Neidio i'r prif gynnwy

Gallwch enwebu pobl ar-lein – mae’r broses yn syml.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Gwobrau Dysgu Proffesiynol Cymru i roi cydnabyddiaeth i’r goreuon yn eu maes mewn ysgolion o bob cwr o Gymru ac i ddathlu ymroddiad athrawon a’u gwaith caled a sut y maent yn ysbrydoli disgyblion.

Bydd pobl yn gallu enwebu pobl broffesiynol ym maes addysg, ynghyd ag ysgolion cyfan, ar gyfer y gwobrau. Caiff y buddugwyr eu cyhoeddi mewn digwyddiad arbennig yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, ddydd Sul 7 Mai 2017.

Gallwch enwebu pobl ar-lein – mae’r broses yn syml. Ymhlith y categorïau mae:

  • Athro / athrawes y flwyddyn.
  • Pennaeth y flwyddyn.
  • Gwobr am hyrwyddo lles disgyblion a/neu gynhwysiant mewn ysgol.
  • Gwobr am gefnogi athrawon a dysgwyr.
  • Gwobr i ysgol gyfan am hyrwyddo perthynas dda â rhieni a’r gymuned.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Mae bod yn athro’n waith anodd iawn – ond mae hefyd yn waith pwysig ofnadwy.

“Mae’r gwobrau newydd hyn yn gyfle i ddiolch i athrawon a rhoi cydnabyddiaeth i athrawon ac arweinwyr gwych.

“Felly dyna ofyn am enwebiadau: rwy’n galw ar ddisgyblion, rhieni ac ysgolion i enwebu eu hoff athrawon er mwyn inni ddathlu rhagoriaeth ym maes addysg.”

Caiff Gwobr Griffith Jones ei chyflwyno i’r enillwyr. Bu i Griffith Jones o Landdowror gyfrannu’n fawr at droi Cymru’n un o wledydd mwyaf llythrennog y byd yn y 1700au.

Bydd panel o feirniaid o bob cwr o Gymru’n cael ei ffurfio i graffu ar yr enwebiadau.