Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yn gyfle i gydnabod a dathlu'r gwaith ieuenctid rhagorol sy'n digwydd ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cafodd enillwyr y gwobrau eleni eu cyhoeddi neithiwr mewn seremoni yn Llandudno.

Mae'r gwobrau'n adlewyrchu natur amrywiol gwaith ieuenctid yng Nghymru, ac yn dangos yr effaith y mae gwaith ieuenctid a gweithwyr ieuenctid yn ei chael ar bobl ifanc a'u cymunedau cyfagos.

Mae enillydd y wobr 'Gweithiwr Ieuenctid Eithriadol', Kelly Powell, yn rhedeg GoodVibes, grŵp ieuenctid LHDTC+ yn Abertawe. Mae wedi bod yn rym pwerus, gan ddarparu gwasanaeth sy'n newid bywyd i’r bobl ifanc sy'n rhan o’r grŵp. Mae llawer ohonynt wedi dioddef gwahaniaethu, bwlio a phroblemau iechyd meddwl.

Mae'r elusen GISDA wedi ennill gwobr ‘Arloesedd yn y Gymraeg’, sy’n cydnabod y gwaith y maen nhw’n ei wneud wrth ddarparu cymorth i bobl ifanc ddigartref ac agored i niwed yng Ngwynedd. Mae'r gwasanaethau'n cynnwys darparu llety, cymorth iechyd meddwl a chyfleoedd i wirfoddoli, a phob un yn cael ei ddarparu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae enillwyr y wobr Arloesi Digidol, tîm digidol Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, wedi gweithio gyda grŵp o bobl ifanc yng Nghaerdydd i sefydlu grŵp sy'n creu cynnwys digidol, sef ‘y Crewyr Ifanc’.

Mae'r prosiect wedi rhoi profiad i bobl ifanc o greu ffilmiau, golygu, newyddiaduraeth a ffotograffiaeth, yn ogystal â'r cyfle i fod yn rhan o brosiect cyfnewid gyda grŵp ieuenctid o America.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

Mae gwaith ieuenctid yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu amgylcheddau diogel a chynhwysol i bobl ifanc lle cânt eu cefnogi i gyrraedd eu potensial llawn.

Mae'n ysbrydoledig gweld yr enghreifftiau gwych a niferus o waith ieuenctid sy’n cael eu cydnabod yn y gwobrau eleni. Mae’n galonogol gweld pobl a sefydliadau yn cydweithio i sicrhau bod Cymru'n wlad lle gall pob plentyn, person ifanc a theulu ffynnu.

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £13m o gyllid uniongyrchol eleni i helpu i sicrhau bod awdurdodau lleol a sefydliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol yn cefnogi pobl ifanc yn eu hardaloedd lleol. Mae'r cyllid hwn wedi treblu ers 2018, gan adlewyrchu'r rôl hanfodol y mae'n ei chwarae wrth gefnogi pobl ifanc i gyrraedd eu potensial.

Cafodd y rhestr lawn o enillwyr ei chyhoeddi neithiwr yn seremoni Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru yn Venue Cymru yn Llandudno.