Rhagamcanion cyflogaeth rhwng 2020 a 2035, wedi’u rhannu yn ôl diwydiant, galwedigaeth a lefel cymhwyster.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae Hanfodion Sgiliau 2035 yn bartneriaeth ymchwil strategol sy'n cael ei harwain gan y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg (NFER) a'i chyllido gan Sefydliad Nuffield sy'n ceisio nodi'r sgiliau cyflogaeth hanfodol y bydd eu hangen ar bobl i weithio erbyn 2035.
Fel rhan o hyn, mae amcanestyniadau cyflogaeth Hanfodion Sgiliau yn darparu amcanestyniadau o gyflogaeth hyd at 2035. Mae'r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg byr o'r canfyddiadau ar gyfer Cymru, a gymerwyd o'r llyfrau gwaith rhagamcanion cyflogaeth a gynhyrchwyd gan y Sefydliad Ymchwil Cyflogaeth a Cambridge Econometrics fel rhan o'r prosiect. Cyllidwyd y llyfrau gwaith rhanbarthol gan yr Adran Addysg.
Dylid bod yn ofalus wrth ddehongli'r amcanestyniadau a gyflwynir yn Hanfodion Sgiliau 2035, fel gyda phob rhagamcan a rhagolwg, a dylid eu hystyried yn arwydd o dueddiadau a threfn maint tebygol o ystyried parhad patrymau ymddygiad a pherfformiad yn y gorffennol, yn hytrach na rhagolygon manwl ar gyfer y dyfodol. Bydd dibynadwyedd data hanesyddol a rhagamcanol yn lleihau gyda mwy o ddadgyfuno. Datblygwyd yr amcanestyniadau yn 2021/22, ar adeg o gryn ansicrwydd economaidd yn dilyn Brexit a phandemig Covid-19. Er bod patrymau cyflogaeth newidiol yn ôl sector a galwedigaeth yn cael eu gyrru'n bennaf gan dueddiadau tymor hwy, rhaid cadw'r amgylchiadau hyn mewn cof a rhaid bod yn ofalus wrth ddefnyddio'r wybodaeth. Er bod Hanfodion Sgiliau yn cyfeirio at 'gyflogaeth', oni nodir yn wahanol, nifer y swyddi yw hyn. Am y rheswm hwn, bydd y ffigurau yn y papur hwn ar gyfer 2020 yn fwy nag amcangyfrifon cyflogaeth Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth neu Arolwg o'r Llafurlu 2020, gan y bydd gan rai unigolion fwy nag un swydd.
Adroddiadau
Hanfodion Sgiliau 2035: amcanestyniadau o'r farchnad lafur a sgiliau ar gyfer y Deyrnas Unedig (papur crynhoi Cymru) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Cyswllt
James Carey
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
