Hawliau, parch, cydraddoldeb: canllawiau ar gyfer rhieni a gofalwyr
Canllaw i rieni a gofalwyr ar atal, adnabod ac ymateb i fwlio, a chefnogi plant a phobl ifanc.
Ar y dudalen hon
Cynulledifa’r canllawiau hyn
Mae'r canllawiau hyn ar gyfer rhieni, gofalwyr a theuluoedd plant a phobl ifanc sy'n mynychu ysgolion a lleoliadau addysg yng Nghymru.
Mae'r cyngor hwn yn rhan o gyfres o ganllawiau, sy'n darparu gwybodaeth i bob aelod o gymuned yr ysgol mewn perthynas ag atal bwlio ac ymateb iddo.
Mae'r canllawiau hyn yn diweddaru ac yn disodli'r canllawiau i rieni a gofalwyr a gyhoeddwyd yn 2019.
Cyflwyniad
Mae gan bob plentyn yr hawl i deimlo'n ddiogel, a'i fod yn cael ei barchu a'i gynnwys yn yr ysgol.
P'un a yw bwlio yn digwydd mewn ysgol, ar-lein neu yn rhywle arall, gall ei effaith ar les plentyn ymestyn i bob agwedd ar ei fywyd. Gall effeithio ar ei hyder, ei les emosiynol, ei iechyd meddwl, ei gyfeillgarwch ag eraill a'i bresenoldeb yn yr ysgol.
Fel rhiant neu ofalwr, chi yn aml yw'r cyntaf i sylwi os nad yw eich plentyn yn ymddwyn fel ef ei hun, ac rydych yn chwarae rôl bwysig drwy ei gefnogi pan fydd anawsterau yn codi.
Mae'n naturiol teimlo ystod o emosiynau wrth ddarganfod bod eich plentyn yn cael ei fwlio neu'n bwlio eraill. I ddechrau, gall beri gofid ichi, eich digio, eich gwneud yn drist a gwneud ichi deimlo'n euog, ond mae'n bwysig cofio bod yna ffordd ymlaen.
Mae’r canllawiau hyn yn egluro:
- beth yw bwlio
- sut y gallwch gefnogi eich plentyn os bydd pryderon yn codi
- sut mae disgwyl i ysgolion ymateb a sut y gallwch chi weithio gyda'ch gilydd
- ble i ddod o hyd i gymorth a chefnogaeth ychwanegol
Beth yw bwlio
Nid oes diffiniad cyfreithiol o fwlio yng Nghymru nac yn y DU. Fodd bynnag, yr hyn a olygir yn gyffredinol yw ymddygiad gan unigolyn neu grŵp sy'n achosi niwed corfforol neu emosiynol bwriadol, ac sydd yn aml yn digwydd dro ar ôl tro dros gyfnod.
Gall bwlio ymddangos ar sawl ffurf; gall olygu cam-drin corfforol, geiriol neu emosiynol. Gall gael ei gyflawni gan unigolyn neu gan grŵp, a gall ddigwydd o flaen cynulleidfa i arddangos grym neu i ddod yn fwy poblogaidd. Gall gynnwys elfen o gyfrinachedd i sicrhau na fydd oedolion yn ymwybodol ohono.
Mae bwlio yn wahanol i ddadl, neu gweryl rhwng ffrindiau, oherwydd yn gyffredinol:
- mae’n fwriadol
- mae anghydbwysedd neu anghydbwysedd ymddangosiadol mewn pŵer rhwng y plentyn neu’r person ifanc sy’n bwlio a’r unigolyn sy’n cael ei fwlio
- mae'n creu gofid, ofn, unigrwydd, a theimladau o gywilydd ac o fod yn ddiymadferth
Fel rheol, nid yw anghytundebau, problemau rhwng ffrindiau neu ymddygiad angharedig achlysurol yn fwlio. Fodd bynnag, rhaid herio pob ymddygiad annerbyniol, ac efallai y bydd angen cymorth ar blant sy'n rhan o’r sefyllfa.
Mathau o fwlio
Gall bwlio ymddangos ar sawl ffurf, a gall ddigwydd wyneb yn wyneb neu ar-lein. Mae rhai mathau o fwlio yn amlwg ond gall fod yn anoddach gweld mathau eraill.
Dyma rai enghreifftiau o fwlio:
- galw enwau sy'n brifo, pryfocio, bygwth neu godi cywilydd bwriadol
- taro, cicio, gwthio, baglu neu ddychryn mewn ffordd gorfforol
- dwyn, cuddio neu ddifrodi eiddo
- lledaenu sibrydion am unigolyn
- eithrio neu ynysu unigolyn yn fwriadol
- rhoi pwysau ar rywun i wneud rhywbeth nad yw eisiau ei wneud
Bwlio ar-lein
Yn aml, mae bwlio ar-lein yn barhad o fwlio sy'n digwydd wyneb yn wyneb, ond gall ddigwydd ar wahân hefyd drwy blatfformau fel y cyfryngau cymdeithasol, apiau negeseua neu gemau ar-lein. Gall gynnwys:
- anfon negeseuon sy'n brifo, sy'n fygythiol neu'n ymosodol
- rhannu deunydd niweidiol, ffug neu sy'n codi embaras ar rywun
- eithrio rhywun o grwpiau, sgyrsiau neu gemau ar-lein
- esgus bod yn rhywun arall ar-lein i beri gofid i rywun neu godi embaras arno
- rhannu delweddau neu fideos heb gydsyniad, gan gynnwys deunydd a gynhyrchir gan AI
- defnyddio platfformau ar-lein i aflonyddu, bygwth, cywilyddio neu orfodi eraill
Er mai drwy dechnoleg y mae bwlio ar-lein yn digwydd, gall ei effaith fod yr un mor fawr â bwlio sy'n digwydd wyneb yn wyneb.
Gall bwlio ar-lein deimlo'n ddi-ildio oherwydd:
- gall ddigwydd ar unrhyw adeg
- gall gyrraedd cynulleidfa eang yn gyflym
- gall yr unigolyn sy'n bwlio fod yn anhysbys
- gall gynnwys delweddau neu fideos sy'n anodd eu dileu
Dylai rhieni a gofalwyr roi gwybod am fwlio ar-lein i ysgolion. Dylai ysgolion gymryd camau gweithredu lle mae bwlio ar-lein yn effeithio ar les plentyn, hyd yn oed os yw'n digwydd y tu allan i oriau'r ysgol.
Pan fydd tynnu coes yn fwlio
Mae plant a phobl ifanc weithiau yn cyfeirio at ymddygiad penodol fel dynnu coes neu jôc. Fel rheol, nid yw jôc gyfeillgar rhwng plant o bŵer cyfartal yn cael ei ystyried yn fwlio. Fodd bynnag, lle mai bwriad ymddygiad yw brifo, codi cywilydd, dychryn neu eithrio rhywun, neu lle mae plentyn yn teimlo nad yw'n gallu ei stopio, gall groesi'r llinell i fod yn fwlio.
Mae rhagor o wybodaeth am elfennau unigryw bwlio ar gael yn 'Herio bwlio ac aflonyddu: canllawiau ar gyfer ysgolion'.
Bwlio sy'n gysylltiedig â rhagfarn
Weithiau mae bwlio yn gysylltiedig â rhagfarn neu wahaniaethu ar sail hunaniaeth rhywun. Mae ymddygiad sy’n gysylltiedig â rhagfarn yn aml yn adlewyrchu ac yn atgyfnerthu stereoteipiau a syniadau sy'n gwahaniaethu yn erbyn pobl, sydd i'w gweld yn y gymdeithas ehangach.
Disgwylir i ysgolion leihau unrhyw anfanteision y mae plant neu bobl ifanc yn eu hwynebu yn sgil Nodweddion Gwarchodedig. Yng nghyd-destun ysgol, gall hyn gynnwys rhoi ystyriaeth ofalus i'r dysgwyr canlynol o fewn eu strategaeth atal bwlio:
- dysgwyr anabl
- dysgwyr LHDTC+
- dysgwyr ethnig leiafrifol
- dysgwyr o gefndir crefyddol
Mae ymddygiad sy’n gysylltiedig â rhagfarn hefyd yn ymestyn y tu hwnt i’r Nodweddion Gwarchodedig i ragfarnau am agweddau eraill ar hunaniaeth neu brofiad unigolyn, gan gynnwys:
- profiad o fod mewn gofal
- statws cymdeithasol
- incwm teuluol
- hunaniaeth genedlaethol
- iaith
- acen
- stereoteipiau rhywedd
- ymddangosiad, er enghraifft siâp corff, ffyrdd o wisgo neu liw gwallt
- dysgwyr ag anghenion iechyd a lles emosiynol
- dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol
Fel pob math o fwlio, gall bwlio sy'n gysylltiedig â rhagfarn achosi niwed sylweddol. Oherwydd ei fod yn targedu agweddau ar hunaniaeth, cefndir neu wahaniaethau canfyddedig plentyn, gall gael effaith arbennig o ddwfn ac, mewn rhai achosion, gall hefyd fod yn fater diogelu neu droseddol. Disgwylir i ysgolion ymateb yn brydlon ac yn effeithiol i bob achos o fwlio.
I gael gwybodaeth am derminoleg a ddefnyddir yn y canllawiau hyn neu sy'n ymwneud â bwlio neu aflonyddu, gweler yr adran 'Diffiniadau o'r termau' yng nghanllawiau 'Herio bwlio ac aflonyddu' ar gyfer ysgolion.
Dechrau sgyrsiau am fwlio
Os ydych chi'n poeni bod eich plentyn yn cael ei fwlio, gall gofyn y cwestiynau canlynol iddo helpu.
- Sut oedd yr ysgol heddiw?
- Beth wnest ti yn yr ysgol heddiw?
- Gyda phwy wnest ti chwarae neu dreulio amser?
- Beth wnest ti chwarae neu ei wneud?
- Beth wnest ti ei fwynhau heddiw?
- Pwy arall fyddet ti wedi hoffi chwarae neu dreulio amser gyda nhw, a pham?
- Beth arall fyddet ti wedi hoffi ei chwarae neu ei wneud?
- Beth wnest ti amser egwyl neu amser cinio?
- Wyt ti'n teimlo croeso yn yr ysgol, a pha mor gyfeillgar neu gefnogol yw'r plant a'r bobl ifanc eraill?
- Wyt ti'n edrych ymlaen at yr ysgol yfory?
Nid yw pob plentyn a pherson ifanc yn ei chael yn hawdd siarad am gael eu bwlio. Os nad yw eich plentyn yn hoffi siarad am ei deimladau neu os oes ganddo anawsterau cyfathrebu, gallech:
- ddefnyddio teganau, pypedau neu anifeiliaid er enghraifft anifail anwes teuluol, i annog eich plentyn i siarad – efallai y bydd eich plentyn yn teimlo'n fwy cyfforddus yn siarad â rhywbeth nad yw'n gallu ymateb neu siarad yn ôl am yr hyn sy'n digwydd
- gofyn i'ch plentyn dynnu llun o sut mae'n teimlo neu o beth mae wedi bod yn ei wneud
- defnyddio graddfeydd i nodi sut mae eich plentyn yn teimlo ar wahanol adegau yn ystod y dydd
- defnyddio lluniau o wynebau neu emojis sy'n mynegi gwahanol deimladau
- defnyddio lluniau mewn llyfrau neu gymeriadau o ffilmiau neu raglenni teledu i drafod sut mae'n teimlo
- defnyddio cerddoriaeth i helpu eich plentyn i ddweud wrthych sut mae'n teimlo.
Sut i adnabod yr arwyddion bod eich plentyn yn cael ei fwlio
Efallai y bydd eich plentyn yn dweud yn glir wrthych ei fod yn cael ei fwlio, ond mae arwyddion eraill i wylio amdanynt, a allai awgrymu ei fod yn cael ei fwlio, gan gynnwys:
- dillad neu fag ysgol wedi'u difrodi
- 'colli' eiddo
- toriadau croen neu friwiau
- amharodrwydd i fynd i'r ysgol neu i gymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp yr oedd yn dangos diddordeb ynddynt o'r blaen
- anawsterau cysgu
- newidiadau mewn ymddygiad gan gynnwys colli archwaeth neu wlychu'r gwely
- newidiadau amlwg yn ei hwyliau – mynd yn fewnblyg, iselder, dicter, mynd yn ddagreuol, ypsetio, pryder neu anhapusrwydd
- eisiau newid ei lwybr i'r ysgol neu ei amser teithio
- eisiau newid ysgol.
Fodd bynnag, mae'n bwysig deall y gallai fod rhesymau eraill dros y pethau hyn, felly ceisiwch beidio neidio i gasgliadau. Gofynnwch i chi’ch hun:
- a fu newidiadau eraill, fel newid ysgol neu ddosbarth, neu ffrind yn symud i ffwrdd?
- a fu unrhyw newidiadau yn y cartref, fel babi newydd, ysgariad neu wahanu, perthynas newydd neu farwolaeth aelod o'r teulu neu anifail anwes?
- a allai'r newid mewn ymddygiad neu hwyliau fod yn gysylltiedig â newidiadau cyfnod y glasoed a thyfu i fyny yn gyffredinol?
Os nad oes unrhyw newidiadau wedi bod, ac rydych chi'n amau mai bwlio yw'r rheswm dros y gofid, mae'n bwysig mynd i'r afael â'r mater cyn gynted ag y gallwch.
Cefnogi eich plentyn
Os ydych yn poeni bod eich plentyn yn cael ei fwlio, y pethau pwysicaf yw gwrando arno, ei gysuro, cadw cofnod, a gweithio gyda'r ysgol.
Cysurwch eich plentyn
Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn gwybod:
- nad ei fai ef yw'r bwlio
- ei fod wedi gwneud y peth iawn drwy ddweud wrthych chi
- nad yw'n wan nac ar fai
- y byddwch chi'n ei helpu ac nad oes rhaid iddo ddelio â'r peth ar ei ben ei hun
Ceisiwch beidio cynhyrfu, hyd yn oed os yw'n peri gofid ichi neu'n gwneud ichi deimlo'n ddig. Gwrandewch yn ofalus, gadewch i'ch plentyn esbonio beth sydd wedi digwydd, ac ailadroddwch yr hyn rydych chi wedi'i glywed fel ei fod yn gwybod eich bod chi'n deall.
Efallai y byddwch am ofyn:
- beth ddigwyddodd?
- pryd a ble y digwyddodd?
- pwy oedd yn rhan o’r peth?
- ydy hyn wedi digwydd o'r blaen?
- pwy arall welodd neu sy'n gwybod am y peth?
- beth fyddai'n ei helpu i deimlo'n fwy diogel?
Lle bo'n bosibl, cynhwyswch eich plentyn mewn penderfyniadau am yr hyn sy'n digwydd nesaf fel ei fod yn teimlo eich bod yn gwrando arno ac yn ei gefnogi.
Cadwch gofnod
Gall helpu i gadw nodyn o:
- beth ddigwyddodd
- pryd a ble y digwyddodd
- pwy oedd yn rhan o'r peth
- pwy oedd yn dyst i'r peth
- unrhyw effaith ar eich plentyn
- unrhyw gyswllt rydych chi wedi'i gael gyda'r ysgol
- pa gamau y cytunwyd arnynt
Os yw'r bwlio ar-lein, anogwch eich plentyn i arbed y dystiolaeth. Gallai tystiolaeth gynnwys sgrinluniau, negeseuon, delweddau, enwau defnyddwyr, dyddiadau ac amseroedd. Gall hyn helpu'r ysgol i ddeall beth sydd wedi digwydd.
Cefnogwch eich plentyn o ran sut mae'n teimlo
Gallwch helpu eich plentyn drwy:
- ei annog i siarad am sut mae'n teimlo
- canmol ei gryfderau a'r pethau mae'n eu gwneud yn dda
- ei helpu i dreulio amser gyda ffrindiau neu deulu y mae'n ymddiried ynddynt
- annog gweithgareddau sy'n meithrin hyder, fel chwaraeon, celf, cerddoriaeth, clybiau neu hobïau
- ei atgoffa bod gofyn am help yn dangos cryfder, nid gwendid
Osgowch roi pwysau ar eich plentyn i wrthsefyll y rhai sy'n ei fwlio neu i reoli'r sefyllfa ar ei ben ei hun. Dylai'r ffocws fod ar sicrhau ei fod yn ddiogel, yn cael ei gefnogi a bod rhywun yn gwrando arno.
Delio â bwlio ar-lein
Gall bwlio ar-lein deimlo fel rhywbeth parhaus, sy'n anodd dianc rhagddo. Gall ddigwydd drwy gyfryngau cymdeithasol, apiau negeseua, platfformau gemau, sgyrsiau grŵp neu fannau ar-lein eraill.
Gallwch gefnogi eich plentyn drwy ei helpu i:
- flocio neu dawelu'r person dan sylw
- arbed tystiolaeth cyn dileu unrhyw beth
- rhoi gwybod i'r platfform, yr ap neu'r gêm am gynnwys niweidiol
- osgoi ymateb i negeseuon sy'n brifo
- siarad â'r ysgol os yw'r bwlio yn cynnwys dysgwyr eraill
Efallai y bydd yn demtasiwn tynnu ffôn eich plentyn oddi wrtho yn llwyr, neu ei stopio rhag mynd ar-lein, ond gallai hyn wneud iddo deimlo ei fod wedi'i ynysu. Yn lle hynny, ceisiwch gytuno ar ffiniau rhesymol gyda'ch gilydd a helpu eich plentyn i ddefnyddio gosodiadau preifatrwydd, adnoddau rhoi gwybod am broblem, a ffynonellau cymorth dibynadwy.
Gweithio gydag ysgol eich plentyn
Gellir datrys y rhan fwyaf o bryderon am fwlio drwy weithio gyda'r ysgol.
Efallai y byddai o gymorth:
- cysylltu ag athro neu diwtor dosbarth eich plentyn, neu'r pennaeth blwyddyn
- esbonio'n glir beth sydd wedi digwydd
- rhannu unrhyw dystiolaeth sydd gennych
- gofyn pa gymorth fydd yn cael ei roi ar waith ar gyfer eich plentyn
- cytuno sut a phryd y bydd y sefyllfa yn cael ei hadolygu
Disgwylir i ysgolion gymryd bwlio o ddifrif, ymateb yn briodol, a chefnogi'r plentyn sydd wedi cael ei niweidio. Dylent hefyd weithio gyda'r plentyn a oedd yn gyfrifol am y bwlio er mwyn ceisio atal y peth rhag digwydd eto.
Sut y dylai ysgolion ymateb
Yng Nghymru, disgwylir i ysgolion:
- wrando'n ofalus a chymryd pryderon o ddifrif
- gweithredu'n brydlon
- cefnogi'r plentyn sydd wedi cael ei niweidio
- ymateb mewn ffordd dosturiol sy'n ystyriol o drawma
- cofnodi a monitro digwyddiadau
- gweithio gyda phlant sy'n bwlio i helpu i newid yr ymddygiad hwnnw
- cynnwys rhieni a gofalwyr lle bo'n briodol
- cymryd camau i leihau'r risg y bydd bwlio yn digwydd eto
Nid yw tynnu plentyn o'r ysgol, ei feio, neu ddisgwyl iddo ymdopi ar ei ben ei hun yn ymateb priodol.
Os nad ydych yn fodlon ag ymateb yr ysgol
Os ydych yn teimlo nad yw'r pryder wedi'i gymryd o ddifrif neu na ymdriniwyd yn briodol ag ef, gallwch ofyn i'r ysgol beth yw'r cam nesaf o dan ei gweithdrefn gwyno.
Gallwch:
- ofyn am gyfarfod gydag uwch staff
- gofyn am gopi o bolisi gwrth-fwlio, ymddygiad neu gwynion yr ysgol
- nodi eich pryderon yn ysgrifenedig
- cadw cofnod o bob cyswllt gyda'r ysgol
- cysylltu â'r awdurdod lleol am gyngor os oes angen
Ceisiwch beidio cysylltu â phlant neu deuluoedd eraill yn uniongyrchol, boed hynny wyneb yn wyneb neu ar-lein, gan y gall hyn wneud y sefyllfa yn anoddach ei datrys. Fel rheol, y peth gorau i'w wneud yw gweithio drwy brosesau'r ysgol.
Os yw eich plentyn wedi bwlio plentyn arall
Gall clywed bod eich plentyn wedi bwlio rhywun arall achosi gofid ichi. Nid yw hyn yn golygu bod eich plentyn yn berson drwg, ond mae angen stopio'r ymddygiad.
Gallwch helpu drwy:
- beidio cynhyrfu a gwrando ar yr hyn sydd wedi digwydd
- canolbwyntio ar yr ymddygiad, nid labelu eich plentyn
- ei helpu i ddeall effaith ei weithredoedd
- siarad am garedigrwydd, empathi a pharch
- cefnogi camau gweithredu a disgwyliadau'r ysgol
- helpu eich plentyn i wneud iawn am ei ymddygiad lle bo hynny'n briodol
Dylai ysgolion ystyried beth allai fod y tu ôl i'r ymddygiad a gweithio gyda phlant i'w helpu i wneud dewisiadau gwell, cywiro niwed ac ailadeiladu'r berthynas lle bo'n bosibl.
Rhagor o gyngor a chymorth
Bullies Out
Elusen wrth-fwlio sydd wedi'i lleoli yng Nghymru ac sy'n gweithio gydag unigolion, ysgolion a cholegau, yn ogystal â lleoliadau ieuenctid a chymunedol.
Mae'r elusen yn cynnig gwasanaeth e-fentora ar-lein.
Anti-bullying Alliance
Cynghrair o sefydliadau ac unigolion sy'n darparu gwybodaeth i ysgolion, rhieni, gofalwyr, plant a phobl ifanc ar bob agwedd ar fwlio.
Kidscape
Elusen wrth-fwlio sy'n darparu ymyriadau i blant ac yn gweithio gydag ysgolion a'r gymuned.
The Diana Award
Canolfan gymorth ac adnoddau ar-lein i bobl ifanc, rhieni, gofalwyr ac addysgwyr gael gwybodaeth.
Y Samariaid
Elusen gofrestredig i ddarparu cymorth emosiynol i unrhyw un mewn trallod emosiynol drwy ei llinell gymorth ffôn am ddim, e-bost, sgwrs fyw, a gwasanaethau eraill.
Rethink
Gwasanaeth cyngor a gwybodaeth sy’n darparu cyngor ymarferol ar ystod eang o bynciau fel mynediad at wasanaethau iechyd meddwl a gofal cymdeithasol, triniaethau a chyfreithiau iechyd meddwl, a chyngor i ofalwyr.
Mencap
Mae Llinell Gymorth Anabledd Dysgu Cymru yn cynnig gwybodaeth a chyngor ar hawliau pobl ag anabledd dysgu.
Meic
Gwasanaeth llinell gymorth sy'n darparu gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru.
Childline
Mae Childline yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol sydd ar gael unrhyw adeg, ddydd neu nos, lle gallwch siarad am unrhyw beth.
Kooth
Gwasanaeth cymorth iechyd meddwl digidol sy'n darparu mynediad hawdd i blant a phobl ifanc i gymuned ar-lein o gyfoedion a thîm o gwnselwyr profiadol.
CALL
Llinell gymorth iechyd meddwl i Gymru sy'n cynnig cymorth emosiynol, a gwybodaeth a llenyddiaeth am iechyd meddwl a materion cysylltiedig
Family Lives
Gwasanaeth llinell gymorth cyfrinachol i deuluoedd, sy'n cynnig cymorth emosiynol, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar unrhyw agwedd ar rianta a bywyd teuluol. Gellir cysylltu â’r llinell gymorth ar 0808 800 2222.
Parent Zone
Yn cynnig gwasanaethau ac adnoddau i rieni a theuluoedd i wella bywyd i blant yn y byd digidol.
Young Minds
Llinell gymorth i rieni a gofalwyr, sy'n darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth o ran iechyd meddwl neu les plentyn neu berson ifanc. Gellir cysylltu â’r llinell gymorth ar 0808 802 5544.
NSPCC
Mae llinell gymorth NSPCC yn caniatáu ichi roi gwybod am achosion o gam-drin ac esgeuluso plant. Gallwch hefyd gael cyngor os ydych yn poeni am blentyn ac yn ansicr beth i'w wneud.
Internet Watch Foundation
Mae gwefan Internet Watch Foundation yn caniatáu ichi roi gwybod os ydych yn amau bod delweddau neu fideos ar-lein yn dangos plant yn cael eu cam-drin yn rhywiol.
Canolfan Cymorth Casineb Cymru (Cymorth i Ddioddefwyr)
Mae gwefan Canolfan Cymorth Casineb Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn caniatáu ichi roi gwybod am droseddau casineb a chael cymorth pwrpasol. Mae hyn yn cynnwys gwasanaeth penodol i blant a phobl ifanc.
Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein
Mae gwefan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein yn caniatáu ichi roi gwybod am achosion a amheuir o gam-drin plant yn rhywiol, camfanteisio neu gam-drin rhywiol ar-lein.
Llinell Gymorth Beat
Mae'n cynnig gwasanaeth sy’n darparu cyngor a chymorth cyfrinachol i unigolion y mae anhwylderau bwyta yn effeithio arnynt, ond hefyd cyngor a chymorth i ddisgyblion yn gyffredinol ac athrawon, gan gynnwys ynghylch delwedd unigolion o'u corff.
Comisiynydd Plant Cymru
Mae'n cynnig gwasanaeth sy'n rhannu cyngor a chymorth i bobl ifanc neu'r rhai sy'n gofalu amdanynt os ydynt yn teimlo bod plentyn wedi cael ei drin yn annheg.
Sefydliad Lucy Faithfull
Mae'n cynnig llinell gymorth a chyngor i bobl ifanc yn eu harddegau sy’n poeni am ymddygiad rhywiol, gan gynnwys arweiniad ar gydberthnasau iach a ffiniau.
Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r canlynol:
- canllawiau a chymorth ymarferol ar gyfer rhieni a gofalwyr i helpu eu plentyn i ddelio â bwlio
- adnoddau dosbarth, gwybodaeth a chyngor ynghylch Cadw’n Ddiogel Ar-lein: bwlio ar-lein ar gyfer ysgolion, dysgwyr a'u teuluoedd
- canllawiau ynghylch apiau sy'n rhoi gwybodaeth allweddol i deuluoedd am y cyfryngau cymdeithasol a'r apiau gemau mwyaf poblogaidd y mae plant a phobl ifanc yn eu defnyddio heddiw
