Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae Robert Scott yn swyddog carchar ymroddedig yn CEF Berwyn. Gŵr sy’n ymgorffori pŵer trawsnewidiol addysg o fewn gwasanaeth cyhoeddus.

Ar ôl ymuno â'r cynllun peilot Hyfforddiant Oedolion Ifanc i ddechrau, aeth Rob ati yn ddiwyd i gwblhau'r cymhwyster Hyfforddi'r Hyfforddwr Lefel 2 gyda Dysgu Oedolion Cymru. Nawr, mae'n defnyddio ei brofiadau i ysbrydoli a hwyluso sesiynau hyfforddi a ar gyfer ei gyd-swyddogion, gan feithrin diwylliant o gydweithredu a datblygiad proffesiynol parhaus o fewn y carchar.

Mae effaith Rob yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’w lwyddiannau personol; mae ei ymrwymiad wedi ysgogi cydweithwyr i gychwyn ar eu llwybrau dysgu eu hunain, gan gryfhau'r bartneriaeth rhwng Dysgu Oedolion Cymru, Cymdeithas y Swyddogion Carchardai, a CEF Berwyn.

Gan werthfawrogi gwaith tîm, cyd-barch a phwysigrwydd dysgu gydol oes, mae Rob yn arwain trwy esiampl, gan gredu y gall pob unigolyn wella gyda'r gefnogaeth gywir. Mae ei ymroddiad diwyro, ei ostyngeiddrwydd, a'i allu i feithrin newid cadarnhaol yn eithriadol, gan sicrhau y bydd ei ddylanwad o fudd i gymuned y carchar am flynyddoedd i ddod.