Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu: 2024
Data am ddifrifoldeb yr anafiadau a'r math o ddefnyddiwr ffordd ar gyfer 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r datganiad hwn yn ymdrin â’r gwrthdrawiadau ar y ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu yn 2024 gyda throsolwg byr o'r anafusion cysylltiedig. Caiff manylion llawn yr anafusion ar y ffyrdd yn 2024 eu cyhoeddi yn ein bwletin Anafusion ffyrdd a gofnodwyd ar 27 Tachwedd 2025.
Mae'r datganiad hwn yn ymdrin â data 2024 a gyhoeddwyd yn amodol ar 21 Mai 2025. Mewn blynyddoedd cynt, mae data gwrthdrawiadau chwarter 4 wedi'u cyhoeddi fel rhan o gyhoeddiad manwl blynyddol ar wrthdrawiadau yn yr haf. Ond am i un heddlu gyflwyno'i ddata'n hwyr, gwnaethom gyhoeddi data chwarter 4 a blynyddol 2024 fel rhai ‘dros dro’ ym mis Mai 2025. Mae'r arafwch wedi'i ddatrys erbyn hyn, ac rydym bellach yn gallu cyhoeddi bwletin ystadegau manylach am wrthdrawiadau yn 2024.
Oherwydd y cynnydd yn y diddordeb mewn data am wrthdrawiadau ers cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar 17 Medi 2023, cyhoeddon ni ddiweddariad y Prif Ystadegydd ar ‘ddeall ystadegau ar wrthdrawiadau ac anafusion ffyrdd’ ar 24 Mai 2024.
Mae'r holl ddata sylfaenol yn cael ei gyhoeddi ar StatsCymru, ac ar ein dangosfwrdd gwrthdrawiadau ffyrdd. Mae’r data’n cynnwys manylion ychwanegol am wrthdrawiadau ac anafusion yn ôl ardal, terfyn cyflymder, difrifoldeb a math o gerbyd.
Caiff gwybodaeth fanwl am ansawdd ei chyhoeddi yn yr adroddiad ansawdd cysylltiedig.
Mae'r datganiad hwn yn cynnwys data'r flwyddyn galendr lawn gyntaf ers cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn 20mya.
Prif bwyntiau
- Yn 2024 cofnododd yr heddlu yng Nghymru gyfanswm o 2,917 o wrthdrawiadau ar y ffordd, 10.6% yn llai nag yn 2023 a 32.6% yn llai nag yn 2019 (cyn pandemig COVID-19). Dyma’r nifer blynyddol isaf o wrthdrawiadau ar y ffyrdd a gofnodwyd erioed, heblaw am yn 2020 (yn ystod pandemig COVID-19).
- O'r gwrthdrawiadau hyn, roedd 78 yn angheuol, 873 yn ddifrifol a 1,966 yn fân wrthdrawiadau.
- Roedd y gwrthdrawiadau a gofnodwyd gan yr heddlu yn 2024 wedi arwain at 4,005 o anafusion. O'r anafusion hyn, roedd 84 yn angheuol, 1,007 yn anafiadau difrifol a 2,914 yn fân anafiadau.
Ffigur 1: gwrthdrawiadau ar y ffyrdd a gofnodwyd, Cymru, 1994 i 2024
Disgrifiad o ffigur 1: mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser y gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru gyfan rhwng 1994 a 2024.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr Heddlu, Llywodraeth Cymru
- Daw’r rhan fwyaf o’r gostyngiad yn nifer y gwrthdrawiadau ar y ffyrdd o’r gostyngiad yn y gwrthdrawiadau sy’n ‘fân’ anafiadau. Yn 2024, cafwyd 78% yn llai o wrthdrawiadau ‘mân’ nag yn 1994. Gwnaeth nifer y gwrthdrawiadau angheuol neu ddifrifol ostwng 46% yn yr un cyfnod.
- Mae nifer y gwrthdrawiadau angheuol a gofnodwyd wedi bod yn weddol sefydlog ers 2010 ar ôl cwympo’n sylweddol dros y degawdau cyn hynny.
- O ran y duedd hirdymor, bu cwymp cyffredinol yn nifer y gwrthdrawiadau ar y ffyrdd a gofnodwyd gan heddluoedd yng Nghymru.
Diffiniad a chwmpas y data
Mae'r data a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn dangos y gwrthdrawiadau ar y ffyrdd lle cafwyd anafiadau personol a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru. Er mai'r data hwn yw'r wybodaeth fanylaf a mwyaf dibynadwy am wrthdrawiadau ac anafusion ar y ffyrdd, nid ydynt yn gofnod llawn o bob digwyddiad o'r fath - er enghraifft, mae data ysbytai, arolygon a hawliadau iawndal yn dangos nad yw'r heddlu'n cael gwybod am lawer o wrthdrawiadau nad oeddynt yn angheuol ac na chafodd yr heddlu wybod amdanynt.
Yn gyffredinol, mae'r ffynonellau sydd ar gael yn dangos mai dim ond is-set o'r holl wrthdrawiadau lle ceir anaf personol yw'r rheini y rhoddir gwybod i heddluoedd amdanynt ac a gofnodir ganddynt, ond bod lefel yr anafiadau difrifol a'r marwolaethau wedi'u cofnodi'n dda. Ceir rhagor o wybodaeth yn yr Adroddiad Ansawdd cysylltiedig.
Newidiadau i gasglu a chofnodi data gwrthdrawiadau ers 2023
Mae dau newid sydd wedi effeithio ar ddata STATS19 ar wrthdrawiadau ar y ffordd a gofnodwyd gan yr heddlu ers 2023.
Mabwysiadu system cofnodi ar sail anafiadau ar gyfer cofnodi gwrthdrawiadau ffyrdd
Ar 15 Mai 2023, Heddlu Dyfed Powys oedd yr heddlu cyntaf yng Nghymru i newid i'r offeryn cofnodi safonol newydd, sef CRaSH (Collision Recording and Sharing) sydd wedi'i gynllunio i ddarparu ffordd gyffredin i heddluoedd gasglu a chyflwyno data am wrthdrawiadau ffyrdd. Mae CRaSH yn system cofnodi ar sail anafiadau, ac mae'r Adran Drafnidiaeth wedi canfod bod heddluoedd sy'n defnyddio systemau o'r fath yn debygol o gofnodi mwy o wrthdrawiadau difrifol nag mewn casgliadau data blaenorol.
Esbonnir hyn ymhellach yn ein hadroddiad ansawdd, a byddwn yn parhau i adolygu'r ffordd mae hyn yn effeithio ar ein data.
Cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya
Ar 17 Medi 2023, newidiwyd y terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru trwy gyfraith o 30mya i 20mya. Mae ffyrdd cyfyngedig fel arfer yn golygu strydoedd preswyl neu brysur i gerddwyr gyda goleuadau stryd. Byddai’r newidiad wedi effeithio ar y rhan fwyaf o ffyrdd oedd yn 30mya cyn 17 Medi, ond nid pob un. Rydym wedi cyhoeddi map ar MapDataCymru sy'n dangos pa ffyrdd sydd wedi aros yn rhai 30mya.
Gwrthdrawiadau ar y ffyrdd
Gall un gwrthdrawiad ar y ffordd arwain at lawer o anafusion a gall difrifoldeb eu hanafiadau amrywio. Caiff difrifoldeb gwrthdrawiad ei bennu ar sail yr unigolyn sydd wedi cael yr anafiadau mwyaf difrifol yn y gwrthdrawiad. Er enghraifft, os bydd pum unigolyn wedi'u hanafu ac un wedi'i ladd, caiff y gwrthdrawiad ei ystyried yn un angheuol.
Yn ystod 2024, cofnodwyd 2,917 o wrthdrawiadau ffyrdd lle cafwyd anafiadau personol gan yr heddlu yng Nghymru. O'r gwrthdrawiadau hyn:
- roedd 78 yn angheuol
- roedd 873 yn ddifrifol
- roedd 1,966 yn rhai mân
Mae Ffigur 2 yn dangos y gwahaniaeth rhwng y duedd am i lawr mewn gwrthdrawiadau ar ffyrdd yng Nghymru ers 1993 a'r cynnydd graddol mewn traffig ar y ffyrdd.
Mae'n debygol bod ei gwneud hi'n orfodol i bobl wisgo gwregys diogelwch yn yr 1980au a gwelliannau i dechnoleg cerbydau wedi cyfrannu at y lleihad yn nifer y gwrthdrawiadau lle cafwyd anafiadau personol.
Ffigur 2: gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd a maint y traffig ar ffyrdd Cymru, 1994 i 2024
Mae ffigur 2 yn dangos y cyferbyniad rhwng y duedd am i lawr mewn gwrthdrawiadau ffyrdd yng Nghymru ers 1994 a'r cynnydd graddol mewn traffig ar y ffyrdd.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr Heddlu, Llywodraeth Cymru
Yn ystod pandemig COVID-19, bu gostyngiadau sylweddol ym maint y traffig a nifer gwrthdrawiadau ffyrdd yng Nghymru ac, er bod lefelau wedi cynyddu ers hynny, nid ydynt wedi dychwelyd i lefelau 2019.
Yn 2024, roedd nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd gydag anafiadau personol a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru yn is na ffigur 2023, gostyngiad o 10.6%. Roedd 32.6% yn llai o wrthdrawiadau ffyrdd yn 2024 nag yn 2019 (cyn pandemig COVID-19).
Gwrthdrawiadau ar y ffyrdd lle y cafodd anafusion eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol (KSI)
Ceir tuedd hirdymor am i lawr yn nifer y gwrthdrawiadau lle cafodd pobl eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd yng Nghymru. Yn 2024 roedd 951 o wrthdrawiadau KSI. Mae ein dangosfwrdd gwrthdrawiadau ffyrdd rhyngweithiol, a gyhoeddir ochr yn ochr â'r bwletin hwn, yn dangos manylion y data yn ôl nodweddion fel lleoliad a gwybodaeth ddemograffig am yr anafusion dan sylw yn fanylach.
Cofnodwyd 78 o wrthdrawiadau angheuol yng Nghymru yn 2024. O edrych ar y duedd hanesyddol, mae nifer y gwrthdrawiadau angheuol a gofnodir wedi bod yn sefydlog ar y cyfan ers 2010, yn dilyn gostyngiad sylweddol yn y degawdau cyn hynny (ffigur 3). Yn 2020 y cofnodwyd y nifer lleiaf o wrthdrawiadau angheuol yng Nghymru (73). Mae'n debygol mai cyfyngiadau teithio'r coronafeirws (COVID-19), a arweiniodd at lefelau traffig is ar y ffyrdd, oedd y rheswm am hynny. Yn 2024 y cofnodwyd y nifer isaf o wrthdrawiadau angheuol mewn blwyddyn yng Nghymru heblaw am 2020 (pandemig COVID-19)
Rhaid wrth ofal wrth ddehongli newidiadau i niferoedd bach, megis gwrthdrawiadau angheuol y flwyddyn. Er mwyn manylu neu ddadansoddi’r newid dros amser, gallai fod yn fwy priodol edrych ar dueddiadau yng nghyfanswm y gwrthdrawiadau KSI.
Bydd Heddlu Dyfed Powys wedi effeithio ar nifer y gwrthdrawiadau KSI a gofnodwyd ers 2023 am iddynt newid i gofnodi ar sail anafiadau. Byddem yn disgwyl gweld cynnydd yn nifer y gwrthdrawiadau difrifol a gofnodwyd yn ardal heddlu Dyfed Powys, a gostyngiad mewn mân wrthdrawiadau a gofnodwyd. Trafodir hyn ymhellach yn ein hadroddiad ansawdd a byddwn yn parhau i ddadansoddi effaith y newid.
Ffigur 3: nifer y gwrthdrawiadau lle cafodd pobl eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd Cymru 1994 a 2024 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 3: mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser y gwrthdrawiadau KSI sydd wedi digwydd ar ffyrdd Cymru rhwng 1994 a 2024. Yn 2024, cafwyd 873 o wrthdrawiadau difrifol.
[Nodyn 1] Ym mis Mai 2023 newidiodd heddlu Dyfed Powys i system cofnodi ar sail anafiadau ar gyfer cofnodi gwrthdrawiadau ffyrdd. Ceir rhagor o wybodaeth yn yr Adroddiad Ansawdd cysylltiedig.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr Heddlu, Llywodraeth Cymru
Gwrthdrawiadau ar y ffyrdd yn ôl ardal yr heddlu
Yn 2024, roedd swyddogion yr heddlu yn bresennol ym mhob un o'r gwrthdrawiadau angheuol (gan gynnwys marwolaethau a ddigwyddodd 30 diwrnod ar ôl y gwrthdrawiad), 94% o'r gwrthdrawiadau difrifol ac 83% o'r mân wrthdrawiadau a gofnodwyd gan yr heddlu.
Heddlu Dyfed-Powys a gofnododd y nifer mwyaf o wrthdrawiadau yn 2024, sef cyfanswm o 1,024 (yr un faint â'r flwyddyn cynt), ac yna Heddlu De Cymru a gofnododd 800 o wrthdrawiadau ar y ffyrdd dros yr un cyfnod (16.5% yn llai na'r flwyddyn cynt). Cofnododd Gwent 571 o wrthdrawiadau yn 2024 (12.6% yn fwy na'r flwyddyn cynt), a Heddlu Gogledd Cymru gofnododd y nifer lleiaf o wrthdrawiadau ar y ffyrdd, sef 522 (32.6% yn llai na'r flwyddyn cynt).
Ffigur 4: gwrthdrawiadau ffyrdd a adroddwyd yn ôl ardal yr heddlu, 2023 a 2024
Disgrifiad o ffigur 4: mae'r siart bar yn dangos cyfanswm y gwrthdrawiadau sydd wedi digwydd ar ffyrdd Cymru yn ôl ardal yr heddlu yn 2023 a 2024.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr Heddlu, Llywodraeth Cymru
Gwrthdrawiadau ar y ffyrdd yn ôl terfyn cyflymder
Yn yr adran hon rydym yn dangos yr holl wrthdrawiadau yn ôl terfyn cyflymder y ffordd y maent wedi digwydd arni.
Mae rhai problemau ag ansawdd y data wedi'u nodi mewn perthynas â therfyn cyflymder cofnodedig y ffyrdd lle digwyddodd y gwrthdrawiadau. Mae archwiliadau dilysu ychwanegol wedi'u cynnal gyda chymorth awdurdodau lleol i sicrhau bod data am y ffyrdd sydd â therfynau cyflymder 20mya neu 30mya y mae gwrthdrawiadau'n digwydd arnynt o ansawdd da. Oherwydd y problemau hyn â'r data, rhaid wrth ofal wrth ddehongli'r data hwn. Disgrifir y problemau'n fanylach yn adran materion ansawdd data gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr Heddlu: Bwletin 2023.
Wrth ystyried nifer y gwrthdrawiadau yn ôl terfyn cyflymder y ffordd y digwyddon nhw arni, mae rhai ffactorau pwysig i'w hystyried:
- Yn 2022, roedd 870km o ffyrdd â therfyn cyflymder o 20mya. Ar 17 Medi 2023, cynyddodd hyn i oddeutu 13,000km oherwydd y newid yn y terfyn cyflymder diofyn o 30mya i 20mya. Cafodd y rhan fwyaf o ffyrdd a oedd yn 30mya eu newid i 20mya.
- Roedd 13,100km o ffyrdd â therfyn cyflymder o 30mya yn 2022. Gostyngodd hynny i 980km yn 2023.
- Ar hyn o bryd, nid oes ffynonellau data swyddogol ar lefel y traffig ar ffyrdd sydd â therfynau cyflymder gwahanol.
Ffyrdd â therfyn cyflymder o 70mya oedd â'r gyfran isaf o wrthdrawiadau yn 2024. sef 5.1% o'r holl wrthdrawiadau.
Ffigur 5: gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd yn ôl terfyn cyflymder, 2024 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 5: mae'r siart bar yn dangos cyfanswm y gwrthdrawiadau yn ôl terfyn cyflymder, 2024.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr Heddlu, Llywodraeth Cymru
Gwrthdrawiadau KSI sy'n digwydd ar ffyrdd 60mya oedd y gyfran uchaf (38.1%) o'r holl wrthdrawiadau KSI a adroddwyd yn 2024 o'u cymharu â ffyrdd â therfynau cyflymder eraill.
Gwrthdrawiadau ar ffyrdd â therfynau cyflymder 20mya a 30mya (gyda'i gilydd)
Mae'r adran hon yn ystyried y gwrthdrawiadau a ddigwyddodd ar bob ffordd 20mya a 30mya (wedi'u cyfuno) er mwyn gallu eu cymharu â'r un set o ffyrdd cyn ac ar ôl newid y terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig.
Mae data ar wrthdrawiadau ffyrdd ar ôl newid y terfyn cyflymder diofyn i 20mya wedi'i gyfyngu i gyfnod eithaf byr o amser ar hyn o bryd (17 Medi 2023 i 31 Rhagfyr 2024) a gall fod yn gyfnewidiol dros y tymor byr. Rhaid wrth ofal wrth ddehongli'r data hwn dros gyfnod byr. Byddwn yn parhau i fonitro hyn dros amser wrth i fwy o ddata ddod ar gael. Mae diweddariad ein Prif Ystadegydd yn cynnwys rhagor o wybodaeth.
Yn 2024, bu 1,443 o wrthdrawiadau ar ffyrdd sydd â therfynau cyflymder 20mya a 30mya (wedi’u cyfuno), sef y nifer blynyddol isaf i gael ei gofnodi yng Nghymru. Mae hyn 18.9% yn llai nag yn 2023 (1,780 o wrthdrawiadau), y flwyddyn y newidiwyd y terfyn cyflymder diofyn, a 23.5% yn llai nag yn 2022 (1,886 o wrthdrawiadau), y flwyddyn galendr lawn ddiweddaraf cyn y newid.
Mae nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd bob chwarter ar ffyrdd sydd â therfynau cyflymder is (20mya a 30mya), yn gyffredinol wedi bod yn gostwng yn raddol dros y degawd diwethaf.
Ffigur 6: Gwrthdrawiadau ffyrdd blynyddol ar ffyrdd â therfyn cyflymder o 20mya a 30mya (wedi'u cyfuno) yng Nghymru, 2010 i 2024
Disgrifiad o ffigur 6: mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser y gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu bob chwarter ar ffyrdd â therfyn cyflymder o 20mya neu 30mya (wedi'u cyfuno) yng Nghymru, o 2010 hyd at 2024. Mae nifer y gwrthdrawiadau ar ffyrdd 20mya neu 30mya (o'u cyfuno) wedi gostwng yn gyson dros y degawd diwethaf.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr Heddlu, Llywodraeth Cymru
Gwrthdrawiadau ffyrdd yn ôl math o gerbyd
Mae cyfran y gwrthdrawiadau ar y ffyrdd yn ôl math o gerbyd i'w gweld yn Ffigur 7. Yn 2024, roedd 73% (3,701) o'r holl gerbydau mewn gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu yn 'geir, tacsis, a bysiau mini’. Roedd beiciau modur yn cyfrif am 10% (483) o gerbydau oedd yn gysylltiedig â gwrthdrawiadau ac roedd beiciau pedal yn cyfrif am 4% (222).
Ers 1996, ceir tuedd am i lawr o ran nifer y gwrthdrawiadau ar y ffyrdd ar gyfer pob math o gerbyd.
Ffigur 7: cyfrannau'r mathau o gerbydau sy'n gysylltiedig â gwrthdrawiadau traffig ffyrdd, Cymru, 2024 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 7: mae'r siart gylch yn dangos cyfran y cerbydau sy'n gysylltiedig â gwrthdrawiadau ffyrdd yn ôl math o gerbyd. Roedd 73% o'r holl gerbydau yn 2024 yn cael eu cyfrif yn 'geir, tacsis a bysiau mini' (3,701).
[Nodyn 1] Arall: Gan gynnwys bysiau, coetsys, cerbydau nwyddau, carafanau modur, cerbydau eraill a cherbydau anhysbys.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr Heddlu, Llywodraeth Cymru
Yn y blynyddoedd cynt, roedd cyfran uwch o feiciau modur a beiciau pedal na'u cyfran o draffig cerbydau ar ffyrdd Cymru yn gysylltiedig â’r gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu.
Yn 2024, roedd beiciau modur yn cyfrif am 10% a beiciau pedal 4% o'r cerbydau a gofnodwyd mewn gwrthdrawiadau, ond roeddynt gyda’i gilydd yn cyfrif am lai nag 1% o gyfanswm y traffig ar ffyrdd Cymru.
Ffactorau diogelwch ar y ffyrdd (RSFs)
Eleni rydym wedi newid o gyhoeddi ffactorau sy'n cyfrannu at RSFs yn dilyn argymhellion yr adolygiad STATS19 gwrthdrawiadau ffyrdd. Mae hyn yn gyson â'r newid a wnaed hefyd gan yr Adran Drafnidiaeth yn eu cyhoeddiadau.
Y Ffactorau Diogelwch Ffyrdd (RSFs) mewn gwrthdrawiad ffordd yw'r prif weithredoedd a diffygion a arweiniodd yn uniongyrchol at y gwrthdrawiad. Maen nhw'n dangos pa ffactorau yr oedd y swyddog heddlu presennol yn meddwl a gyfrannodd at achosi'r gwrthdrawiad. Gall swyddogion yr heddlu sy'n bresennol gofnodi hyd at chwe ffactor sy'n cyfrannu at bob gwrthdrawiad o restr o 35 o ffactorau posibl.
Mae RSFs wedi'u cynllunio i gofnodi ffactorau mewn ardal lle gellir cymryd camau i wneud ffyrdd yn fwy diogel, ac i leihau'r rhestr o ffactorau posibl, gyda set newydd o godau. Mae rhagor o fanylion am RSFs, gan gynnwys gwybodaeth am drosi data a gofnodwyd fel ffactorau sy'n cyfrannu at RSFs, i'w gweld yn adroddiad blynyddol yr Adran Drafnidiaeth, Reported road casualties Great Britain.
Mae'r dadansoddiad hwn yn canolbwyntio ar wrthdrawiadau lle y cafodd pobl eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol, gan fod swyddogion yr heddlu yn bresennol mewn mwy o'r gwrthdrawiadau hyn.
Yn 2024, cofnodwyd cyfanswm o 1,953 o RSFs a arweiniodd at wrthdrawiadau KSI yng Nghymru. Caiff ffactorau eu nodi ar sail tystiolaeth, a all ddod o amrywiaeth o ffynonellau, megis datganiadau gan dystion ac archwiliadau o gerbydau a safleoedd. Gall RSFs fod yn oddrychol a dibynnu ar sgìl a phrofiad y swyddog ymchwilio wrth ail-greu'r digwyddiadau a arweiniodd yn uniongyrchol at y gwrthdrawiad. Maent yn adlewyrchu barn y swyddog adrodd adeg llunio'r adroddiad ac nid ydynt o reidrwydd yn deillio o ymchwiliad helaeth.
Mae Ffigur 8 yn dangos r RSFs mwyaf cyffredin y barnwyd eu bod naill ai'n bosibl neu'n debygol iawn o fod wedi achosi gwrthdrawiadau lle y cafodd pobl eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol yn 2024. Y tri ffactor mwyaf cyffredin oedd:
- diffyg sylw gan naill ai'r gyrrwr, y beiciwr neu'r cerddwr (defnyddiwyd 427 gwaith)
- gyrrwr/beiciwr yn ymosodol, yn beryglus neu'n ddi-hid (defnyddiwyd 297 gwaith)
- gyrrwr/beiciwr yn teithio'n rhy gyflym o ystyried yr amodau (gan gynnwys colli rheolaeth neu swerfio) (defnyddiwyd 265 gwaith)
Ffigur 8: achosion mwyaf cyffredin gwrthdrawiadau KSI, 2024
Disgrifiad o ffigur 8: mae'r siart bar yn dangos sawl gwaith y cofnodwyd pob un o'r RSFs mwyaf cyffredin ar gyfer gwrthdrawiadau KSI yn 2024 yn ôl tebygolrwydd. 'Diffyg sylw gan naill ai'r gyrrwr, y beiciwr neu'r cerddwr' oedd y ffactor a gofnodwyd amlaf.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr Heddlu, Llywodraeth Cymru
Mae Ffigur 9 yn dangos cyfran y gwrthdrawiadau KSI sydd ag o leiaf un ffactor a gofnodwyd ym mhob adran RSF. Gellir priodoli nifer o ffactorau i wrthdrawiad ac felly gall y niferoedd yn Ffigur 9 fod yn werth mwy na 100%.
Y 3 RSF sydd â'r nifer fwyaf o wrthdrawiadau oedd
- Ymddygiad neu ddiffyg profiad (54% o gwrthdrawiadau KSI).
- Yn ymwneud â chyflymder (52% o gwrthdrawiadau KSI).
- Colli sylw neu amhariad(28% o gwrthdrawiadau KSI).
Ffigur 9: cyfran y gwrthdrawiadau KSI ag RSFs wedi'u neilltuo iddynt, yn ôl adran RSF, Cymru, 2024
Disgrifiad o ffigur 9: mae'r siart bar yn dangos cyfran y gwrthdrawiadau KSI sydd ag o leiaf un ffactor a gofnodwyd ym mhob adran RSF. 'Ymddygiad neu ddiffyg profiad' oedd yr adran a gofnodwyd amlaf fel ffactor.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr Heddlu, Llywodraeth Cymru
Anafusion ar y ffyrdd a gofnodwyd
Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth lefel uchel am y bobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu. Mae manylion y data ar gael yn ein bwletin Anafusion ffyrdd adroddwyd amdanynt a gaiff ei gyhoeddi ar 27 Tachwedd 2025. Bydd y bwletin hwn yn cynnwys manylion pellach megis defnyddwyr y ffyrdd, oedran a rhyw.
Mae'n debygol bod heddlu Dyfed Powys wedi effeithio ar wrthdrawiadau ac anafusion KSI ers 2023, ers iddynt newid i gofnodi ar sail anafiadau. Trafodir hyn ymhellach yn ein hadroddiad ansawdd.
Yn ystod 2024, cofnododd yr heddlu wrthdrawiadau a arweiniodd at 4,005 o anafusion. O'r marwolaethau a'r anafiadau hyn:
- cafodd 84 (2%) o bobl eu lladd
- cafodd 1,007 (24%) o bobl eu hanafu’n ddifrifol
- cafodd 2,914 o bobl fân anafiadau
Mae Ffigur 10 yn dangos y duedd o ran nifer y bobl a gafodd anafiadau angheuol, anafiadau difrifol ac anafusion KSI ers 1994. Dros y cyfnod hwn, bu lleihad sylweddol yn nifer y bobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol, o 2,208 yn 1994 i 820, y ffigur isaf, yn 2020. Rhaid wrth ofal wrth gymharu â 2020 gan yr oedd pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio ar ffigurau gwrthdrawiadau ac anafusion.
Yn 2024, cofnodwyd cyfanswm o 1,091 o anafusion KSI yng Nghymru.
Ffigur 10: Anafusion KSI, yn ôl difrifoldeb, o 1994 tan 2024
Disgrifiad o ffigur 10: mae'r siart llinell yn dangos y duedd mewn anafusion KSI yn ôl difrifoldeb, 1994 i 2024. Ym mis Mai 2023 newidiodd heddlu Dyfed Powys i system cofnodi ar sail anafiadau ar gyfer cofnodi gwrthdrawiadau ffyrdd. Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adroddiad ansawdd cysylltiedig.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr Heddlu, Llywodraeth Cymru
Anafiadau ar y ffyrdd yn ôl terfyn cyflymder y ffordd
Mae'r anafusion a gofnodwyd yn ôl data terfyn cyflymder yn 2024 yn dangos bod y rhan fwyaf o anafusion wedi digwydd ar ffyrdd gyda therfyn cyflymder o 20mya, ac yna ffyrdd gyda therfyn cyflymder o 60mya. Cafodd y rhan fwyaf o anafusion oedd yn gerddwyr eu cofnodi ar ffyrdd gyda therfyn cyflymder o 20mya a 30mya.
Ffigur 11: anafusion ffyrdd a gofnodwyd, yn ôl terfyn cyflymder ffyrdd, 2024
Disgrifiad o ffigur 11: mae'r siart bar yn dangos nifer yr anafusion yn sgil gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu yn ôl terfyn cyflymder ffyrdd yng Nghymru yn 2024.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr Heddlu, Llywodraeth Cymru
Mae Ffigur 12 yn dangos tuedd hirdymor nifer yr anafusion o wrthdrawiadau ar ffyrdd 20mya a 30mya (wedi’u cyfuno).
Yn 2024, cofnodwyd 1,759 o anafusion ar ffyrdd â therfynau cyflymder o 20mya a 30mya (wedi’u cyfuno), sef y nifer blynyddol isaf a gofnodwyd erioed yng Nghymru. Mae hyn 19.5% yn is nag yn 2023 (2,185 o anafusion), blwyddyn newid y terfyn cyflymder diofyn, a 25.9% yn is nag yn 2022 (2,344 o anafusion), y flwyddyn galendr lawn ddiweddaraf cyn y newid.
Mae nifer yr anafusion mewn gwrthdrawiadau ffyrdd ar ffyrdd sydd â therfynau cyflymder is (20mya a 30mya), yn gyffredinol wedi bod yn gostwng yn raddol dros y degawd diwethaf.
Ffigur 12: anafusion ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu ar ffyrdd 20mya a 30mya rhwng 2010 a 2024
Disgrifiad o ffigur 12: mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu ar ffyrdd â therfyn cyflymder o 20mya neu 30mya (wedi'u cyfuno) yng Nghymru, o 2010 i 2024. Mae'r niferoedd wedi gostwng yn gyson dros y degawd diwethaf.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr Heddlu, Llywodraeth Cymru
Gwybodaeth am ansawdd
Caiff gwybodaeth fanwl am ansawdd ei chyhoeddi yn yr adroddiad ansawdd cysylltiedig. Mae rhai pwyntiau allweddol isod.
Mae’r ystadegau’n cyfeirio’n unig at bobl a gafodd anafiadau personol mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu. Ceir rhywfaint o bosibilrwydd o dangofnodi achosion o’r fath, yn enwedig ar gyfer digwyddiadau llai difrifol lle nad oedd swyddogion yr heddlu yn bresennol.
Nid yw’r ystadegau hyn yn cynnwys gwrthdrawiadau:
- na roddwyd gwybod amdanynt i’r heddlu
- a ddigwyddodd ar dir preifat h.y. meysydd parcio neu gaeau
- lle na chofnodwyd unrhyw anafiadau personol
- lle cadarnhawyd y gwrthdrawiad yn hwyrach gan weithiwr meddygol proffesiynol neu grwner i fod yn hunanladdiad neu episod meddygol
Darperir manylion y prosesau casglu a dilysu data, cryfderau a chyfyngiadau'r data, a'r polisi adolygu yn yr adroddiad ansawdd.
Statws ystadegau swyddogol
Dylai'r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r DU).
Ystadegau swyddogol achrededig yw'r rhain. Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn ym mis Gorffennaf 2013. Maent yn cydymffurfio â'r safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir ar gyfer achredu. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ar unwaith. Gellir canslo neu atal achrediad unrhyw bryd os na chaiff y safonau uchaf eu cynnal, a'i adfer pan gaiff safonau eu hadfer.
Caiff ystadegau swyddogol achrededig eu galw'n Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007.
Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau
Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). OSR sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.
Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.
Mae’r ystadegau swyddogol achrededig (OSR) hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir ynghylch dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.
Dibynadwyedd
Mae’r ystadegau hyn yn defnyddio data a gasglwyd gan Heddluoedd Cymru trwy system STAT19. I weld y data ar lefel y DU, a disgrifiad llawn o’r ffynonellau a’r dulliau a ddefnyddiwyd i grynhoi’r data, ewch i wefan GOV.UK (Ystadegau diogelwch ffyrdd (Adran Drafnidiaeth)).
Mae’r ystadegau hyn yn cael eu rhag-gyhoeddi yn adran Ystadegau ac Ymchwil gwefan Llywodraeth Cymru. Wrth ei brosesu, yr unig rai sy’n cael gweld y data yw’r rheini sy’n gysylltiedig â chynhyrchu’r ystadegau, sicrhau ansawdd a dibenion gweithredol. Dim ond y rheini sydd â hawl yn unol â’r Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau'r DU) sy’n cael gweld y datganiad cyn ei ryddhau.
Ansawdd
Mae’r ffigurau a gyhoeddir yn cael eu crynhoi gan ddadansoddwyr proffesiynol sy’n defnyddio’r data diweddaraf sydd ar gael ac yn defnyddio dulliau yn unol â’u barn broffesiynol a’u set sgiliau dadansoddi. Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru’n cadw at y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy’n ategu colofn Ansawdd Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau'r DU) ac egwyddorion System Ystadegau Ewrop ynghylch ansawdd allbynnau ystadegol.
Yna caiff y datganiad ystadegol ei ddrafftio a’i gymeradwyo gan uwch ystadegwyr a’i gyhoeddi ar-lein yn unol â datganiad Llywodraeth Cymru ar gyfrinachedd a gweld data.
Caiff gwybodaeth fanwl am ansawdd ei chyhoeddi ar yr adroddiad ansawdd cysylltiedig.
Gwerth
Pwrpas y datganiad ystadegol hwn a’r data cysylltiedig a gyhoeddir ar StatsCymru yw rhoi tystiolaeth ar gyfer datblygu polisi a hysbysu’r cyfryngau a’r cyhoedd am y newidiadau i wrthdrawiadau ffyrdd a gofnodir gan yr heddlu yng Nghymru.
Mae croeso ichi gysylltu â ni yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni'r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu ag OSR drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy wefan OSR, a lywir gan golofn dibynadwyedd Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau'r DU).
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (WFG)
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn pennu saith nod llesiant i Gymru. Amcanion y nodau hyn yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, ac yn cynnwys cymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n gorfod cael eu defnyddio at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fydd Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt (a) gyhoeddi'r dangosyddion diwygiedig a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Cafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn Adroddiad Llesiant Cymru.
Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai'r ystadegau sydd wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd roi naratif ategol i'r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â'u hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.

