Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gŵyl Gofalwyr Ifanc flynyddol Cymru, lle gwelwyd y nifer uchaf erioed o bobl ifanc eleni, wedi cael ei chanmol fel un sy'n "newid bywyd" gan ofalwr ifanc o Wrecsam.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Awst 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Ffion Scott wedi gofalu am ei mam, sy'n anabl, ers ei bod hi'n 4 oed.

Canmolodd y ferch 18 oed, sydd wedi mynychu pob gŵyl ers 2022, effaith gadarnhaol y digwyddiad ar ei bywyd cymdeithasol a phersonol.

Dychwelodd eleni fel aelod o Fwrdd Cynghori Gofalwyr Ifanc, lle cyfarfu â'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol i drafod materion sy'n bwysig i ofalwyr ifanc.

Dywedodd Ffion:

Mae'r Ŵyl Gofalwyr Ifanc wedi newid fy mywyd i.

Yn yr ŵyl, dydych chi byth yn teimlo eich bod chi ar eich pen eich hun. Mae pawb o'ch cwmpas yn gwybod beth rydych chi'n mynd drwyddo, a does dim rhaid ichi brofi eich hun i unrhyw un. Does dim modd diflasu yma. Mae yna rywbeth i bawb!

Dw i wedi gwneud cymaint o ffrindiau ac atgofion oes. Roedd yn wych ymuno â'r bwrdd cynghori a chwrdd â'r Gweinidog - roedd ei chael hi yn gwrando arnon ni yn gwneud inni i gyd deimlo'n gyfwerth.

Mae'r ŵyl, sydd am ddim, yn rhoi amser hollbwysig i bobl ifanc i ffwrdd o'u cyfrifoldebau gofalu, gan gynnig gweithgareddau chwaraeon, celf a chrefft, a pherfformiadau byw ochr yn ochr â chyngor ar addysg, gyrfaoedd a'u hawliau fel gofalwyr.

Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:

Dw i wrth fy modd yn gweld bod y nifer uchaf erioed o ofalwyr ifanc wedi dod i'r ŵyl eleni.

Mae gofalwyr ifanc yn dangos cryfder ac aeddfedrwydd anhygoel, ac yn aml yn ymgymryd â chyfrifoldebau sydd ymhell y tu hwnt i'w blynyddoedd. Mae'r ŵyl hon yn rhoi'r hyn y mae pob person ifanc yn ei haeddu - amser i fod yn nhw eu hunain a gwneud ffrindiau. Mae'r bwrdd cynghori yn sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed reit yng nghanol y llywodraeth, gan ein helpu i gefnogi pob gofalwr ifanc ledled Cymru yn well.