drwy'r Senedd, ac ar 13 Medi 2019 cynhaliodd y gynhadledd gyntaf i gael ei harwain gan bobl sydd wedi goroesi cam-drin domestig yn ne Cymru: Stand Up to Domestic Abuse (#sutda), lle daeth llawer o bobl sydd wedi goroesi cam-drin a gweithwyr proffesiynol at ei gilydd. Mae Rachel yn ddewr, yn garedig ac yn frwd, ac mae hi wedi rhoi ei bywyd i helpu menywod ledled y wlad.

Mae Rachel yn llysgennad ar gyfer y Freedom Programme, ac mae hi wedi bod yn gweithio gyda SafeLives am flynyddoedd lawer, yn gyntaf fel aelod o'r Grŵp 'Ffrindiau a Theuluoedd' a phellach fel un o arloeswyr SafeLives. Mae hi'n dod â'i chalon, gonestrwydd, dewrder ac arbenigedd llwyr i'w gwaith. Byddai SafeLives yn sefydliad cwbl wahanol hebddi hi.

Ni waith a yw hi ar fyrddau prosiectau cam-drin domestig neu'n siarad â'r cyfryngau cenedlaethol, mae Rachel o ddifri ym mhopeth mae hi'n ei wneud a'i ddweud. Mae hi'n newid y sector cam-drin domestig drwy ddod â'r holl leisiau hyn at ei gilydd, ac mae hi'n newid bywydau'r menywod y mae hi'n eu cynrychioli.