Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Busnes

Rod Parker yw Rheolwr Gyfarwyddwr Gwalia Healthcare, cwmni gweithgynhyrchu y mae eu prif adnodd wedi ei leoli yn Nhrefforest. Mae teulu un o sylfaenwyr y busnes yn dal i fod yn berchen ar Gwalia, a Rod yw’r drydedd genhedlaeth i reoli’r cwmni. Mae busnes craidd Gwalia yn canolbwyntio ar weithgynhyrchu deunydd pecynnu fferyllol ac mae gan y cwmni bresenoldeb cryf yn y farchnad sy’n darparu technoleg a all wrthsefyll ymyrraeth gan blant, a gwasanaethau ychwanegol sy’n cynnwys cydosod dyfeisiadau meddygol.

Dros y blynyddoedd, mae Gwalia wedi wynebu nifer o heriau gan gynnwys newidiadau i ddeddfwriaeth, cyflwyno pecynnau swigod, ac yn fwy diweddar, canlyniad y llifogydd a achoswyd gan Storm Dennis a’r pandemig wythnosau’n unig yn ddiweddarach.

Yn ystod mis Chwefror 2020, cynghorwyd Rod i gau’r busnes a rhoi’r staff ar ffyrlo. Er hynny, o ganlyniad i’w feddwl chwim, fe welodd gyfle i ddarparu diheintydd dwylo ar yr adeg yr oedd y mwyaf o’i angen. Galluogodd hyn y cwmni i gynhyrchu mwy na 500,000 o boteli, gan ddiwallu anghenion contractau sylweddol cynghorau lleol a Gwasanaeth Iechyd Gwladol Lloegr, a fu oll yn defnyddio poteli a chaeadau a wnaed ar y safle a hyrwyddo ethos amgylcheddol Gwalia. Sicrhaodd gallu Rod i ymateb i alw amrywiol ddyfodol y cwmni gan warchod swyddi presennol ar yr un pryd, a chynyddu cyfleoedd cyflogaeth yn ystod y cyfnodau prysuraf o gynhyrchu.

Datblygu adnodd o’r radd flaenaf yn Llantrisant yw prosiect diweddaraf Rod, sy’n galluogi’r cwmni i gynnig contractau pecynnu fitaminau gan ddefnyddio cydrannau a gynhyrchwyd yn Nhrefforest. Mae hynny’n golygu y gall reoli’r gadwyn gyflenwi yn llwyr er budd y cwsmeriaid.

Mae penderfyniad a brwdfrydedd Rod i’w weld ym mhob agwedd ar ei fusnes, ac mae wedi hynny wedi helpu i sicrhau bod Gwalia yn gwmni gwydn a llwyddiannus.