Rusna Begum
Enwebiad ar gyfer gwobr Arwr Cymunedol
Mae Rusna Begum o Gasnewydd yn arbennig oherwydd ei hymrwymiad cyson i wasanaethu, i arwain ac i sicrhau cynhwysiant. Ar ben ei swydd arferol gyda’r NHS yn y dydd, sefydlodd Rusna KidCare4U, sy'n cefnogi bron i 500 o bobl bob wythnos - menywod, pobl ifanc, a theuluoedd amrywiol ar ymylon cymdeithas.
Mae Rusna yn ysbrydoli eraill fel Ynad, aelod o Banel Cynghori Annibynnol Heddlu Gwent, ac ar fwrdd Sefydliad Bevan, a sawl rôl wirfoddol arall. Mae Rusna wedi chwalu rhwystrau mewn addysg, chwaraeon a chyflogaeth – gan alluogi menywod i gael profiad gwaith, pobl ifanc i ennill cymwysterau hyfforddi, a rhoi Gwobr Dug Caeredin ar gael am y tro cyntaf yn ei chymuned.
Mae hi wedi hyrwyddo rhaglenni iechyd a lles sy’n parhu diwylliant amrywiol; wedi hyrwyddo negeseuon iechyd cyhoeddus cywir yn ystod y pandemig, ac wedi meithrin balchder trwy ddathliadau diwylliannol. Mae arweinyddiaeth dosturiol Rusna, a’i gwaith o blaid amrywiaeth, wedi trawsnewid bywydau di-ri. Dynes ysbrydoledig yng nghymdeithas Cymru.
