Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn datblygu syniadau i wella'n hiechyd, amddiffyn ein hamgylchedd a chyfrannu at ddyfodol gwell ac economi cryfach.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ein nod yw adeiladu ar y sylfaen wyddoniaeth gref a deinamig ledled Cymru. Bydd hyn yn sicrhau bod gwyddoniaeth a thechnoleg yn ateb heriau'r dyfodol yng Nghymru sy'n effeithio ar:

  • yr economi
  • y newid yn yr hinsawdd
  • yr amgylchedd
  • iechyd

Rydym yn annog twf ymchwil ym maes gwyddoniaeth ym Mhrifysgolion a busnesau Cymru. Mae hyn yn ein helpu i:

  • rhoi hwb i'r economi
  • diogelu'r amgylchedd
  • deall effeithiau drwy dystiolaeth a dadansoddiad

Rydym yn cyflogi gwyddonwyr a pheirianwyr ar draws Llywodraeth Cymru. Maent yn gweithio ar faterion fel y newid yn yr hinsawdd, ynni, coedwigaeth ac iechyd. Byddant yn defnyddio tystiolaeth o ymchwil wyddonol i'n helpu i fynd i'r afael â heriau rydym ni, fel cymdeithas, yn eu hwynebu.

Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru (CSAW)

Mae Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru (CSAW) yn rhoi cyngor gwyddonol i:

  • Prif Weinidog Cymru
  • y Cabinet
  • gweinyddiaeth

Mae hyn yn sicrhau bod ein polisïau a'n penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol gadarn a gwaith pwyso a mesur hirdymor. Cefnogir CSAW gan Swyddfa Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru.

Y Prif Gynghorydd Gwyddonol yw pennaeth y proffesiwn gwyddonol ar gyfer Llywodraeth Cymru hefyd.

Mae’r Athro Peter Halligan wedi rhoi’r gorau i swydd y Prif Gynghorydd Gwyddonol yn ddiweddar. Diolchwn iddo am ei amser a'i gyfraniadau gwerthfawr a dymunwn y gorau iddo yn ei ymdrechion yn y dyfodol. Bydd manylion ar gyfer penodi Cynghorydd Gwyddonol newydd yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Swyddfa Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru: ChiefScientificAdviserWales@gov.cymru