Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu: Gorffennaf i Fedi 2024 (dros dro)
Data am ddifrifoldeb yr anafiadau a'r math o ddefnyddiwr ffordd ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r data a gyflwynir yma yn adlewyrchu’r gwrthdrawiadau ar y ffyrdd lle y cafwyd anafiadau personol a gofnodwyd gan heddluoedd yng Nghymru rhwng mis Gorffennaf a mis Medi (Ch3) 2024. Er mai’r data hyn yw’r ffynhonnell wybodaeth fwyaf manwl a dibynadwy am wrthdrawiadau ac anafiadau ar y ffyrdd, nid ydynt yn cynnwys gwrthdrawiadau ffyrdd:
- Na chafodd eu hadrodd i'r heddlu
- Ddigwyddodd ar dir preifat h.y. meysydd parcio neu gaeau.
- Lle na chofnodwyd unrhyw anaf personol
- Lle cadarnhawyd y gwrthdrawiad yn ddiweddarach gan weithiwr meddygol proffesiynol neu grwner i fod yn hunanladdiad neu bennod feddygol
O ystyried y diddordeb cynyddol mewn data am wrthdrawiadau ers cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar 17 Medi 2023, cyhoeddon ni ddiweddariad y Prif Ystadegydd ar ‘ddeall ystadegau ar wrthdrawiadau ac anafiadau ar y ffyrdd’ ar 24 Mai 2024 (Blog Digidol a Data).
Caiff yr holl ddata sylfaenol eu cyhoeddi ar StatsCymru, a’n dangosfwrdd gwrthdrawiadau ar y ffyrdd. Mae hyn yn cynnwys manylion ychwanegol am wrthdrawiadau ac anafiadau yn ôl ardal ddaearyddol, terfyn cyflymder, difrifoldeb a math o gerbyd.
Mae’r data ar gyfer Ch3 2024 yn ddata dros dro a bydd yn destun adolygiad posibl yn y dyfodol. Gwnaed mân ddiwygiadau i ddata Ch4 2023 i Ch2 2024 oherwydd argaeledd data wedi'i ddiweddaru gan heddluoedd, mae'r rhain wedi'u marcio â (r). Caiff gwybodaeth fanwl am ansawdd ei chyhoeddi yn yr adroddiad ansawdd cysylltiedig.
Mae data am wrthdrawiadau yn dymhorol ac mae ffactorau fel maint y traffig a’r tywydd yn effeithio arno. Mae’n ddoethach ac yn fwy ystyrlon cymharu data chwarterol â data’r un chwarter mewn blynyddoedd cynt yn hytrach nag â’r chwarter blaenorol. Ond bydd tueddiadau mwy tymor hir yn rhoi syniad gwell o batrymau’r gwrthdrawiadau ar y ffyrdd a gofnodir gan yr heddlu ac unrhyw newidiadau ynddynt.
Mae’r datganiad hwn yn cwmpasu’r cyfnod 12 mis cyntaf llawn h.y. pedwar chwarter (Ch4 2023 i Ch3 2024), o ddata ers cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya. O ganlyniad, rydym wedi gallu cymharu data pedwar chwarter cynta’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya â data’r un cyfnod yn y flwyddyn cynt. Rydym hefyd wedi cymharu’r chwarter diweddaraf â’r un chwarter mewn blynyddoedd cynt. Gan fod y data’n dymhorol, nid ydym wedi cymharu chwarteri dilynol yn y sylwebaeth (dangosir data chwarterol yn y siartiau).
Gwrthdrawiadau
Caiff data cyfres amser dros y tymor hir eu cyflwyno yn ein datganiad ystadegol blynyddol ac mae’r data yn dangos gostyngiad hirdymor yn nifer y gwrthdrawiadau ar y ffyrdd a gofnodwyd gan heddluoedd yng Nghymru.
Yn Ch3 2024, cafwyd 771 o wrthdrawiadau ar y ffyrdd a gofnodwyd gan heddluoedd yng Nghymru, ac o’u plith roedd:
- 17 (2%) yn angheuol.
- 225 (29%) yn wrthdrawiadau difrifol.
- 529 (69%) yn fân wrthdrawiadau.
Mae nifer y gwrthdrawiadau 16% yn is nag yn yr un chwarter (Gorffennaf i Fedi) yn 2023 (923) a dyma’r ffigur chwarter 3 isaf a gofnodwyd ers dechrau cadw cofnodion.
Yn y cyfnod o 12 mis o Ch4 2023 i Ch3 2024 (h.y. ar ôl cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya), mae nifer y gwrthdrawiadau 15% yn is nag yn yr un cyfnod yn y flwyddyn cynt.
Mae nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd chwarterol yng Nghymru wedi bod yn gostwng yn raddol yn gyffredinol dros y degawd diwethaf a gall ffigyrau chwarterol fod yn gyfnewidiol. Dylid cymryd gofal wrth ddehongli'r data hyn dros gyfnod byr.
Ffigur 1: Gwrthdrawiadau ar y ffyrdd a gofnodwyd gan heddluoedd yng Nghymru fesul chwarter, Ch1 2010 i Ch3 2024
Disgrifiad o Ffigur 1: Mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser ar gyfer nifer y gwrthdrawiadau ar y ffyrdd a gofnodwyd gan heddluoedd yng Nghymru fesul chwarter rhwng Ch2 2010 a Ch3 2024. Mae nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd chwarterol wedi gostwng yn gyson dros y degawd diwethaf.
Ffynhonnell: Ystadegau gwrthdrawiadau ffyrdd, Llywodraeth Cymru
Terfyn cyflymder 20mya a 30mya ar y ffyrdd
Daeth y rhan fwyaf o'r ffyrdd a oedd yn 30mya yn 20mya ar 17 Medi 2023. Felly mae llawer mwy o ffyrdd bellach yn ffyrdd 20mya (cynnydd o ryw 870km i 13,000km), a bod llawer llai yn 30mya (gostyngiad o ryw 13,100km i 980km).
Mae'r adran hon yn ystyried gwrthdrawiadau a ddigwyddodd ar bob ffordd 20mya a 30mya (gyda'i gilydd) i ganiatáu cymariaethau uniongyrchol ar gyfer yr un set o ffyrdd cyn ac ar ôl y newid yn y terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig.
Yn Ch3 2024, roedd 345 o wrthdrawiadau ar ffyrdd â therfynau cyflymder 20mya a 30mya (wedi’u cyfuno). O'r rhain, roedd 3 yn wrthdrawiadau angheuol, 89 yn ddifrifol a 253 yn fân wrthdrawiadau.
Mae nifer y gwrthdrawiadau ar ffyrdd 20mya neu 30mya (wedi’u cyfuno) 31% yn is nag yn yr un chwarter yn 2023 (502) a dyma’r ffigur chwarter 3 isaf yng Nghymru ers dechrau cadw cofnodion. Yn gyffredinol, mae'r rhif hwn wedi bod yn gostwng dros y degawd diwethaf.
Yn y cyfnod o 12 mis o Ch4 2023 i Ch3 2024 (h.y. ar ôl cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya), mae nifer y gwrthdrawiadau ar ffyrdd 20 a 30mya (wedi’u cyfuno) 26% yn is nag yn yr un cyfnod yn y flwyddyn cynt.
Ar hyn o bryd mae data am wrthdrawiadau ar y ffyrdd ar ôl y newid i'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya wedi'u cyfyngu i gyfnod cymharol fyr (17 Medi 2023 i 30 Medi 2024) a gall fod yn gyfnewidiol dros y tymor byr. Dylid cymryd gofal wrth ddehongli'r data hyn dros gyfnod byr. Byddwn yn parhau i fonitro hyn dros amser wrth i fwy o ddata ddod ar gael. Mae diweddariad ein Prif Ystadegydd yn cynnwys rhagor o wybodaeth.
Ffigur 2: Gwrthdrawiadau ar ffyrdd sydd â therfyn cyflymder o 20mya neu 30mya (wedi’u cyfuno) a gofnodwyd gan heddluoedd yng Nghymru fesul chwarter, Ch1 2010 i Ch3 2024
Disgrifiad o Ffigur 2: Mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser ar gyfer gwrthdrawiadau ar y ffyrdd a gofnodwyd gan heddluoedd ar ffyrdd sydd â therfyn cyflymder o 20mya neu 30mya (wedi’u cyfuno) yng Nghymru fesul chwarter rhwng Ch1 2010 a Ch3 2024. Mae nifer y gwrthdrawiadau ar ffyrdd 20mya neu 30mya fesul chwarter wedi gostwng yn gyson dros y degawd diwethaf.
Ffynhonnell: Ystadegau gwrthdrawiadau ffyrdd, Llywodraeth Cymru
Anafiadau
Gall gwrthdrawiadau unigol ar y ffyrdd arwain at lawer o anafusion. Mae difrifoldeb eu hanfiadau’n amrywio.
Yn Ch3 2024, bu 1,072 o anafusion o ganlyniad i wrthdrawiadau ar y ffyrdd yng Nghymru, ac yn eu plith:
- cafodd 17 (2%) eu lladd.
- cafodd 259 (24%) o bobl eu hanafu’n ddifrifol.
- cafodd 796 (74%) fân anafiadau.
Mae nifer yr anafusion 15% yn is nag yn yr un chwarter yn 2023 (1,260) a dyma’r ffigur chwarter 3 isaf yng Nghymru ers dechrau cadw cofnodion. Yn gyffredinol, mae'r nifer hwn wedi bod yn gostwng dros y degawd diwethaf.
Yn y 12 mis diwethaf, o Ch4 2023 i Ch3 2024 (h.y. ar ôl cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya), mae nifer yr anafusion 14% yn is (3,938) nag yr oedd yn yr un cyfnod flwyddyn yn ôl.
Ffigur 3: Anafusion mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd yng Nghymru fesul chwarter, Ch1 2010 i Ch3 2024
Disgrifiad o Ffigur 3: Mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser ar gyfer nifer yr anafusion mewn gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan heddluoedd yng Nghymru fesul chwarter rhwng Ch1 2010 a Ch3 2024. Mae nifer yr anafusion chwarterol wedi gostwng yn raddol dros y degawd diwethaf.
Ffynhonnell: Ystadegau gwrthdrawiadau ffyrdd, Llywodraeth Cymru
Terfyn cyflymder 20mya a 30mya ar y ffyrdd
Yn Ch3 2024, bu 410 o anafusion mewn gwrthdrawiadau ar ffyrdd sydd â therfynau cyflymder o 20mya a 30mya (wedi’u cyfuno). O blith yr anafusion hyn, roedd 3 yn angheuol, 90 yn ddifrifol a 317 yn fân anafiadau.
Mae nifer yr anafusion ar ffyrdd 20mya a 30mya 35% yn is nag yn yr un chwarter yn 2023 (627).
Nifer yr anafusion ar ffyrdd sydd â therfynau cyflymder o 20mya a 30mya (wedi’u cyfuno) yn Ch3 2024 oedd y ffigurau chwarter 3 isaf yng Nghymru ers dechrau cadw cofnodion. Yn gyffredinol, mae'r nifer hwn wedi bod yn gostwng dros y degawd diwethaf.
Yn y 12 mis diwethaf, o Ch4 2023 i Ch3 2024 (h.y. ar ôl cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya), mae nifer yr anafusion ar ffyrdd 20 a 30mya (wedi’u cyfuno) 28% yn is nag yr oedd yn yr un cyfnod flwyddyn yn ôl.
Ffigur 4: Anafusion a gofnodwyd ar ffyrdd sydd â therfynau cyflymder o 20mya a 30mya yng Nghymru fesul chwarter, Ch1 2010 i Ch3 2024
Disgrifiad o Ffigur 4: Mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser chwarterol o anafusion mewn gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan heddluoedd ar ffyrdd sydd â therfynau cyflymder o 20mya neu 30mya (wedi’u cyfuno) yng Nghymru fesul chwarter rhwng Ch1 2010 a Ch3 2024. Mae'r niferoedd wedi gostwng yn gyson dros y degawd diwethaf.
Ffynhonnell: Ystadegau gwrthdrawiadau ffyrdd, Llywodraeth Cymru
Nodiadau
Mae’r ystadegau’n cyfeirio’n unig at bobl a gafodd anafiadau personol mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd y rhoddwyd gwybod amdanynt i’r heddlu. Ceir rhywfaint o bosibilrwydd o thangofnodi achosion o’r fath, yn enwedig ar gyfer digwyddiadau llai difrifol lle nad oedd swyddogion yr heddlu yn bresennol ynddynt.
Nid yw’r ystadegau hyn yn cynnwys gwrthdrawiadau ar y ffyrdd:
- na roddwyd gwybod amdanynt i’r heddlu
- a ddigwyddodd ar dir preifat h.y. meysydd parcio neu gaeau
- lle na gofnodwyd unrhyw anafiadau personol
- lle cadarnhawyd y gwrthdrawiad yn hwyrach gan weithiwr meddygol proffesiynol neu grwner i fod yn hunanladdiad neu episod meddygol
Ar 17 Medi 2023, newidiodd y gyfraith y terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru o 30mya i 20mya. Mae'r ffyrdd hyn fel arfer yn strydoedd preswyl neu brysur i gerddwyr gyda goleuadau stryd. Bydd y newidiadau wedi effeithio ar y rhan fwyaf o ffyrdd oedd yn 30mya cyn 17 Medi, ond nid pob un. Rydym wedi cyhoeddi map ar MapDataCymru sy'n dangos pa ffyrdd sydd wedi aros ar 30mya.
Mae rhai materion ansawdd data wedi'u nodi mewn perthynas â’r terfyn cyflymder a gofnodwyd ar gyfer y ffyrdd lle digwyddodd y gwrthdrawiadau. Caiff hyn ei esbonio’n fanylach ar ddechrau Gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr Heddlu: bwletin ystadegol 2023 ac yn yr adroddiad ansawdd data.