Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Chwaraeon enillydd 2014

Y Farwnes Tanni Grey-ThompsonYn un o athletwyr mwyaf llwyddiannus Cymru, enillodd Tanni Grey-Thompson 16 medal Paralympaidd, gan gynnwys 11 Medal Aur, yn ystod 27 mlynedd ei gyrfa lewyrchus fel rasiwr cadair olwyn ar y lefel uchaf y byd athletau. Llwyddodd ddwywaith i gyflawni’r gamp o ennill 4 Medal Aur mewn un Gemau Olympaidd, y tro cyntaf ym Marcelona yn 1992 ac eto yn Sydney yn 2000. 

Bu’n dal 30 record byd ar amrywiol bellteroedd, gan gynnwys bod yn fenyw gyntaf i gwblhau 400m mewn llai na munud. Yn Bencampwr y Byd ar bum achlysur, enillodd Tanni bum medal arall ym Mhencampwriaethau’r Byd. Hefyd enillodd farathon cadair olwyn menywod Llundain chwech o weithiau. Enillodd gystadleuaeth Personoliaeth Chwaraeon y flwyddyn BBC Cymru dair gwaith.

Ar ôl ymddeol o gystadlu yn 2007, daeth i fod yn gyflwynydd teledu ac yn hyfforddwr a mentor i athletwyr ifanc, yn bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl.

Wedi graddio mewn gwleidyddiaeth, mae wedi bod yn amlwg mewn bywyd cyhoeddus, yn gweithio yn y byd chwaraeon a gweinyddiaeth gyhoeddus. Cafodd ei gwneud yn Fonesig yn 2005, yn arglwydd am oes fel y Farwnes Grey-Thompson yn 2010 ac mae’n aelod gweithgar o Dŷ’r Arglwyddi. 

Wedi’i geni yng Nghaerdydd, mae Tanni’n ddysgwraig frwd, ac fe gafodd ei derbyn i’r Orsedd yn 2009. Yn sgil ei llwyddiant, chwalwyd nifer o’r rhwystrau a oedd yn wynebu chwaraeon pobl anabl yng Nghymru ac ar draws y DU, ac fe heriwyd rhagdybiaethau pobl am anabledd. Mae’n cael ei gweld fel esiampl ar gyfer athletwyr y dyfodol.