Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Person Ifanc

Gofalwr ifanc 17 oed o Gaerdydd yw Zinzi Sibanda. Er gwaetha’r heriau mae Zinzi yn eu hwynebu bob dydd, mae hi wedi rhagori’n academaidd, ac mae hi’n awdur sydd wedi ennill gwobrau ac yn ffotograffydd talentog.

Ers iddi fod yn 12 oed mae Zinzi wedi helpu i ofalu am ei mam Donna, a gafodd ddiagnosis o enseffalitis ymylol awto-imiwn. Mae wedi helpu ei mam gyda thasgau dyddiol fel glanhau, siopa a choginio a chyd-bwyso hynny gyda gwneud ei gwaith ysgol. Cafodd A ym mhob pwnc yn ei harholiadau TGAU yr haf diwethaf ac mae bellach yn astudio Safon Uwch mewn Cemeg, Bioleg a Mathemateg yn Ysgol Gyfun St Cyres ym Mhenarth. Mae’n gobeithio mynd ymlaen i astudio Cemeg yn Rhydychen neu Gaergrawnt.

Mae Zinzi hefyd yn gerddor, ffotograffydd ac awdur talentog. Yn ddiweddar fe enillodd Wobr Awdur Heddwch Ifanc Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru am ei thraethawd grymus ar fynd i’r afael â chydraddoldeb hiliol a’r frwydr i sicrhau hynny. Mae tri o’i ffotograffau hefyd yn cael eu harddangos yn Oriel Mycelium National Theatre Wales.

Yn ddiweddar enillodd Zinzi Wobr Gofalwr Ifanc yng Ngwobrau Ieuenctid Cenedlaethol Hanes Pobl Dduon Cymru a drefnwyd gan Race Council Cymru mewn cydnabyddiaeth o’r hyn y mae wedi ei gyflawni, a’r ffaith ei bod yn ysbrydoliaeth i bobl ifanc.