Tomi Roberts-Jones
Enwebiad ar gyfer gwobr Chwaraeon
Mae Tomi yn fyfyriwr ysgol o Gaerdydd gyda pharlys yr ymennydd. Mae'n berson ifanc ysbrydoledig sydd wedi rhagori ym maes chwaraeon ac athletau gan arbenigo yn y ras 100m a’r naid hir.
Mae Tomi wedi goresgyn heriau personol a chorfforol i gyrraedd y brig – heddiw, mae’n Bencampwr Ieuenctid y Gymanwlad yn y Sbrint Para 100m. Mae wedi gwneud cynnydd rhagorol ym myd chwaraeon drwy ei ymroddiad cyson i hyfforddiant a'i berfformiadau diweddar dros dymor 2022/2023.
Yn ddiweddar, gwobrwywyd Tomi gyda lle yn Nhîm Cymru ar gyfer Gemau Ieuenctid y Gymanwlad. Yno, enillodd Tomi Fedal Aur hanesyddol yn 100m T38 y Dynion gyda’i amser gorau eto, sef 13.27 eiliad. Dyma'r tro cyntaf i unrhyw chwaraeon paralympaidd gael eu cynnwys yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad.
Gyda'r fuddugoliaeth hon mae Tomi wedi sicrhau bod ei enw yn llyfrau hanes chwaraeon.
Mae Tomi yn delio’n benderfynol a diflino â'r heriau y mae ei anabledd yn eu cyflwyno ac mae ganddo agwedd bositif bob amser. Mae'n croesawu unrhyw her ac mae'n fodel rôl i bobl o bob oed.