Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Rhyngwladol

Magwyd Rhinal Patel ym Mhontypridd. Mae'n ferch i ffoadur o Affrica a mudwr economaidd o'r India.

Rhoddodd y gorau i yrfa broffil uchel yn gweithio gydag enwogion megis Angelina Jolie i deithio'r byd a helpu pobl llai ffodus na hi ei hun.

Treuliodd amser hefyd yn dysgu sut i gynnal ei hun gyda llwyth o helwyr a chasglwyr. Arweiniodd hyn iddi roi ei harian teithio i gyd i blant y slymiau yn India, gan deithio adref heb arian. Er gwaethaf y peryglon, ffawd heglodd adref a chael help gan ddieithriaid i herio nifer o broblemau cymdeithasol, ac mae wedi rhoi cyfweliadau ynghylch hyn yn y Gymraeg ac ar y cyfryngau rhyngwladol.

Mae bellach wedi sefydlu elusen o'r enw "Pursuit of Happiness" ac mae yn cynnal gweithdai ar hawliau dynol mewn partneriaeth â sefydliadau rhyngwladol megis Amnesty International, gan ofalu am yr amgylchedd a mwynhau'r funud.

Rhai o'r pethau positif a wnaeth oedd lleihau gwastraff plastig a bwyta cig yng nghymunedau'r flavellas a'r Amazon ac ysbrydoli menywod i wrthwynebu trais. Mae bellach yn ysgrifennu am ei phrofiadau ac roedd hefyd yn brif siaradwr Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn Stadiwm y Principality, Tedx a chynhadledd y Cenhedloedd Unedig yn ddiweddar ar newid hinsawdd.

Ei her nesaf fydd bod y fenyw gyntaf i gerdded ar hyd afon y Ganges. Bydd yn canolbwyntio'n bennaf ar rymuso menywod, pwnc sy'n agos iawn at ei chalon wedi cael ei dilyn a dioddef ymosodiadau  sawl gwaith.

Mae'n gobeithio ysbrydoli mwy o bobl yng Nghymru i wneud rhywbeth gwahanol a dilyn eu breuddwydion ac i annog cefnogaeth ar gyfer pobl fregus yn rhyngwladol, gan weld drwy ei hanesion na ddaw gwir hapusrwydd trwy dderbyn yn unig ond drwy roi, a'r parodrwydd i roi, yn enwedig i'r rhai llai ffodus.