Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Chwaraeon

Mae Rygbi Byddar Cymru yn cynnig cyfle i chwaraewyr rygbi byddar a thrwm eu clyw chwarae rygbi rhyngwladol dros Gymru. Roedd timau rygbi byddar dynion a menywod Cymru ill dau yn fuddugol yng Nghwpan y Byd Rygbi Byddar 2023 yn yr Ariannin fis Ebrill diwethaf. Dyma oedd y drydedd fuddugoliaeth Cwpan y Byd yn olynol i dîm Dynion Cymru a'r tro cyntaf i'r merched ennill Cwpan y Byd. Cynhaliwyd yr ornest gyntaf ar ffurf twrnamaint 15-bob-ochr pedwar tîm yn Seland Newydd yn 2002. Roedd hefyd yn cynnwys cystadleuaeth saith bob ochr a enillwyd gan Japan. Yn yr ail ornest, yn 2018, Cwpan y Byd saith bob ochr yn unig a gynhaliwyd yn Sydney, Awstralia. Eleni oedd y tro cyntaf i gystadleuaeth merched gael ei chynnal. Mae Cymru'n enillwyr dwbl am y tro cyntaf yn eu hanes ac wedi ennill pob digwyddiad Rygbi Byddar y Byd y maent wedi cystadlu ynddo. Cefnogir carfan dynion a merched byddar Cymru gan reolwr tîm a phrif hyfforddwr i bob tîm, yn ogystal â dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain a chynorthwywyr hyfforddi. Mae holl waith caled y ddau dîm, eu hyfforddwyr a'u staff meddygol wedi talu ar ei ganfed, gan eu gwneud y timau gorau i gynrychioli eu gwlad. Mae’r holl waith caled wedi talu ar ei ganfed!