Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Gweithiodd y tîm bach o Nyrsys Ymchwil, Swyddogion Ymchwil a Chynorthwywyr Ymchwil ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe gyda'i gilydd i gefnogi timau clinigol gyda Threialon Ymchwil Clinigol. Yn ystod y pandemig, roeddent yn canolbwyntio ar dreialon Iechyd Cyhoeddus Brys fel blaenoriaeth. Yn y pen draw, roedd y dystiolaeth o'r treialon hyn yn llunio'r cyngor a ddarparwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JVCI) i Lywodraethau'r DU.

Gwnaeth y tîm addasu i’r newid cyflym (gan gynnwys cael eu dadleoli o'u safle yn Singleton, adleoli staff a gweithio gyda thimau clinigol a oedd yn naïf o ran y broses ymchwil) i sicrhau bod y gwaith ymchwil yn parhau yn ystod cyfnod pan oedd y byrddau iechyd o dan gymaint o bwysau. Darparodd eu hastudiaethau sylfaen dystiolaeth ar gyfer darganfod opsiynau triniaeth newydd, ac o ganlyniad i hynny cafwyd cynnydd o ran cyfradd goroesi cleifion COVID-19.

Sicrhawyd bod opsiynau triniaeth ychwanegol ar gael i gleifion drwy gymryd rhan mewn gwahanol dreialon ymchwil – fel y treialon RECOVERY, REMAP-CAP a SPRINTER. Ers hynny mae rhai o'r triniaethau hyn wedi pennu safonau gofal. Gwnaethant hefyd gyfrannu at dreial GenOMICC, a oedd yn darparu tystiolaeth enetig bwysig – gan nodi'r risg gynyddol i aelodau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (BAME) o'r boblogaeth yn gynnar yn y pandemig. (Roedd Bae Abertawe ymhlith y 3 safle recriwtio uchaf yn y DU ar gyfer yr astudiaeth hon!).

Gwnaeth ymroddiad y tîm gyfraniad sylweddol i iechyd a gofal dinasyddion yn ystod pandemig COVID-19, gyda rhai canlyniadau ardderchog. At hynny, mae'r gefnogaeth y maent wedi'i dangos yn gyson i’w gilydd wedi bod yn rhagorol.