Gweithio yng nghanol Llywodraeth Cymru:
cefnogi gweinidogion mewn Swyddfeydd Preifat ac Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Darparu cefnogaeth i helpu gweinidogion i arwain yn effeithiol a chyflawni dros Gymru.
Dyma gyfle i fod yng nghanol penderfyniadau Llywodraeth Cymru gan chwarae rhan allweddol wrth gefnogi’r Prif Weinidog, ysgrifenyddion y cabinet a gweinidogion i wireddu eu blaenoriaethau dros Gymru.
Yn y Swyddfeydd Preifat ac Ysgrifenyddiaeth y Cabinet, byddwch yn gweithio mewn amgylchedd deinamig a chyflym, gan gyfrannu at benderfyniadau sy’n siapio dyfodol y wlad.
Gyda chyfleoedd amrywiol ar draws y ddau dîm, dyma’ch cyfle i wneud gwahaniaeth.
Beth yw'r Swyddfa Breifat?
Mae gan y Prif Weinidog, ysgrifenyddion y cabinet a'r gweinidogion eu Swyddfa Breifat bwrpasol eu hunain sy'n cynnwys ysgrifenyddion preifat a rheolwyr dyddiaduron o rolau lefel mynediad i rolau uwch reolwyr, sy'n sicrhau eu bod yn gallu arwain yn effeithiol a chyflawni dros Gymru.
Swyddfeydd Preifat yw'r cyswllt rhwng gweinidogion, adrannau Llywodraeth Cymru, rhanddeiliaid allweddol a'r cyhoedd. Mae swyddfa breifat sy'n cael ei rhedeg yn dda yn gwneud i bopeth redeg yn llyfn!
Beth yw Ysgrifenyddiaeth y Cabinet?
Mae Ysgrifenyddiaeth y Cabinet yn ganolog i waith Llywodraeth Cymru, gan gefnogi'r Prif Weinidog a'r Cabinet i wneud penderfyniadau ar y cyd.
Mae ei gwaith yn cynnwys cydlynu cyfarfodydd y cabinet, rheoli busnes y llywodraeth yn y Senedd, goruchwylio gohebiaeth lefel uchel, a rheoli’r fflyd o geir swyddogol.
Mae Ysgrifenyddiaeth y Cabinet yn sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu cofnodi'n glir a'u gweithredu.
Mae ei gwaith yn hanfodol i gynnal llywodraethu da a sicrhau gweithrediad esmwyth Llywodraeth Cymru.
Pam ymuno â ni?
Mae gweithio o fewn y Swyddfa Breifat ac Ysgrifenyddiaeth y Cabinet yn cynnig cyfle unigryw i dyfu’ch gyrfa, ennill profiad eang, a chyfrannu at waith sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Gyda swyddi ar gael ar draws ystod o raddau, mae lle i ddatblygu gyrfa, ynghyd â chefnogaeth i ddysgu a datblygu yn y rôl.
Mae'n amgylchedd proffil uchel, lle mae pethau’n newid yn gyflym, gan weithio gyda gweinidogion ac uwch arweinwyr, lle nad oes dau ddiwrnod yr un fath.
‟ Mae gweithio yn swyddfa'r Prif Weinidog yn gyfle anhygoel i fod wrth galon y llywodraeth ”
Meg - aelod o'r tîm
Buddion
31 ddiwrnod o wyliau blynyddol
Ynghyd ag wyth gŵyl gyhoeddus a tri ddiwrnod braint.
Gweithio’n hyblyg
Ein galluogi i gydweithio i gyflawni ein blaenoriaethau wrth reoli ymrwymiadau yn ein bywydau cartref.
Dysgu a datblygu
Mynediad i hyfforddiant a chyfleoedd datblygu sydd wedi’u teilwra i’ch rôl.
Cyflog cystadleuol
Strwythur cyflogau a gwobrau hael ar draws pob gradd.
Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
Gyda chyfraniad cyflogwr o 27% ar gyfartaledd.
Cyllid cefnogol
Ar gyfer tocynnau teithio tymhorol, y cynlluniau Beicio i’r Gwaith a Char Gwyrdd a llawer mwy.
Absenoldeb rhiant
26 wythnos ar gyflog llawn ar gyfer cyfnod mamolaeth ac absenoldeb mabwysiadu, a thair wythnos ar gyflog llawn ar gyfer cyfnod tadolaeth – er mwyn eich cefnogi chi a’ch teulu.
Eich helpu y tu allan i’r gwaith
Hyd at bum diwrnod o absenoldeb â thâl ar gyfer gwirfoddoli, absenoldeb arbennig i gyflawni dyletswyddau cyhoeddus neu i ddelio â materion domestig.
Partneriaeth ag undebau llafur
Er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal y cydbwysedd cywir rhwng ein buddiannau a buddiannau ein gweithwyr.
Yn barod i ymuno â ni?
Ewch i swyddi Llywodraeth Cymru i chwilio am swyddi gwag.
