Neidio i'r prif gynnwy

Sut i wrthwynebu gorchymyn hawl dramwy gyhoeddus neu gynnig sylwadau arno.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Awst 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Eich awdurdod lleol sy’n gwneud penderfyniadau ynglŷn â chofnodi a newid hawliau tramwy cyhoeddus.

Pan fyddant yn hysbysebu gorchymyn hawl dramwy, gallwch wrthwynebu neu gynnig sylwadau arno.

Os nad oes unrhyw wrthwynebiadau neu sylwadau, gallant gadarnhau’r gorchymyn eu hunain.

Os oes gwrthwynebiadau neu sylwadau, gall yr awdurdod priffyrdd lleol ei gyfeirio at yr Arolygiaeth Gynllunio.  Galwn orchymyn a gyflwynir i’r Arolygiaeth Gynllunio yn orchymyn a wrthwynebir.

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gorchymyn

Nid oes dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gorchymyn a wrthwynebir.

Bydd yr awdurdod priffyrdd lleol yn cyflwyno’r gorchymyn gyda’r ddogfen ofynnol.

Bydd hysbysiad o orchymyn yn cael ei gyhoeddi gyda dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno sylwadau, datganiad achos a phrawf o dystiolaeth.

Pryd y gallwch ddisgwyl penderfyniad

Bydd yr hysbysiad o orchymyn yn cynnwys dyddiad dechrau.  O’r dyddiad hwn, fel arfer cewch benderfyniad cyn pen:

  • 35 wythnos os delir ag ef drwy ymchwiliad lleol
  • 29 wythnos os delir ag ef drwy wrandawiad
  • 27 wythnos os delir ag ef drwy sylwadau ysgrifenedig

Sylw ar orchymyn

Gall unrhyw un wneud sylwadau ar orchymyn hawl dramwy gyhoeddus.

Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn ysgrifennu at:

  • bawb sydd wedi gwrthwynebu’r gorchymyn neu wneud sylwadau ar y gorchymyn
  • partïon hysbysedig

Byddant yn darparu manylion am ddigwyddiad ac amserlen ar gyfer cyflwyno sylwadau a dogfennau.

Cysylltwch â’ch cyngor i wneud sylwadau ar orchymyn hawl dramwy gyhoeddus nad yw wedi’i gyflwyno o’r Arolygiaeth Gynllunio eto.

Ar ôl i’r gorchymyn gael ei gyflwyno

Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn gwirio’r gorchymyn i sicrhau ei fod yn ddilys. Byddant yn dweud wrthych beth sy’n digwydd nesaf a faint gymer i wneud penderfyniad ynglŷn â’r gorchymyn (penderfyniad).

Os yw unrhyw un yn ymddwyn yn afresymol

Os delir â’r gorchymyn mewn ymchwiliad neu wrandawiad, gallwch wneud cais am ddyfarnu costau. Mae hyn yn berthnasol os yw unrhyw un sy’n gysylltiedig â’ch apêl wedi costio arian i chi drwy ymddwyn yn afresymol, er enghraifft, colli terfynau amser. 

Gallwch gwyno ynglŷn â’r modd y gwnaeth yr Arolygiaeth Gynllunio ymdrin â’r gorchymyn. Nid oes terfyn amser ar gyfer cwynion.

Os ydych chi’n anghytuno gyda’r penderfyniad

Gallwch herio’r penderfyniad yn y Llys Gweinyddol os ydych chi’n meddwl bod yr Arolygiaeth Gynllunio wedi gwneud camgymeriad cyfreithiol.  Mynnwch gyngor gan gyfreithiwr os nad ydych chi’n sicr ynglŷn â hyn.