Neidio i'r prif gynnwy

Ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ailgylchu, drwy gymeradwyo cyllid cyfalaf o £7.5 miliwn i helpu awdurdodau lleol i barhau i wella gwasanaethau ailgylchu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ddydd Iau diwethaf, cyhoeddwyd Datganiad Ystadegol y DU (dolen allanol) bod Cymru wedi cynyddu’r bwlch o ran ailgylchu trefol rhyngddi a gweddill y DU, i 12% yn uwch na chyfartaledd y DU.  Yn ogystal â bod o flaen gweddill y DU, dangosodd adroddiad annibynnol (dolen allanol) yn ddiweddar mai cyfradd ailgylchu gwastraff cartrefi Cymru yw’r ail yn Ewrop a’r drydedd yn y byd.

Er mwyn sicrhau bod y momentwm sylweddol hwn yn cael ei gynnal a’i wella, mae’r Gweinidog wedi cyhoeddi heddiw ei bod yn neilltuo £7.5 miliwn i helpu awdurdodau lleol i wella’u gwasanaethau ailgylchu. Bydd yr arian yn cael ei reoli drwy’r Rhaglen Newid Gydweithredol lwyddiannus iawn. 

Mae’r rhaglen yn darparu cymorth arbenigol i Awdurdodau Lleol drwy roi grantiau cyfalaf lle bo Awdurdodau Lleol yn dymuno newid eu gwasanaethau er mwyn gwella’u perfformiad yn gyffredinol ac alinio’r gwasanaethau hyn yn well â pholisïau Llywodraeth Cymru.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i wella’r ffordd y mae sbwriel yn cael ei gasglu a’i ddidoli ar gyfer ei ailgylchu. Bydd hyn yn helpu’r Awdurdodau Lleol i gyrraedd ein targed ailgylchu uchelgeisiol a’n helpu ni i wireddu’n huchelgais i fod yn wlad ddiwastraff.

Dywedodd Hannah Blythyn:

“Mae llwyddiant Cymru o ran ailgylchu yn dyst i lwyddiant datganoli.   Yn yr 20 mlynedd ers i Gymru bleidleisio o blaid datganoli, mae’n cyfradd ailgylchu wedi codi o tua 5% i 64% - y drydedd orau yn y byd. Dim ond yr wythnos ddiwethaf, cawson ni gadarnhad bod Cymru wedi cynyddu’r bwlch o ran ailgylchu rhyngddi hi a gweddill y DU. 

"Mae hyn yn newyddion gwych ond nid da lle gellir gwell. Mae’n canlyniadau ailgylchu wedi cael hwb mawr diolch i’r gwelliannau a’r arbenigedd a gafodd eu darparu gan Lywodraeth Cymru. Dyma pam dw i’n neilltuo £7.5 miliwn ar gyfer y Rhaglen Newid Gydweithredol eleni.

Mae’r rhaglen hynod lwyddiannus hon yn cynnig arian i awdurdodau lleol fanteisio ar arbenigedd busnes a thechnegol i’w galluogi i fabwysiadu’r systemau a nodir yn ein Glasbrint Casgliadau, sy’n dangos yr opsiynau mwyaf cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau rheoli gwastraff ledled Cymru.

Cyhoeddodd y Gweinidog y cyllid yn ystod ei hymweliad â chanolfan ailgylchu Merthyr Tudful. Mae Cyngor Merthyr yn bwriadu buddsoddi’r £1.3m a gafodd ei ddyfarnu iddo mewn peiriannau arbenigol gan gynnwys peiriant byrnio a throlïau.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Kevin O’Neill: 

“Ers rhoi Rhaglen Newid Gydweithredol, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, ar waith, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi gwella o fod ar safle 22  yng Nghymru i fod yn 9fed; a hynny drwy ailgylchu 62% o’i wastraff trefol.

“Ymhlith y newidiadau a wnaed i’r gwasanaethau casglu ar gyfer ailgylchu, mae symud o gasglu gwastraff cymysg i ffrydiau ar wahân, lleihau gwastraff gweddilliol a newid seilwaith depo ailgylchu’r Cyngor. 

“Wrth gwrs, hoffen ni ddiolch yn ddiffuant i holl drigolion Merthyr Tudful sy’n ailgylchu ac sydd wedi ein helpu i gyrraedd y ffigurau ailgylchu hyn.”