Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Person Ifanc enillydd 2023

Ymgyrchydd amgylcheddol 12 oed o Fairbourne yng Ngwynedd yw Skye Neville.

Yn ddarllenydd brwd, cafodd Skye fraw o weld faint o becynwaith a theganau plastig rhad oedd wedi eu cynnwys gyda rhai o’i hoff gylchgronau. Canfyddodd bod oddeutu 10 miliwn darn o blastig yn cael eu rhoi i ffwrdd am ddim gyda chylchgronau a chomics pobl ifanc bob wythnos. Penderfynodd wneud rhywbeth am y peth, ac ysgrifennodd lythyrau at y cyhoeddwyr, ei Haelod Seneddol, y cyfryngau a manwerthwyr. Yna, dechreuodd Skye ddeiseb ar Change.org sydd wedi ei llofnodi gan fwy na 66,000 o bobl. Daeth llwyddiant mawr Skye pan glywodd uwch reolwr yn Waitrose am ei hymgyrch a chytuno gyda hi. O fewn wythnosau roeddynt wedi peidio gwerthu comics a chylchgronau oedd yn cynnwys teganau plastig rhad.

Bellach, Skye yw Prif Swyddog Ymgyrchu Kids Against Plastic, ac yn sgil hynny mae wedi siarad â Chyngor Cynaliadwyedd y Cenhedloedd Unedig. Mae’n ymddangos yn aml mewn cyhoeddiadau ar y cyfryngau ac yn siarad mewn amrywiol ddigwyddiadau. Mae Skye wedi ymddangos ar y rhaglenni Regenerators a Newsround ar sianel CBBC.

Yn fwy diweddar, mae Skye wedi treulio tri mis yn gwirfoddoli fel Swyddog Plastig Morol yn COPROT, sef prosiect cadwraeth crwbanod y môr yn Costa Rica. Yma, mae Skye wedi bod yn helpu i drafod gydag ysgolion a chymunedau lleol, gan drefnu sesiynau glanhau’r traeth ac archwilio ffyrdd o ailgylchu gwastraff plastig. Mae Skye hefyd yn cynnal rhaglen addysgiadol bob mis o’r enw EcoChamps, sydd â’r nod o ymgysylltu a chysylltu â phobl ifanc o bob rhan o’r byd. Mae ei gwaith ymgyrchu wedi ysbrydoli miloedd o bobl ifanc ar draws y byd i gredu bod ganddynt lais a’u bod yn gallu cyflawni newid.