Neidio i'r prif gynnwys

Gwybodaeth am y brechlynnau BTV-3 sydd ar gael ar gyfer ceidwaid anifeiliaid a milfeddygon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y brechlynnau  

Mae tri brechlyn Bluetongue serotype 3 (BTV-3) wedi'u cymeradwyo i'w defnyddio. Mae rhain wedi cael awdurdodiad marchnata gan y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol (VMD). Ni allwch ond ddefnyddio'r brechlynnau hyn os yw'ch defnydd yn cydymffurfio â thrwydded neu ddatganiad dilys.

I gael rhagor o wybodaeth am y brechlynnau BTV-3, gan gynnwys trwyddedau a hawlenni, ewch i Bluetongue serotype 3 (BTV-3) vaccination (ar gov.uk).

Ble y cewch chi ddefnyddio brechlyn BTV-3 

Gellir defnyddio'r brechlynnau hyn yng Nghymru, Yr Alban a Lloegr, ond rhaid cydymffurfio ag amodau cyfreithiol y drwydded gyffredinol.

Gwybodaeth bwysig i filfeddygon

Yn ogystal â'ch cyfrifoldeb i roi gwybod i'r awdurdodau perthnasol am unrhyw effeithiau andwyol y byddwch yn sylwi arnynt, mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru wedi cyhoeddi nodyn cynghori. Mae hwn yn gofyn am eich cydweithrediad i gadw cofnodion o ddosau'r brechlyn tafod glas rydych chi'n eu harchebu, eu cyflenwi a'u rhagnodi.  

Dylai milfeddygon roi gwybod i ni am yr holl frechlynnau BTV-3 y maent yn eu rhagnodi o fewn 7 diwrnod ar ôl eu rhagnodi gan ddefnyddio'r ffurflen adrodd ar ragnodi brechlyn BTV-3 (ar gov.uk). 

Mae'r Prif Swyddog Milfeddygol wedi gofyn am gadw cofnod oherwydd dyma'r tro cyntaf i ni ddefnyddio'r pŵer i ganiatáu brechlyn sydd heb ei awdurdodi.

Siaradwch â'ch milfeddyg 

Dylai ceidwaid anifeiliaid drafod manteision brechu i'w hanifeiliaid a'u busnes gyda'u milfeddyg preifat. 

Gweithiwch gyda'ch milfeddyg i: 

  • benderfynu ai brechu’ch anifeiliaid â  BTV-3 yw'r peth iawn iddyn nhw
  • penderfynu pryd yn union i frechu

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ac adnoddau yn Ruminant Health & Welfare. Mae hyn yn rhan o ymgyrch 'battle bluetongue' sy'n rhedeg ar draws diwydiant.

Cadwch gofnod o'ch brechiadau 

Rhaid i'ch milfeddyg ragnodi'r brechlyn i chi, ond gallwch chi, ceidwad yr anifeiliaid, roi'r brechlyn i'ch anifeiliaid. Mae'n bwysig dilyn arferion diogel. 

Pan fyddwch yn defnyddio brechlyn BTV-3. rhaid i chi: