Neidio i'r prif gynnwy

Â'r tymor gwobrwyo ar ein gwarthaf, cafodd enillwyr Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru eu datgelu neithiwr mewn seremoni ar gyfer Oscars y byd Twristiaeth yn y Celtic Manor Resort.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dewiswyd yr enillwyr o blith 44 o enillwyr rhanbarthol a gafodd eu dewis o blith dros 400 o enwebiadau. Ymhlith y busnesau gafodd eu gwobrwyo oedd y lle gorau i aros ac i fwyta, y gweithgaredd gorau a'r atyniad gorau, gan gynnwys saffari bwyd, llety mewn castell a thaith gyffrous ar wifren wib. Roedd yna wobrau hefyd ar gyfer yr arloeswr gorau ac i Berson Ifanc Twristiaeth y Flwyddyn a aeth i Kathryn Colling o Cambria DMC.  Yn ystod noson lle dathlwyd y gorau sydd gan Gymru i'w gynnig, cafodd Bannau Brycheiniog eu cydnabod fel y Gyrchfan Orau ac aeth Gwobr Arbennig Croeso Cymru am Gyfraniad Rhyngwladol i Ogledd Cymru.  Roedd y Gweinidog Twristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas, yn bresennol yn y seremoni a dywedodd: 
"Mae'r Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol yn llwyfan i ddangos yr ansawdd a'r amrywiaeth o brofiadau y gall Cymru eu cynnig.  Maen nhw'n dangos hefyd ymrwymiad a phroffesiynoldeb ein sector twristiaeth byrlymus wrth groesawu ymwelwyr i Gymru a rhoi profiadau iddyn nhw.  “Mae'r diwydiant yn gwneud gwaith anhygoel, a dw i mor falch o bawb sy’n gweithio yn y sector ac sy’n helpu i roi Cymru ar lwyfan y byd. Mae gennym bob rheswm i fod yn hyderus ynghylch y dyfodol - hyder yn yr hyn a gynigiwn, hyder yn y ffordd rydym yn ei gynnig a hyder hefyd y bydd y rheini sy'n ymweld â Chymru'n cael profiadau cofiadwy o'r ansawdd gorau. Llongyfarchiadau i'r holl enillwyr.  Rydych i gyd yn gwbl haeddiannol. 
 Dywedodd Ian Edwards , Prif Weithredwr y Celtic Manor Resort: 
“Pleser inni oedd cael cynnig lle i gynnal Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol 2018, noson ardderchog i ddathlu’r gorau yn niwydiant twristiaeth Cymru.  Rydyn ni’n llongyfarch yr enillwyr a’r rheini gyrhaeddodd y rownd olaf. Rydyn ni’n gwybod bod gennym doreth o gyrchfannau, canolfannau, atyniadau a gweithwyr proffesiynol yn y maes yng Nghymru, ond mae digwyddiadau fel y noson wobrwyo hon yn ein hatgoffa mor ffodus ydyn ni a rhan mor bwysig y mae twristiaeth yn ei chwarae yn economi Cymru.”
 Dyma oedd yr enillwyr.  Cewch fwy o wybodaeth am y categorïau a'r enillwyr ar y ddolen ganlynol: Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru (dolen allanol).-       Gweithgaredd Gorau - Loving Welsh Food -       Atyniad Gorau - Zip World -       Gwely a Brecwast Gorau - Castell Roch -       Maes Carafanau, Gwersylla a Glampio Gorau - Celtic Holiday Parks -       Cyrchfan Orau - Twristiaeth Bannau Brycheiniog a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog-       Digwyddiad Gorau - Croeso Caerdydd (UCLF'17) -       Gwesty Gorau - St Brides Spa Hotel, Saundersfoot-       Y Lle Gorau i Fwyta - Ynyshir Restaurant and Rooms, Eglwys Fach, Machynlleth-       Llety Hunanddarpar Gorau - Monmouthshire Cottages LLP-       Gwobr Arloesi Busnesau Twristiaeth - Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru -       Person Ifanc Twristiaeth y Flwyddyn - Kathryn Colling o Cambria Tours Ltd / Hafan Epic -       Gwobr Arbennig Croeso Cymru am Gyfraniad Rhyngwladol  - Gogledd Cymru.