Neidio i'r prif gynnwy

Mae ffigurau a gyhoeddwyd heddiw gan Lywodraeth Cymru ar gyfer nifer y bobl wnaeth aros mewn llety dros yr haf yn cyfateb â’r ffigurau ar gyfer 2015.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ystod y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Gorffennaf 2016, roedd 67% o ystafelloedd gwestai yn llawn, ac mae hynny’n union r’un fath ag yr oedd ar gyfer y 12 mis blaenorol.

Yn y cyfnod rhwng mis Mehefin 2015 a mis Gorffennaf 2016, roedd nifer y bobl oedd yn dod i aros mewn gwestai / llety gwely a brecwast yn 38%, cynnydd o 2 y cant o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol.

Roedd nifer y bobol sy’n aros mewn hostelau ar gyfer y deuddeg mis a ddaeth i ben ym mis Gorffennaf 2016 yn 49%. Roedd hynny’n gynnydd o 1 y cant o’i gymharu â’r nifer wnaeth aros ynddynt dros y deuddeg mis blaenorol.

Yn ystod y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Gorffennaf 2016, gwelwyd cwymp bychan o 2%, i lawr i 52%, yn nifer y bobl a wnaeth aros mewn unedau hunan arlwyo.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith: 

“Mae hi’n Ddiwrnod Twristiaeth Ryngwladol heddiw ac mae hynny’n gyfle i ddathlu pwysigrwydd twristiaeth a’i gwerth cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd. Mae twristiaeth yng Nghymru yn perfformio’n gadarn ac mae’r diwydiant ar y trywydd cywir i gwrdd â’r targed o 10% o dwf gwirioneddol yn yr elw a wneir o ymwelwyr sy’n aros dros nos erbyn 2020. Mae’r twf hwn yn cefnogi swyddi ac yn rhoi gwerth ychwanegol i economi Cymru. Ein nod nawr yw cynnal y lefelau hyn.   

“Yr wythnos ddiwethaf, dangosodd ein harolwg baromedr fod 84% o’r busnesau twristiaeth a gafodd eu harolygu yn fwy prysur nag oeddynt yn 2015 - neu'r un mor brysur - ac roedd honno’n flwyddyn a wnaeth dorri record. Mae perfformiad y sector twristiaeth yn seiliedig ar amrywiaeth o fesurau ac mae’n dda gweld bod ein harolwg ar gyfer nifer y bobl wnaeth aros mewn llety hefyd yn dangos bod ffigurau’r flwyddyn hon yn cyfateb â’n llwyddiant diweddar.”