Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gwobrau blynyddol Ystadau Cymru yn dathlu enghreifftiau llwyddiannus o reoli asedau ar y cyd ar draws sector cyhoeddus Cymru.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Gwobrau blynyddol Ystadau Cymru yn dathlu enghreifftiau llwyddiannus o reoli asedau ar y cyd ar draws sector cyhoeddus Cymru ac rydym bellach yn croesawu enwebiadau ar gyfer Gwobrau 2023.

Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw rhannu eich enghreifftiau o brosiectau cydweithredu llwyddiannus sydd wedi’u cynnal ar draws ystad sector cyhoeddus Cymru, waeth beth fo’u maint.

Categorïau Gwobrau 2023 yw:

  • Creu Twf Economaidd
  • Dangos cyfrifoldeb amgylcheddol
  • Rhoi Gwerth Cymdeithasol
  • Creu Arloesedd

Bydd angen i chi gyflwyno eich enwebiadau erbyn 5pm ar 15 Medi 2023.