Neidio i'r prif gynnwy

Ymgymryd ag ymchwil gyda’r cyhoedd i wybodaeth a safbwyntiau ynghylch gwasanaethau band eang cyflym iawn, a elwir hefyd yn ‘fand eang y genhedlaeth nesaf’ neu’n ‘fand eang ffeibr’, yng Nghymru.

Diben pennaf yr ymchwil hon yw datblygu ein dealltwriaeth o gymhellion a nodau pob dydd unigolion a glustnodwyd o’r poblogaethau targed allweddol.  Mae'r ymchwil yn rhoi data ansoddol dangosol ynghylch sut yr oedd y poblogaethau targed yn deall ac yn ystyried eu darparwr gwasanaethau rhyngrwyd presennol a gwasanaethau band eang cyflym iawn o safbwynt eu blaenoriaethau personol. Mae’r data yn taflu rhywfaint o oleuni ar ddealltwriaeth, dirnadaeth a defnydd y poblogaethau targed o wasanaethau band eang cyflym iawn a band eang confensiynol.

Adroddiadau

Gwybodaeth a safbwyntiau’r cyhoedd ynghylch gwasanaethau band eang cyflym iawn yng Nghymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 976 KB

PDF
976 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Nina Prosser

Rhif ffôn: 0300 025 5866

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.