Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer y wobr Dyngarol

Mae Robin Jenkins yn dod o Fro Morgannwg yn wreiddiol, ac ef yw sylfaenydd Atlantic Pacific, Prosiect Badau Achub Rhyngwladol sy'n nodi ardaloedd lle mae nifer uchel o bobl yn boddi ac sy'n agored i drychinebau, ac yn darparu badau achub pwrpasol iddyn nhw, ynghyd â gorsafoedd badau achub symudol a gwirfoddolwyr sydd wedi derbyn lefel uchel o hyfforddiant i'w helpu.

Cafodd y prosiect ei sefydlu ar ôl ymweliad â Kamaishi yn 2014, y lle cyntaf yr effeithiwyd arno gan Ddaeargryn Mawr a Tsunami y Dwyrain ar 11 Mawrth 2011.

Hefyd roedd yn wirfoddolwr yn ddiweddar ar Sea-Watch 3, cwch sy'n cael ei arwain gan wirfoddolwyr yn bennaf, sydd â'r nod o achub ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn nyfroedd Ewrop. Yn ystod yr amser hwn roedd yn gyfrifol am achub 32 o bobl, gan gynnwys babi a nifer o blant oddi ar arfordir Libya ym mis Rhagfyr 2018.

Yn ogystal â'i waith dyngarol ei hun, mae Robin hefyd yn galluogi eraill i gyfrannu at ei ymdrechion dyngarol; er enghraifft, drwy hyfforddi gwirfoddolwyr i helpu'r criw ar fadau achub, a thrwy raglen ysgol haf mae'n ei rhedeg yng Ngholeg yr Iwerydd, sydd â'r nod o roi'r sgiliau i gyfranogwyr sydd eu hangen i fod yn Aelodau o Griw Atlantic Pacific.

Mae'r cynllun hwn wedi bod yn llwyddiannus iawn, gyda 50% o'r bobl sy'n cael eu hyfforddi o dan y cynllun yn mynd yn eu blaenau i weithio i gyrff anllywodraethol mewn ardaloedd sydd wedi dioddef trychinebau. Mae nifer o'r rhain wedi helpu gyda'r argyfwng ffoaduriaid yng Ngwlad Groeg ac mae eraill wedi cyfrannu at yr ymdrechion i sefydlu gorsaf badau achub yng Ngogledd Siapan.