Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg enillydd 2021

Yn ystod pandemig COVID-19 nodwyd angen brys gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru. Roeddent yn wynebu mwy o bwysau ar eu gwasanaethau oherwydd yr amser estynedig sydd ei angen i lanhau ambiwlans yn drylwyr ar ôl iddynt gludo claf yr oeddent yn amau bod ganddo COVID-19 i’r ysbyty. Gallai'r drefn lanhau flaenorol gymryd hyd at ddwy awr ac weithiau bu'n rhaid gwneud y gwaith glanhau mewn canolfannau glanhau arbenigol, a allai fod gryn bellter o'r orsaf ambiwlans neu'r ysbyty.

Datblygwyd sialens i weithio gyda diwydiant, academia, y Weinyddiaeth Amddiffyn ac Innovate UK i ddarganfod datrysiadau newydd i wella’r broses hon. Ariannwyd y sialens gan Lywodraeth Cymru gan weithio gyda Chanolfan Ragoriaeth Menter Ymchwil Busnesau Bach. O fewn chwe wythnos, daeth mwy na 200 o geisiadau i law a dewiswyd rhai busnesau i ddatblygu a phrofi eu datrysiadau ar gyfer ambiwlansys yng Nghymru.

Mae'r prosiect hwn wedi arwain at lawer o arbedion gan gynnwys lleihau'r amser y mae'n ei gymryd i lanhau ambiwlans o 86%, gan roi amser i staff ymgymryd â dyletswyddau eraill tra bo'r broses lanhau yn digwydd, a gostyngiad mawr yng nghost glanhau ambiwlans. O ganlyniad i'r prosiect hwn, mae gwaith ar y gweill i edrych ar sut y gellir defnyddio’r hyn a gafodd ei ddysgu o'r prosiect hwn mewn meysydd eraill, megis ysgolion.