Neidio i'r prif gynnwy

Ddeddf Iawndal Tir 1973

A465 rhan 2 Gilwern i Fryn-mawr

  1. Mae Gweinidogion Cymru yn hysbysu drwy hyn fod y darn o briffordd a enwir uchod wedi agor i draffig cyhoeddus ar 21 Tachwedd 2021. Cyfeirir at y dyddiad hwnnw fel y "dyddiad perthnasol".
  2. O dan Ran 1 o Ddeddf Iawndal Tir 1973 (fel y’i diwygiwyd) (y cyfeirir ati yma wedi hyn fel y Ddeddf), gall iawndal gael ei hawlio gan unrhyw un sydd â buddiant cymhwyso mewn tir os yw gwerth y buddiant hwnnw wedi ei ddibrisio o fwy na £50 gan ffactorau ffisegol a achosir oherwydd defnyddio’r briffordd sydd wedi ei newid.  Y ffactorau ffisegol yw sŵn, dirgrynu, arogleuon, mwg a goleuadau artiffisial, a gollwng unrhyw sylwedd solet neu hylifol ar y tir.
  3. Y diwrnod cyntaf pan ellir hawlio iawndal yw’r diwrnod ar ôl diwedd cyfnod o 12 mis o’r dyddiad perthnasol; a gelwir y diwrnod hwnnw y “diwrnod hawlio cyntaf".  Y diwrnod hawlio cyntaf ar gyfer y briffordd hon a newidiwyd yw 21 Tachwedd 2022.  Ac eithrio yn yr amgylchiad a ddisgrifir ym mharagraff 4 o’r hysbysiad hwn, ni ellir gwneud hawliad cyn y diwrnod hawlio cyntaf.
  4. Gellir gwneud hawliad yn ystod y cyfnod rhwng y diwrnod perthnasol a’r diwrnod hawlio cyntaf, yn unig, os yw’r hawlydd wedi gwneud contract naill ai ar gyfer gwerthu ei fuddiant yn yr eiddo neu, yn achos eiddo nad yw’n annedd, ar gyfer rhoi tenantiaeth.  Rhaid i’r hawliad gael ei wneud ar ôl gwneud y contract ond cyn cwblhau’r gwerthiant neu cyn rhoi’r denantiaeth.  Ni all Gweinidogion Cymru  dderbyn hawliad ar ôl cwblhau’r gwerthiant neu ar ôl rhoi’r denantiaeth.  Ni fydd unrhyw iawndal mewn perthynas â hawliad o’r fath yn cael ei dalu cyn y dyddiad hawlio cyntaf.
  5. Yn rhinwedd adran 19(2A) o’r Ddeddf ac o dan Ddeddf Cyfyngiadau 1980, bydd hawliad yn cael ei wahardd ar sail amser os na fydd yr hawlydd, o fewn cyfnod o chwe blynedd, sy’n cychwyn gyda’r diwrnod hawlio cyntaf, naill ai:  a) Wedi cytuno mewn ysgrifen ar gynnig o iawndal (gan gynnwys unrhyw dreuliau prisio a threuliau cyfreithiol rhesymol), a wneir mewn ysgrifen gan Weinidogion Cymru; neu b) Os na wnaed cytundeb o’r fath, wedi atgyfeirio’r mater i’r Tribiwnlys Tiroedd er mwyn i’r Tribiwnlys bennu’r iawndal.  Unwaith y bydd hawliad wedi ei wahardd ar sail amser o dan Ddeddf Cyfyngiadau 1980, ni ellir gwneud yn ofynnol wedyn fod Gweinidogion Cymru yn talu iawndal.
  6. Ni ellir hawlio iawndal o dan Ran 1 o’r Ddeddf pan fo rhan o’r eiddo wedi ei gaffael ar gyfer cyflawni’r newidiadau i’r briffordd. Yn hytrach, telir iawndal o dan reolau gwahanol am dir a gaffaelwyd.
  7. Er mwyn hawlio iawndal o dan Ran 1 o’r Ddeddf, rhaid i fuddiant cymhwyso yn y tir fod wedi ei gaffael cyn i’r newidiadau gael eu cwblhau a’u hagor am y tro cyntaf i draffig cyhoeddus.  Yn ogystal, rhaid i’r hawlydd fod yn dal y buddiant cymhwyso ar y dyddiad y gwneir yr hawliad.  Rhaid i’r hawlydd allu dangos tystiolaeth o’i fuddiant yn yr eiddo pan ofynnir iddo wneud hynny gan Weinidogion Cymru.  Ni thelir iawndal os na fydd modd dilysu buddiant cymhwyso’r hawlydd yn yr eiddo. Pennir y buddiannau hynny mewn tir sy’n gymwys ar gyfer iawndal yn adran 2 o’r Ddeddf. 
  8. Asesir iawndal drwy gyfeirio at y prisiau eiddo sy’n gyfredol ar y diwrnod hawlio cyntaf.  Cymerir i ystyriaeth y defnydd o’r briffordd  fel y mae’n bodoli ar y diwrnod hawlio cyntaf.  Cymerir i ystyriaeth yn ogystal unrhyw ddwysáu y gellid yn rhesymol ei ddisgwyl wedyn yn y defnydd o’r briffordd a newidiwyd, yn y cyflwr y mae ynddo ar y diwrnod hawlio cyntaf.
  9. Gall unrhyw berson, sydd â hawl ganddo i fuddiant cymhwyso ac yn credu y caiff wneud hawliad o dan Ddeddf Iawndal Tir 1973, gael gwybodaeth bellach a ffurflen hawlio, drwy anfon e-bost at part1claims@llyw.cymru neu drwy ysgrifennu at y Tîm Hawliadau Rhan 1 a Sŵn, Seilwaith yr Economi, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ, gan ddyfynnu’r cyfeirnod BZ910182B-431-1
  10. Crynodeb yn unig o’r gyfraith a geir yn yr hysbysiad hwn.  Ni fwriedir iddo fod yn ddatganiad cyflawn o’r gyfraith.  Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwneud hawliad ystyried cael cyngor proffesiynol annibynnol.

Yr atodlen

Mae 8km o’r A465 rhwng cyffordd Glanbaiden yng Ngilwern a chylchfan Bryn-mawr wedi’i droi’n ddwy lôn i’r ddau gyfeiriad. Mae gwella yr A465 yn hanfodol i adfywiad cymdeithasol ac economaidd ardal Blaenau’r Cymoedd.

Gellir cael copi o’r hysbysiad hwn mewn print bras drwy alw’r Tîm Hawliadau Rhan 1 a Sŵn ar 03000 256475.

 

Sian Dawes
Iawndal a Rheoli Tir