Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr arbennig y Prif Weinidog enillydd 2022

Yr Urdd yw mudiad mwyaf Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc. Maent yn darparu cyfleoedd chwaraeon a diwylliannol gwerthfawr i bobl ifanc yng Nghymru ac mae'r sefydliad yn dathlu ei ben-blwydd yn 100 oed eleni.

Bob blwyddyn, mae plant a phobl ifanc Cymru yn codi eu llais drwy Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd i dynnu sylw at bwnc byd-eang pwysig penodol. Bydd y neges eleni, a gyflwynir ym mis Mai, yn canolbwyntio ar yr Argyfwng Hinsawdd.

Yr hydref diwethaf agorodd y sefydliad ei ganolfan breswyl ym Mae Caerdydd i ymhell dros 100 o blant a theuluoedd fel rhan o gynllun ailsefydlu Afghanistan. Mae arfer gorau'r Urdd bellach yn cael ei weithredu eto, drwy ddefnyddio canolfan breswyl i gefnogi hyd at 250 o bobl sy'n cyrraedd o'r Wcráin.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

"Rwy'n arbennig o falch o ganmol Urdd Gobaith Cymru yn gyhoeddus, yn ei chanmlwyddiant, am weithio mor galed i ddarparu croeso cynnes a chymrerinol i bobl sy'n ffoi rhag trawma a thrychineb dyngarol. Dangosodd yr Urdd yn wirioneddol y dull 'Tîm Cymru' rydym wedi'i ddatblygu ynghyd â sefydliadau partner eraill, wrth fynd y tu hwnt i'w rôl arferol a darparu catalydd hanfodol ar gyfer ein hymdrechion i groesawu unigolion a theuluoedd sy'n ceisio noddfa yng Nghymru.

"Rydym wedi ymrwymo i fod yn Genedl Noddfa, ac mae'r Urdd wedi bod yn enghraifft ysbrydoledig o sut mae hyn yn edrych yn ymarferol."