Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r data dros dro a gyflwynir yma yn adlewyrchu'r anafiadau personol a ddioddefwyd yn sgil gwrthdrawiadau ffyrdd y rhoddwyd gwybod amdanynt i'r heddlu yng Nghymru rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr (Ch4) 2024 a data blynyddol ar gyfer 2024. Er mai'r data hyn yw'r ffynhonnell wybodaeth fwyaf manwl a dibynadwy am wrthdrawiadau ffyrdd a marwolaethau ac anafiadau, nid ydynt yn cynnwys gwrthdrawiadau ffyrdd: 

  • Na roddwyd gwybod amdanynt i'r heddlu
  • A ddigwyddodd ar dir preifat h.y. meysydd parcio neu gaeau
  • Lle na chofnodwyd unrhyw anafiadau personol
  • Lle y cafwyd cadarnhad yn ddiweddarach gan weithiwr meddygol proffesiynol neu grwner mai hunanladdiad neu ddigwyddiad meddygol oedd achos y gwrthdrawiad

O ystyried y cynnydd mewn diddordeb yn y data ar wrthdrawiadau ers cyflwyno'r terfyn cyflymder safonol o 20mya ar 17 Medi 2023, gwnaethom gyhoeddi Diweddariad y Prif Ystadegydd ar ‘ddeall ystadegau ar wrthdrawiadau ac anafiadau ar y ffyrdd’ ar 24 Mai 2024 (Blog Digidol a Data).

Caiff yr holl ddata sylfaenol ar ddamweiniau ffyrdd eu cyhoeddi ar StatsCymru, a'n dangosfwrdd gwrthdrawiadau ffyrdd. Mae hyn yn cynnwys manylion ychwanegol am wrthdrawiadau a marwolaethau ac anafiadau yn ôl ardal ddaearyddol, terfyn cyflymder, difrifoldeb a'r math o gerbyd. 

Mae'r data ar gyfer Ch4 2024 yn rhai dros dro a gellir eu hadolygu yn y dyfodol. Cyhoeddir gwybodaeth fanwl ac o ansawdd yn yr adroddiad ansawdd ategol.

Mae'r data ar wrthdrawiadau yn dymhorol ac mae ffactorau fel swm y traffig a'r tywydd yn effeithio arnynt. Mae'n ddoeth ac yn ystyrlon cymharu data chwarterol â data o'r un chwarter mewn blynyddoedd blaenorol yn hytrach na'u cymharu â'r chwarter blaenorol. Fodd bynnag, mae tueddiadau tymor hwy yn rhoi gwell syniad o batrymau a newidiadau mewn gwrthdrawiadau ffyrdd sydd wedi'u cofnodi gan yr heddlu. 

Gwrthdrawiadau ffyrdd a gaiff eu cofnodi gan yr heddlu bob blwyddyn

Mewn blynyddoedd blaenorol, mae data ar wrthdrawiadau yn ystod chwarter 4 wedi cael eu cyhoeddi fel rhan o gyhoeddiad manwl ar wrthdrawiadau blynyddol. Fodd bynnag, mae oedi o ran cyflwyno data yn golygu bod tua 18 o wrthdrawiadau gan un o'r heddluoedd ar goll o'n set ddata ar hyn o bryd. Felly, rydym yn cyhoeddi data chwarter 4 a data blynyddol 2024 fel data dros dro. Pan fyddwn wedi cael y data cyflawn, byddwn yn cyhoeddi bwletin ystadegol manylach ar wrthdrawiadau a marwolaethau ac anafiadau yn 2024. 

Felly, nodwch nad yw'r ffigurau isod yn derfynol ac mae'n debygol y byddant yn cael eu diwygio. 

Y prif ganlyniadau (dros dro)

Yn 2024, rhoddodd heddluoedd yng Nghymru wybod am gyfanswm o 2,913 o wrthdrawiadau ffyrdd a dyma'r ffigur blynyddol isaf a gofnodwyd ar wahân i 2020 (yn ystod pandemig COVID-19).

  • Roedd 75 (2%) o'r gwrthdrawiadau yn angheuol
  • Roedd 871 (30%) o'r gwrthdrawiadau yn ddifrifol
  • Roedd 1,967 (68%) yn fân wrthdrawiadau

Gostyngodd nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd yn 2024 10.7% yn 2023, sef y trydydd gostyngiad blynyddol mwyaf a gofnodwyd erioed. 

Yn ystod 2024, rhoddodd yr heddlu wybod am 3,993 o achosion o farwolaethau ac anafiadau yn sgil gwrthdrawiadau ffyrdd, sef y ffigur isaf a gofnodwyd ar wahân i 2020 (yn ystod pandemig COVID-19).

  • Roedd 81 (2%) o'r gwrthdrawiadau yn angheuol
  • Roedd 1,005 (25%) o'r gwrthdrawiadau yn ddifrifol
  • Roedd 2,907 (73%) ohonynt yn fân wrthdrawiadau

Gostyngodd cyfanswm y marwolaethau ac anafiadau ar y ffyrdd 8.2% rhwng 2023 a 2024, gyda nifer yr achosion angheuol yn gostwng 17.3% a nifer yr unigolion a ddioddefodd anafiadau difrifol yn gostwng 2.3%. 

Yn 2024, roedd 1,441 o wrthdrawiadau ar ffyrdd lle roedd terfynau cyflymder o 20mya a 30mya (wedi'u cyfuno), sef y ffigur isaf ers i gofnodion ddechrau. Gwelwyd gostyngiad o 19% o gymharu â 2023, sef y gostyngiad blynyddol mwyaf heblaw am 2020 (yn ystod pandemig COVID-19).

Arweiniodd y gwrthdrawiadau hyn, lle roedd terfynau cyflymder o 20 a 30mya (wedi'u cyfuno), at 1,751 o farwolaethau ac anafiadau, sef y ffigur isaf ers i gofnodion ddechrau. Roedd hyn yn ostyngiad o 20% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, sef y gostyngiad blynyddol mwyaf heblaw am 2020 (yn ystod pandemig COVID-19).

Ffigur 1: Gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd a achosodd anafiadau personol, 1994 i 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser o wrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu ar gyfer Cymru gyfan rhwng 1994 a 2024. Mae'n dangos bod nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu wedi gostwng yn raddol ers 1994.

Ffynhonnell: Ystadegau gwrthdrawiadau ffyrdd, Llywodraeth Cymru

Gwrthdrawiadau: Ch4 2024

Mae nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd bob chwarter yng Nghymru wedi bod yn gostwng yn raddol dros y degawd ddiwethaf a gall ffigurau chwarterol fod yn anwadal. Dylid cymryd gofal wrth ddehongli'r data hyn dros gyfnod byr o amser.

Yn ystod Ch4 2024, roedd 698 o wrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru. O'r gwrthdrawiadau hyn:

  • roedd 15 (2%) o'r gwrthdrawiadau yn angheuol
  • roedd 214 (31%) ohonynt yn ddifrifol
  • roedd 469 (67%) ohonynt yn fân wrthdrawiadau

Mae nifer y gwrthdrawiadau 5% yn is nag yn yr un chwarter yn 2023 (738) a hwn yw'r ffigur isaf yn ystod chwarter 4 ers i gofnodion ddechrau. 

Mae nifer y gwrthdrawiadau yn ystod y chwarter diweddaraf 21% yn is na'r un chwarter yn 2022 (y cyfnod chwarter 4 olaf cyn y newid o ran y terfyn cyflymder safonol).

Ffigur 2: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu bob chwarter yng Nghymru, Ch1 2010 hyd at Ch4 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser ar gyfer nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru bob chwarter, o Ch1 2010 hyd at Ch4 2024. Mae nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd bob chwarter wedi gostwng yn raddol dros y degawd diwethaf.

Ffynhonnell: Ystadegau gwrthdrawiadau ffyrdd, Llywodraeth Cymru

Terfyn cyflymder 20mya a 30mya ar y ffordd

Cafodd y rhan fwyaf o'r ffyrdd 30mya eu newid i fod yn 20mya ar 17 Medi 2023. Felly, mae llawer mwy o ffyrdd bellach yn ffyrdd 20mya (cynnydd o tua 870km i 13,000km), ac mae llawer llai o ffyrdd yn rhai 30mya (gostyngiad o tua 13,100km i 980km).

Mae'r adran hon yn ystyried gwrthdrawiadau a ddigwyddodd ar bob ffordd 20mya a phob ffordd 30mya (wedi'u cyfuno) er mwyn sicrhau y gellir eu cymharu â'r un set o ffyrdd cyn ac ar ôl y newid i'r terfyn cyflymder safonol ar ffyrdd cyfyngedig. 

Mae data ar wrthdrawiadau ffyrdd ar ôl y newid i'r terfyn cyflymder safonol o 20mya yn gyfyngedig i gyfnod eithaf byr o amser ar hyn o bryd (17 Medi 2023 i 31 Rhagfyr 2024) a gallant fod yn anwadal yn y byrdymor. Dylid cymryd gofal wrth ddehongli'r data hyn dros gyfnod byr o amser. Byddwn yn parhau i fonitro'r data hyn dros amser wrth i fwy o ddata ddod ar gael. Mae diweddariad ein Prif Ystadegydd am ddeall ystadegau ar wrthdrawiadau ac anafiadau ar y ffyrdd (Blog Digidol a Data) yn cynnwys rhagor o wybodaeth.   

Yn ystod Ch4 2024, roedd 357 o wrthdrawiadau ar ffyrdd lle roedd terfynau cyflymder o 20mya a 30mya (wedi'u cyfuno). O'r gwrthdrawiadau hyn, roedd 4 ohonynt yn angheuol, 89 ohonynt yn ddifrifol a 264 ohonynt yn fân wrthdrawiadau. 

Mae nifer y gwrthdrawiadau ar ffyrdd 20mya a 30mya (wedi'u cyfuno) 6% yn is nag yn yr un chwarter yn 2023 (380) a hwn yw'r ffigur isaf yn ystod chwarter 4 yng Nghymru ers i gofnodion ddechrau. 

Mae hefyd 32% yn is na'r un chwarter yn 2022 (sef y cyfnod chwarter 4 olaf cyn y newid o ran y terfyn cyflymder safonol). 

Yn gyffredinol, mae'r ffigur hwn wedi bod yn gostwng dros y degawd diwethaf.

Ffigur 3: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu bob chwarter ar ffyrdd â therfyn cyflymder o 20mya neu 30mya (wedi'u cyfuno) yng Nghymru, Ch1 2010 hyd at Ch4 2024
Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser ar gyfer gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu bob chwarter ar ffyrdd â therfyn cyflymder o 20mya neu 30mya (wedi'u cyfuno) yng Nghymru, o Ch1 2010 hyd at Ch4 2024. Mae nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd bob chwarter ar ffyrdd 20mya neu 30mya wedi gostwng yn raddol dros y degawd diwethaf.

Ffynhonnell: Ystadegau gwrthdrawiadau ffyrdd, Llywodraeth Cymru

Marwolaethau ac anafiadau: Ch4 2024

Gall gwrthdrawiadau unigol arwain at nifer o farwolaethau ac anafiadau gyda lefelau gwahanol o ddifrifoldeb o ran anafiadau.

Yn ystod Ch4 2024, cofnodwyd 947 o farwolaethau ac anafiadau ar y ffyrdd yng Nghymru. O'r marwolaethau a'r anafiadau hyn:

  • cafodd 18 (2%) o bobl eu lladd.
  • cafodd 246 (26%) o bobl eu hanafu'n ddifrifol
  • cafodd 683 (72%) o bobl fân anafiadau

Mae nifer y marwolaethau a'r anafiadau 4% yn is nag yn yr un chwarter yn 2023 (983) a hwn yw'r ffigur isaf yn ystod chwarter 4 yng Nghymru y tu allan i gyfnod COVID-19.

Mae hefyd 21% yn is na'r un chwarter yn 2022 (y pedwerydd chwarter olaf cyn y newid o ran y terfyn cyflymder safonol)

Yn gyffredinol, mae'r ffigur hwn wedi bod yn gostwng dros y degawd diwethaf. 

Ffigur 4: Marwolaethau ac anafiadau ar y ffyrdd bob chwarter yng Nghymru, Ch1 2010 hyd at Ch4 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser ar gyfer nifer y marwolaethau a'r anafiadau mewn gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru bob chwarter, o Ch1 2010 hyd at Ch4 2024. Mae nifer y marwolaethau a'r anafiadau bob chwarter wedi gostwng yn raddol dros y degawd diwethaf.

Ffynhonnell: Ystadegau gwrthdrawiadau ffyrdd, Llywodraeth Cymru

Terfyn cyflymder 20mya a 30mya ar y ffordd

Yn ystod Ch4 2024, cafodd 443 o unigolion eu lladd neu eu hanafu yn sgil gwrthdrawiadau ffyrdd lle roedd terfynau cyflymder o 20mya a 30mya (wedi'u cyfuno). Ymhlith y rhain, cafodd 4 person eu lladd, cafodd 97 o unigolion eu hanafu'n ddifrifol a chafodd 342 fân anafiadau. 

Mae nifer y marwolaethau ac anafiadau ar ffyrdd lle mae terfyn cyflymder o 20mya a 30mya (wedi'u cyfuno) 5% yn is nag yn yr un chwarter yn 2023 (464).

Gwelwyd y ffigurau isaf ar gyfer chwarter 4 yng Nghymru ers i gofnodion ddechrau yn ystod 2024 o ran nifer y marwolaethau ac anafiadau ar ffyrdd lle mae terfyn cyflymder o 20mya a 30mya (wedi;u cyfuno). 

Mae hefyd 35% yn is na'r un chwarter yn 2022 (y pedwerydd chwarter olaf cyn y newid o ran y terfyn cyflymder safonol). 

Yn gyffredinol, mae'r ffigur hwn wedi bod yn gostwng dros y degawd diwethaf.

Ffigur 5: Marwolaethau ac anafiadau wedi'u cofnodi bob chwarter ar ffyrdd â therfyn cyflymder o 20mya neu 30mya yng Nghymru, Ch1 2010 hyd at Ch4 2024
Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser ar gyfer nifer y marwolaethau ac anafiadau yn sgil gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu bob chwarter ar ffyrdd â therfyn cyflymder o 20mya neu 30mya (wedi'u cyfuno) yng Nghymru, o Ch1 2010 hyd at Ch4 2024. Mae'r nifer wedi gostwng yn raddol dros y degawd diwethaf.

Ffynhonnell: Ystadegau gwrthdrawiadau ffyrdd, Llywodraeth Cymru

Nodiadau

Nodwyd rhywfaint o faterion yn ymwneud ag ansawdd data mewn perthynas â therfyn cyflymder cofnodedig y ffordd lle y digwyddodd gwrthdrawiadau. Caiff hyn ei esbonio'n fanylach ar ddechrau Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu: bwletin ystadegol 2023 ac yn yr adroddiad ar ansawdd data.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Oscar Carrel
E-bost: ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099