Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Person Ifanc enillydd 2020

Mae Tyler Ford yn 12 mlwydd oed ac yn byw yn Abertawe. Mae Tyler wedi bod yn bencampwr bocsio cic y byd naw gwaith, mae wedi ennill tair medal aur yng Ngemau Crefftau Ymladd y Byd, ac ef oedd y person ifancaf i gael ei gyflwyno i Oriel Anfarwolion y Crefftau Ymladd pan oedd yn wyth mlwydd oed. Hefyd Tyler yw Pencampwr Bocsio Cenedlaethol Cymdeithas Bocsio Amatur Cymru a Phencampwr Crefftau Ymladd Cymysg Prydain. Mae Tyler wedi ennill dros 200 medal aur mewn cystadlaethau cenedlaethol. Derbyniodd Wobr Dinesydd Ieuenctid Prydain ym Mhalas Westminster yn 2018 am wasanaethau i chwaraeon ac elusennau.

Y prif reswm dros enwebu Tyler yw ei waith elusen dros blant eraill, ysbytai a chanolfan yr RSPCA.

Er enghraifft, yn ddiweddar helpodd Tyler ffan a oedd yn sâl iawn â chanser, ac a oedd wedi bod yn yr ysbyty am bum mis ac wedi cael llawer o lawdriniaethau. Ymwelodd â'r bachgen yn yr ysbyty, gan roi ei Fedal Aur Pencampwriaeth y Byd iddo a dweud mai fe yw'r pencampwr mewn gwirionedd. Hefyd cododd e arian i brynu cadair olwyn a oedd wedi cael ei haddasu'n arbennig, fel y gallai adael ei wely ysbyty.

Mae Tyler yn llysgennad ar gyfer ymgyrchoedd gwrthfwlio fel Bullies Out a Bully Beware, ac mae'n cefnogi elusennau eraill sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau plant - mae'n gwneud hyn oll yn ogystal â mynd i'r ysgol, actio a bod yn ddyn styntiau ifanc.