Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Gweithiwr Allweddol enillwyr 2024

Criw bach ond ymroddedig yw Tîm Therapi ac Adferiad Brynawel Rehab, sy’n darparu rhaglenni asesu ac adsefydlu ar gyfer oedolion â dibyniaeth, anhwylder defnyddio sylweddau neu Niwed i'r Ymennydd sy'n Gysylltiedig ag Alcohol. Mae'r tîm yn gweithio ochr yn ochr â therapyddion, staff meddygol a therapyddion galwedigaethol i drin 100 o bobl y flwyddyn ar gyfartaledd. Mae eu dull therapiwtig yn eu galluogi i weithio gyda phobl ag anghenion cymhleth ynghyd â phroblemau iechyd meddwl a thrawma.

Cynllunnir y rhaglenni triniaeth o amgylch pob unigolyn, gan weithio tuag at amcanion adferiad mewn 'pentref adfer' diogel a thawel. Darperir ymyriadau ar bob cam o adferiad yr unigolyn. Mae hyn yn cynnwys rhandiroedd therapiwtig, gerddi a therapi garddwriaethol sy'n caniatáu i bobl fod yn berchen ar damaid o randir a dysgu sgiliau newydd wrth ofalu am blanhigion a bywyd gwyllt. Ar yr un pryd mae’n hybu sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu.

Rhoddir cymorth i deuluoedd, ffrindiau a gofalwyr hefyd drwy’r grŵp cymorth 'Lleisiau Anghofiedig'.

Yn ystod pandemig Covid, fe wnaeth y tîm oresgyn heriau mawr i gynnal gwasanaeth llawn.

Pan fydd cleientiaid yn gorffen eu rhaglen driniaeth, maen nhw’n gallu cael mynediad am flwyddyn gyfan at wasanaeth newydd y tîm 'Tu hwnt i Frynawel' er mwyn cynnal eu hadferiad.

Mae’r adborth am ganlyniadau positif eu gwaith gyda rhai o'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas wedi bod yn ysbrydoledig.