Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Menter

Steve Downey yw perchennog busnes Hannaman Material Handling, o Lannau Dyfrdwy.

Mae'r cwmni yn arbenigo ym maes gwasanaeth trin deunyddiau llawn i'w cwsmeriaid trwy ddarparu a gwasanaethu tryciau fforch godi, platfformau mynediad, systemau rheoli fflyd, hyfforddiant i ddefnyddwyr ac offer gofalu am loriau diwydiannol. Mae gan y cwmni hefyd dros 15,000 o eitemau mewn warws ac offer swyddfa o'u catalog arlein newydd Hannaman Store.

Yn dilyn gyrfa gyda'r lluoedd arfog, prynodd Steve y cwmni yn 2013 ac mae wedi troi'r cwmni yn fusnes modern, effeithiol sy'n creu elw ac sy'n creu enw da am gyflenwi cynnyrch o safon a gwasanaeth rhagorol gyda'r.

Mae trosiant y cwmni wedi dyblu a nifer y staff wedi cynyddu o 16 i 25.

Mae Steve hefyd yn hyrwyddo cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith gyda phob un o'i weithwyr, gan gynnwys "cynllun awgrymiadau" pob mis ble y gall weithiwr dderbyn hyd at £150 fesul awgrym. Caiff pob gweithiwr hefyd ddefnyddio y "Perkbox" ble y cânt hwy a'u teuluoedd dderbyn gostyngiadau a thalebau ar amrywiol nwyddau a gwasanaethau.

Mae Steve yn aelod o Fwrdd Fforwm Busnes Glannau Dyfrdwy (DBF) ac mae'r cwmni yn gyflenwr swyddogol Rali GB Cymru.