Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Dewrder

Dangosodd William Newbury o Ben-y-bont ar Ogwr ddewrder eithriadol yn wyneb perygl yn ystod digwyddiad erchyll yng Nghaerdydd ar 30 Mawrth 2025.

Wrth ymweld â ffrindiau yn ardal Llanrhymni, clywodd William sgrechian ofnadwy a darganfod ei ffrind Emily Drew a'i babi newydd-anedig dan ymosodiad gan dri chi y tu mewn i'w cartref. Heb oedi eiliad, aeth i mewn i'r eiddo trwy ffenestr, gan ddiogelu'r babi yn gyflym mewn cadair wthio a’I roi tu allan i’r tŷ. Wrth i'r cŵn barhau i ymosod, helpodd William Emily i ddianc drwy'r ffenestr, gan ei chau y tu ôl iddi rhag i’r cŵn eu dilyn.

Wedi'i ddal y tu mewn, defnyddiodd William giât babi i amddiffyn ei hun, gan ddioddef ymosodiad parhaus am tua 15 munud. Arweiniodd ei weithredoedd anhunanol at anafiadau difrifol, wythnos yn yr ysbyty, nifer o lawdriniaethau a chreithiau parhaol. Mae dewrder a greddf William i amddiffyn eraill mewn sefyllfa sy'n peryglu bywyd yn ei wneud yn wirioneddol deilwng o'r Wobr Dewrder.