Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu: Ionawr i Fawrth 2026 (dros dro)
Data am ddifrifoldeb yr anafiadau a'r math o ddefnyddiwr ffordd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2026.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r data dros dro a gyflwynir yma yn adlewyrchu'r anafiadau personol a ddioddefwyd yn sgil gwrthdrawiadau ffyrdd y rhoddwyd gwybod amdanynt i'r heddlu yng Nghymru rhwng mis Ionawr a mis Mawrth (Ch1) 2026. Er mai'r data hyn yw'r ffynhonnell wybodaeth fwyaf manwl a dibynadwy am wrthdrawiadau ffyrdd a marwolaethau ac anafiadau, nid ydynt yn cynnwys gwrthdrawiadau ffyrdd:
- na roddwyd gwybod amdanynt i'r heddlu
- a ddigwyddodd ar dir preifat h.y. meysydd parcio neu gaeau
- lle na chofnodwyd unrhyw anafiadau personol
- lle y cafwyd cadarnhad yn ddiweddarach gan weithiwr meddygol proffesiynol neu grwner mai hunanladdiad neu ddigwyddiad meddygol oedd achos y gwrthdrawiad.
Yn ein blog blaenorol ar ddeall ystadegau ar wrthdrawiadau ac anafiadau ar y ffyrdd, fe wnaethom ddisgrifio newidiadau i'r ffordd y cofnodir difrifoldeb anafiadau gan heddluoedd ledled Prydain Fawr. Er mwyn cynorthwyo defnyddwyr gyda'r hyn y mae'r newid hwn yn ei olygu, rydym wedi cyhoeddi blog arall gan y Prif Ystadegydd yn ddiweddar sy’n esbonio'r newidiadau hyn, eu heffeithiau a'r addasiadau sydd eu hangen i ddata difrifoldeb. Mae'r holl ddata sy'n ymwneud â difrifoldeb yn cael eu cyflwyno ynghyd â chanllawiau ar ddefnyddio'r data hyn. Nid yw'r newidiadau hyn yn effeithio ar nifer cyffredinol y gwrthdrawiadau a'r anafusion, ac mae'r rhain yn parhau i fod yn ystadegau swyddogol achrededig.
Prif bwyntiau
Mae nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd bob chwarter yng Nghymru wedi bod yn gostwng yn raddol dros y degawd diwethaf a gall ffigurau chwarterol fod yn anwadal. Dylid cymryd gofal wrth ddehongli'r data hyn dros gyfnod byr o amser.
Yn Ch1 2026, cofnodwyd 621 o wrthdrawiadau ffyrdd gan yr heddlu yng Nghymru. Arweiniodd y gwrthdrawiadau hyn at 865 o anafusion, gostyngiad o 5% o'i gymharu â'r un chwarter yn 2025.
Roedd nifer y gwrthdrawiadau ac anafusion yn 15% ac 11% yn is na'r un chwarter yn 2023 yn y drefn honno, sef y cyfnod chwarter 1 olaf cyn y newid yn y terfyn cyflymder diofyn.
ffigur 1: anafusion mewn gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu bob chwarter, Ch1 2012 hyd at Ch1 2026
Disgrifiad o ffigur 1: mae'r siart linell yn dangos cyfres amser ar gyfer nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru bob chwarter, o Ch1 2012 hyd at Ch1 2026. Mae nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd bob chwarter wedi gostwng yn raddol dros y degawd diwethaf.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Caiff yr holl ddata sylfaenol eu cyhoeddi ar StatsCymru, a'n dangosfwrdd gwrthdrawiadau ffyrdd. Mae hyn yn cynnwys manylion ychwanegol am wrthdrawiadau a marwolaethau ac anafiadau yn ôl ardal ddaearyddol, terfyn cyflymder, difrifoldeb a'r math o gerbyd.
Mae'r data ar gyfer Ch1 2026 yn rhai dros dro a gellir eu hadolygu yn y dyfodol. Cyhoeddir gwybodaeth fanwl ac o ansawdd yn yr adroddiad ansawdd ategol.
Mae'r data ar wrthdrawiadau yn dymhorol ac mae ffactorau fel swm y traffig a'r tywydd yn effeithio arnynt. Mae'n ddoeth ac yn ystyrlon cymharu data chwarterol â data o'r un chwarter mewn blynyddoedd blaenorol yn hytrach na'u cymharu â'r chwarter blaenorol. Fodd bynnag, mae tueddiadau tymor hwy yn rhoi gwell syniad o batrymau a newidiadau mewn gwrthdrawiadau ffyrdd sydd wedi'u cofnodi gan yr heddlu.
Cyflwynir data cyfres amser dros y tymor hir yn ein datganiad ystadegau blynyddol. Mae’n dangos gostyngiad tymor hir yn y gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru.
Yn y cyhoeddiad hwn, rydym yn cyhoeddi data difrifoldeb anafiadau wedi'u haddasu am y tro cyntaf fel ystadegau swyddogol sy'n cael eu datblygu.
O ystyried y cynnydd mewn diddordeb yn y data ar wrthdrawiadau ers cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar 17 Medi 2023, gwnaethom gyhoeddi Diweddariad y Prif Ystadegydd ar ‘ddeall ystadegau ar wrthdrawiadau ac anafiadau ar y ffyrdd’ ar 24 Mai 2024.
Terfyn cyflymder 20mya a 30mya ar y ffyrdd
Cafodd y rhan fwyaf o'r ffyrdd 30mya eu newid i fod yn 20mya ar 17 Medi 2023. Felly, mae llawer mwy o ffyrdd bellach yn ffyrdd 20mya (cynnydd o tua 870km i 13,000km), ac mae llawer llai o ffyrdd yn rhai 30mya (gostyngiad o tua 13,100km i 980km).
Mae'r adran hon yn ystyried gwrthdrawiadau a ddigwyddodd ar bob ffordd 20mya a phob ffordd 30mya (wedi'u cyfuno) er mwyn sicrhau y gellir eu cymharu â'r un set o ffyrdd cyn ac ar ôl y newid i'r terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig.
Mae data ar wrthdrawiadau ffyrdd ar ôl y newid i'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn gyfyngedig i gyfnod eithaf byr o amser ar hyn o bryd (17 Medi 2023 i 31 Rhagfyr 2024) a gallant fod yn anwadal yn y tymor byr. Dylid cymryd gofal wrth ddehongli'r data hyn dros gyfnod byr o amser. Byddwn yn parhau i fonitro'r data hyn dros amser wrth i fwy o ddata ddod ar gael. Mae diweddariad ein Prif Ystadegydd yn cynnwys rhagor o wybodaeth.
Yn Ch1 2026, cafwyd 305 o wrthdrawiadau ar ffyrdd gyda therfynau cyflymder 20 a 30mya (wedi’u cyfuno) gan arwain at 379 o anafusion ar y ffyrdd.
Mae nifer yr anafusion ar ffyrdd 20 a 30mya (wedi’u cyfuno) 10% yn is nag yn yr un chwarter yn 2025 (421). Mae’n 26% yn is nag yn yr un chwarter yn 2023 (510), sef y cyfnod chwarter 1 olaf cyn newid y terfyn cyflymder diofyn.
Mae nifer y gwrthdrawiadau ar ffyrdd 20 a 30mya (wedi’u cyfuno) 11% yn is nag yn yr un chwarter yn 2025 (341). Mae’n 28% yn is nag yn yr un chwarter yn 2023 (421), sef y cyfnod chwarter 1 olaf cyn newid y terfyn cyflymder diofyn.
Yn gyffredinol, mae'r ffigur hwn wedi bod yn gostwng dros y degawd diwethaf.
Ffigur 2: anafusion mewn gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu ar ffyrdd â therfyn cyflymder o 20mya neu 30mya (wedi’u cyfuno), Ch1 2012 hyd at Ch1 2026
Disgrifiad o ffigur 2: mae'r siart linell yn dangos cyfres amser ar gyfer gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu bob chwarter ar ffyrdd â therfyn cyflymder o 20mya neu 30mya (wedi'u cyfuno) yng Nghymru, o Ch1 2012 hyd at Ch1 2026. Mae'r nifer wedi gostwng yn raddol dros y degawd diwethaf.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Difrifoldeb anafiadau
Yn Ch1 2026, cafodd 317 o anafusion eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol (KSI) mewn gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu. Mae'r ffigur hwn yn defnyddio data a addaswyd sy'n amcangyfrif difrifoldeb anaf pob un a anafwyd fel pe bai holl heddluoedd Cymru yn defnyddio'r un system gofnodi. Nid oes modd ei gymharu â ffigurau yn ein cyhoeddiadau blaenorol nad ydynt wedi'u haddasu.
Ffigur 3: Anafusion KSI mewn gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu, wedi'u haddasu a heb eu haddasu, 2015 i 2025
Disgrifiad o ffigur 3: mae'r siart linell yn dangos cyfresi amser wedi'u haddasu a heb eu haddasu ar gyfer nifer yr anafusion KSI mewn gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru rhwng 2015 a 2025. Mae nifer yr anafusion KSI wedi aros yn sefydlog dros y 10 mlynedd diwethaf ond mae'r gyfres amser wedi'i haddasu yn dangos mwy o anafusion KSI na’r gyfres amser heb ei haddasu.
Ffynhonnell: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu, Llywodraeth Cymru
Caiff anafiadau mewn gwrthdrawiadau ffyrdd eu cofnodi naill ai fel wedi’u lladd, wedi’u hanafu’n ddifrifol neu wedi cael mân anafiadau. Yn hanesyddol, roedd hyn yn seiliedig ar farn swyddogion heddlu a oedd yn adrodd am wrthdrawiadau. Fodd bynnag, mae llawer o heddluoedd ledled Prydain Fawr wedi mabwysiadau system adrodd seiliedig ar anafiadau (IBRS), lle pennir y difrifoldeb gan ddefnyddio rhestr benodol o anafiadau. Mae’r dull hwn yn lleihau goddrychedd, a bwriedir iddo wella cywirdeb a chysondeb ar draws heddluoedd.
Fodd bynnag, wrth symud i IBRS, mae'r Adran Drafnidiaeth wedi canfod cynnydd yn nifer yr anafiadau difrifol a gostyngiad yn nifer yr anafiadau ysgafn. Mae hyn yn debygol o fod yn gynrychiolaeth fwy cywir o ddifrifoldeb anafiadau gan ei fod yn dileu goddrychedd barn swyddogion yr heddlu wrth benderfynu a oedd anaf yn ‘ysgafn’ neu’n ‘ddifrifol’. Nid yw'r newid i IBRS yn effeithio ar gyfanswm nifer y gwrthdrawiadau, yr anafusion na'r marwolaethau.
Heddlu Dyfed-Powys oedd y llu cyntaf o Gymru i symud i IBRS ym mis Mai 2023, ac yna Heddlu De Cymru ym mis Tachwedd 2025.
Nid yw’r dulliau adrodd am ddifrifoldeb anafiadau o dan yr hen system a’r system newydd yn gyson, ac felly mae angen i ni addasu data hanesyddol am anafiadau ffyrdd yn ôl difrifoldeb er mwyn ein galluogi i gymharu’r data yn gyson dros amser a rhwng heddluoedd.
Yn y cyhoeddiad hwn, rydym yn cyhoeddi data difrifoldeb anafiadau wedi'u haddasu fel ‘ystadegau swyddogol sy’n cael eu datblygu (Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau)’ am y tro cyntaf, ynghyd â chynllun ar gyfer eu datblygu. Rydym wedi mabwysiadu'r fethodoleg a ddatblygwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r Adran Drafnidiaeth sy'n defnyddio model ystadegol i amcangyfrif pa mor ddifrifol fyddai pob achos pe bai wedi cael ei gofnodi gan ddefnyddio IBRS yn hytrach nag yn seiliedig ar farn swyddog yr heddlu. Yna mae'r model yn addasu'r ffigurau i adlewyrchu'r hyn y mae'n amcangyfrif y byddai'r difrifoldeb wedi bod pe bai IBRS wedi cael ei ddefnyddio. Mae hyn yn golygu bod y tueddiadau mewn difrifoldeb yn adlewyrchu'r hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd, yn hytrach nag adlewyrchu'r newid yn y dull adrodd.
Yn ystod ein dadansoddiad o ddata Heddlu De Cymru, rydym wedi canfod bod symud i IBRS wedi arwain at gynnydd mwy mewn gwrthdrawiadau difrifol nag yn y rhan fwyaf o heddluoedd eraill, gan gynnwys Dyfed-Powys. Credwn fod hyn yn debygol o fod yn sgil tanadrodd hanesyddol o wrthdrawiadau difrifol fel mân wrthdrawiadau gan Heddlu De Cymru, sydd bellach yn cael eu categoreiddio'n gywir yn sgil IBRS. Fodd bynnag, gan mai dim ond un chwarter o ddata gan Heddlu De Cymru sydd gennym ar IBRS, mae'n rhy gynnar i ni ddod i’r casgliad hwn yn hyderus. Felly, byddwn yn parhau i ymchwilio i hyn wrth i ni dderbyn rhagor o ddata gan Heddlu De Cymru a pharhau i ddiweddaru defnyddwyr drwy gydol ein datganiadau sydd ar y gweill.
O ystyried bod data Heddlu De Cymru a addaswyd yn seiliedig ar ddata IBRS o fis Tachwedd 2025 i fis Mawrth 2026, rydym yn disgwyl i hyn fod yn destun lefel uwch o adolygiad wrth i ni dderbyn mwy o chwarteri o ddata IBRS. Byddem hefyd yn disgwyl diweddaru'r model wrth i'r ddau heddlu sy'n weddill symud i IBRS. Bydd gan hyn oblygiadau i gyfanswm Cymru ar gyfer dadansoddiadau o wrthdrawiadau ac anafusion difrifol neu fân a addaswyd. Fodd bynnag, nid yw'n effeithio ar gyfanswm y bobl a laddwyd na chyfanswm y gwrthdrawiadau neu anafusion.
Lle bynnag y bo modd, byddem yn cynghori defnyddwyr i osgoi cymharu tueddiadau mewn data difrifoldeb tan ein bod yn cyhoeddi iteriadau pellach o ddata wedi'u haddasu mewn cyhoeddiadau sydd i ddod. Byddwn yn monitro graddfa'r diwygiadau ac yn cynghori defnyddwyr yn unol â hynny. Rydym wedi parhau i gyhoeddi data heb eu haddasu ar StatsCymru. Byddai'r ansicrwydd sy'n gysylltiedig â'r data a addaswyd yn cael ei chwyddo ar gyfer dadansoddiadau mwy manwl. Felly, nid ydym wedi cyhoeddi'r data a addaswyd ar StatsCymru eto. Rydym yn disgwyl eu cyhoeddi y chwarter nesaf pan fydd data ychwanegol ar gael.
Cynllun ar gyfer ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad
Rydym wedi cyflwyno'r data am ddifrifoldeb wedi'i addasu fel ‘Ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad’, yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r DU). Ystadegau sydd wrthi'n cael eu datblygu yw ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad. Gallent fod yn ystadegau newydd neu'n ystadegau sydd eisoes yn bodoli, a byddant yn cael eu profi gyda defnyddwyr yn unol â'r safonau yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, sef dibynadwyedd, ansawdd a gwerth.
Mae'r data am ddifrifoldeb wedi'u haddasu wedi'u ddynodi'n ‘Ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad’ oherwydd byddwn yn parhau i adolygu a datblygu'r model ar gyfer addasu difrifoldeb wrth i fwy o heddluoedd yng Nghymru symud i systemau adrodd ar sail anafiadau (IBRS) ac inni dderbyn mwy o ddata Cymreig. Mae'r ystadegau eraill yn y datganiad yn parhau i fod yn ‘Ystadegau swyddogol achrededig’.
Dros y blynyddoedd nesaf, byddwn yn cymryd y camau canlynol i ddatblygu'r ystadegau hyn.
Datblygu'r model
- Rhedeg y model bob blwyddyn i sicrhau bod yr addasiadau yn cynnwys y data diweddaraf a bod yr addasiadau mor gywir â phosibl.
- Monitro hyd a lled yr addasiadau bob blwyddyn.
- Gweithio'n agos gyda'n darparwyr data, h.y. y pedwar heddlu yng Nghymru, i sicrhau bod ganddynt brosesau sicrhau ansawdd cadarn ar waith wrth iddynt newid o un system i'r llall.
- Parhau i weithio gyda'n partneriaid (gan gynnwys yr Adran Drafnidiaeth, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ac academyddion annibynnol) wrth i fwy o IBRS ddod ar gael i sicrhau mai'r model hwn yw'r fethodoleg fwyaf priodol ar gyfer ein data.
Ymgysylltu â defnyddwyr
- Gweithio gyda gweddill yr heddluoedd i'w hannog i symud i IBRS.
- Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ddefnyddwyr ynghylch pa heddluoedd sydd wedi newid i IBRS a sut mae hyn yn effeithio ar y data.
- Cynghori defnyddwyr ar yr adegau mwyaf priodol i ddefnyddio data wedi'i addasu neu heb ei addasu a diweddaru'r canllawiau hyn wrth i weddill heddluoedd Cymru symud i IBRS.
- Ceisio adborth gan ddefnyddwyr trwy ein cyhoeddiad ystadegol.
- Cyflwyno a rhannu gydag ystod eang o ddefnyddwyr trwy wahanol grwpiau rhanddeiliaid e.e. y Grŵp data a dadansoddwyr.
Llunio addasiadau terfynol
- Dros amser, rydym yn disgwyl y bydd hyd a lled y diwygiadau blynyddol yn lleihau wrth i ni dderbyn mwy o ddata IBRS.
- Pan fydd digon o ddata IBRS o Gymru a bydd nifer y diwygiadau blynyddol yn fach iawn, byddwn yn llunio addasiadau terfynol ac yn rhoi'r gorau i adolygu'r data hanesyddol.
- Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid ar hyn, yn enwedig yr Adran Drafnidiaeth.

