Neidio i'r prif gynnwy

Sut i enwebu 

I enwebu, rhaid i chi ddefnyddio'r ffurflen enwebu. Gallwch ddefnyddio'r ffurflen i gyflwyno enwebiad ysgrifenedig neu enwebiad fideo.

Canllawiau ar gyfer cyflwyno enwebiad ysgrifenedig

Mae'r ffurflen enwebu yn gofyn am wybodaeth amdanoch chi a'r person neu'r grŵp rydych chi'n ei enwebu. 

Mae'r ffurflen yn caniatáu i chi arbed eich cynnydd yn ogystal â rhoi cyngor ar gwblhau eich enwebiad.

Dylai eich atebion ar y ffurflen fodloni'r meini prawf beirniadu yn yr adran ‘Am y gwobrau’.

Canllawiau ar gyfer cyflwyno enwebiad fideo

Gallwch gyflwyno fideo sy'n rhoi gwybodaeth am y person neu'r grŵp rydych chi'n ei enwebu. 

  • Rhaid lanlwytho eich fideo i YouTube a rhoi’r ddolen i'r fideo yn y ffurflen enwebu.
  • Ni ddylai eich fideo fod yn hwy na 5 munud, ond gallwch gyflwyno sawl fideo.
  • Wrth gyflwyno enwebiad fideo, rhaid i chi ddefnyddio'r ffurflen enwebu i:
    • ddarparu gwybodaeth amdanoch chi'ch hun
    • rhoi dolen i'ch fideo ar YouTube
  • Gallwch hefyd ddefnyddio'r ffurflen enwebu i ychwanegu rhywfaint o wybodaeth gefndir am yr enwebai. 

Dylai eich fideo ac unrhyw wybodaeth gefndir rydych chi'n ei ddarparu fodloni'r meini prawf beirniadu yn yr adran ‘Am y gwobrau’.

Rhagor o wybodaeth

Ceir rhagor o wybodaeth am y Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid a'r broses enwebu yn yr adran Am y gwobrau.

Mae enwebiadau'n cau ar 30 Medi 2025.