Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Diwylliant enillydd 2020

Dyfarnwyd Gwobr Dennis Potter 2006 i Russell T Davies am ei wasanaethau i ysgrifennu ar gyfer y teledu, a chafodd e OBE yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2008 am ei wasanaethau i fyd drama. Yn 2015 dyfarnwyd Gwobr Urdd Awduron Prydain Fawr i Russell am ei Gyfraniad Eithriadol at Ysgrifennu.

Cafodd Russell ei eni yn Abertawe yn 1963. Ac yntau wedi graddio o Brifysgol Rhydychen, mae wedi creu nifer o gyfresau sydd wedi ennill gwobrau, gan gynnwys 'Queer as folk', 'Bob and Rose', chyfres a dorrodd dir newydd ac a enillodd Gwobr Gomedi Prydain ar gyfer Ysgrifennwr y Flwyddyn a'r Ddrama Gomedi Orau; 'The second coming', a enillodd Wobr yr RTS (y Gymdeithas Deledu Frenhinol am y Ddrama Rwydwaith Orau, a Gwobr Broadcast News am y Ddrama Sengl Orau. Aeth ymlaen i roi bywyd newydd i'r gyfres ffuglen wyddonol glasurol o Brydain 'Doctor Who' a enillodd nifer o wobrau – gan gynnwys Gwobr BAFTA i Russell am y Gyfres Ddrama Orau – a 'Torchwood', a enillodd Wobr BAFTA i Russell am y Gyfres Ddrama Orau. Ers hynny mae wedi creu'r triawd 'Cucumber', 'Banana' a 'Tofu' a enillodd Wobr BAFTA iddo am yr Awdur Drama Gorau a Gwobr BPG am Arloesi yn 2016. Gwnaeth e addasu 'A very English scandal' ar gyfer BBC 1, gan ennill Gwobr y Rose d'Or am y Gyfres Gyfyngedig a'r Ffilm Deledu Orau a Gwobr Broadcast News am Ddrama y Flwyddyn yn 2018. Ysgrifennodd y ddrama chwe rhan a gafodd lawer o ganmoliaeth 'Years and years' ar gyfer BBC 1/HBO, ac ar hyn o bryd mae'n ffilmio ei ddrama pum rhan 'Boys' ar gyfer Sianel 4.