Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Gweithiwr Allweddol enillwyr 2023

Huggard yw prif ganolfan Cymru ar gyfer pobl sy’n ddigartref ac yn cysgu allan yng Nghaerdydd. Daeth pandemig COVID-19 â heriau ychwanegol i bobl ddigartref, yn enwedig y rheini sy’n byw â phroblemau camddefnyddio sylweddau. Yn ystod y cyfnod hwn, arhosodd Huggard ar agor 24 awr y dydd, gan reoli risgiau yn rhagweithiol ac yn gadarnhaol a chadw pobl yn ddiogel.

Bu’r Tîm Lleihau Niwed yn cynnig cymorth a chyngor ymarferol, megis cofrestru gyda meddyg teulu a gwasanaethau triniaethau eraill, yn ogystal â darparu a gwaredu offer di-haint i ddefnyddwyr i leihau’r risg eu bod yn ailddefnyddio neu’n rhannu offer, gan ddarparu cymorth lleihau niwed arloesol.

Yn ystod y pandemig a hyd heddiw, fe wnaethant hefyd weithio’n ddiflino i ymestyn eu gwasanaethau drwy fynd â nhw i lefydd lle’r oedd pobl yn ynysu, gan eu cefnogi i dderbyn gwasanaethau triniaethau, gan leihau’r niwed a’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r defnydd o sylweddau a’r pandemig ei hun.

Mae Huggard hefyd yn rhedeg Hwb Ymyrraeth Hanfodol, sy’n rhoi mynediad drwy’r dydd a’r nos i gleientiaid at gymorth dwys ynglŷn â thai a byw’n annibynnol, a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau arbenigol. O ganlyniad, bu’r tîm yn cefnogi rhai o’r unigolion mwyaf agored i niwed drwy gydol y pandemig, gan ddarparu gwasanaeth eithriadol, yn aml gan roi eu hunain mewn perygl, gydag aelodau’r tîm yn mynd y tu hwnt i’w dyletswyddau disgwyliedig er mwyn gwarchod a chefnogi’r rheini oedd mewn angen.